1CHwitheu arglwyddi, gwnewch ich gweision, hyn ’sy gyfion, ac vnion, gan yvvch wybot vot y chwi hefyt Arglwydd yn y nefoedd.
2Parhewch yn gweddie, gan wilied ynthwynt y gyd a diolvvch,
3gan weddiaw hefyt drosom ni, ar y Dduw agori i ni ddrws yr ymadrodd, y adrodd y dirgelwch Christ: am yr hwn yddwyf hefyt yn rhwymedic,
4val eu eglurhawyf, sef megis y mae yn raid i mi ymadrodd.
5Rodiwch yn ddoeth tu at yr ei ’n ys ydd allan, a’ phrynwch yr amser.
6Byddet eich ymadrodd yn rhadlawn yn ’oystatawl, ac wedy ei gyfansoddi a’ halen, val y gwypoch atep i bop dun.
7Tychicus ein caredic vrawd a’ ffyðlon wenidoc, a’ chydwas yn yr Arglwyð, a veneic y’wch veu oll gyflwr,
8yr hwn a’ ddāvoneis atoch er mwyn hyn yma val y gwybyddei ef eich cyflwr, a’ chonforto eich calonae,
9y gyd ac Onesimus y ffyddlon a’ charedigavvl vrawt, yr hwn ’sy vn o hanoch. Yn hwy a espesant y’wch am bop peth ’sy yma.
10Y mae Aristarchus veu‐cydgarcharor yn erchi yn eich anerch, a’ Marcus nai‐vap‐chwaer i Barnabas (o bleit yr hwn yd erbyniesoch ’orchymynion, a’s daw ef atoch derbyniwch ef)
11ac Iesu yr hwn a elwir Iustus, yr ei ynt o’r enwaediat. Yr ei hyn yn vnic yw veu‐cydweithwyr i deyrnas Dduw, yr ei a vuāt y mi yn ddiddanwch.
12Epaphras gwas Christ, yr hwn’sy vn o hanoch, ’sydd ich anerch, ac yn ’oystastol yn ymdrino drosoch yn‐gweddieu, ar y‐chwy sefyll yn perfeith, ac yn gyflawn yn oll ’wyllys Duw.
13Can ys ydd wyf yn testiolaethu, vot ganto wynvyd mawr y drosoch, a’ thros yr ei o Laodiceia, a’r ei o Hierapolis.
14Lucas y meddic y caredigol ’sydd ich anerch, a’ Demas.
15Anerchwch y broder ’rei ’sy o Laodiceia, a’ Nymphas, a’r Eccles ysyð yn y duy ef.
16A’ phan ðarllenir yr epistol hwn y genwch, perwch hefyt ei ddarllen yn Eccles y Laodiceieit, a’ bot y chwi hefyt ðarllen yr epistol a scrivenwyt o Laodiceia.
17A’ dywedwch wrth Archippus, Edrych ar y gwenidogeth, a dderbyniaist yn yr Arglwydd, val ei cyflawnych.
18Yr anerchiad a’r llaw veuvi Paul. Cofiwch veu rhwymeu. Rat y gyd a chwi, Amen .
*
O Ruuein yd scrivenwyt ad y Colossieit ac anvonwyt drwy law Tychicus ac Ouesimus.
D.q.ij.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.