1AC wedy yddwynt ddianc yn‐iach, yno y gwybuant mae Melita y gelwit yr ynys.
2A’r Barbarieit a ðangosesant yni hawðgarwch nid‐bychan: can ys wy a gynneuson dan, ac an derbyniesant y gyd oll, o bleit y gawat gynnyrchiol, ac o bleit yr oervel.
3A’ gwedy casclu o Paul talm o vriwyð, a’ ei dody ar y tan, e ddaeth gwiper allan o’r gwres, ac a ruthrawð y ei law.
4A’ phan welawdd y Barbarieit y bwystvil yn‐crog wrth ei law, y dywedent yn ei plith ehunain, Yn sicr lleiddiat yw’r dyn hwn, yr hwn cyd diangawdd or mor, ny’s gad dialedd i vyw.
5Ac ef e a yscytwodd y bwystvil y wrtho ir tan ac ny bu arno ddim eniwed.
6Eithyr wyntvvy a ddysgwilient gantaw am chwyddo, nai dygwyddo y lawr yn ddysyvyt yn varw: ac wynt yn hir o amser yn edrych, ac eb welet dim ancyflwr yn dygwyð iddaw, troi ei meddwl a wnaethant, a’ dywedyt, Mae Dew ytoedd ef.
7Yn y cyfleoedd hyny, ydd oeð tiredd i bennaeth yr ynys, (aei enw oedd ef Publius) yr hwn an erbyniawdd, ac ’an lletyawdd dros dri‐die yn anwyl.
8At e dderyw, bot tad Publius yn gorwedd yn glaf o gryd, a’ darymred gwaedlyt; ac attaw ydd aeth Paul y mewn, a’ gwedy iddo weddiaw, y dodes ei ddwylo arnaw, ac yr iachaodd ef.
9A’ gwedy gwneythyd hynn, yr‐eill hefyt or ynys, ar oedd heintiae arnynt, a ðaeth attaw, ac eu iachawyt:
10yr ei an parchasont yn vawr iawn: ac wrth longi o hanam, in llwythesant a phethae angenreidiol.
11Ac ar ben y trimis ir aetham ir mor mewn llong o Alexandria, yr hon y vesei yn gaeafy yn yr ynys a’i harwyð hi oeð Castor ac Pollux.
12Ac wedy ein dyvot i Syracusa y trigesam yno dri‐die:
13Ac odd yno y cyrchasam amgylch, ac y daetham i Rhegium: ac yn ol vn dydd, y chwythawdd Dehauwynt, ac y daetham yr ail dydd i Puteoli,
14lle causam vroder, ac in deisyfwyt i drigo gyd ac wynt saith diernot, ac velly ydd aetham parth a Ruuein.
15Ac o ddyno, pan glybu yr broder oddywrthym, y daethant y gyfarvot a ni yd ym‐Marchnat Appius, a’r Tair tavarn, yr ei pan welawdd Paul, diolvvch i Ddeo a wnaeth, a bot yn hyderus.
16Ac vel’y wedy ein dyvot i Ruuein, y rhoðes y Cāwriat y carcharoriou at y Captaen‐goruchaf: eithyr Paul y adwyt y drigo vvrtho ehun y gyda milwr oedd y ei gadw.
17Ac ar ben y tridie, y galwoð Paul bēnaethieit yr Iuðeon yn‐cyt: Ac wedy ei dyvot, y dywedawdd wrthwynt, Ha‐wyr vroder, cyd na wneythym ddim yn erbyn y popul, nai Cyfreithiae yrtadae eto, im rroðwyt i yn garcharawr o Gaerusalem i ðwylo y Ruueinwyr,
18y r ei wedy darvot yð wynt vy holi, a vynesent vy‐gellwng ymaith, can nad oedd ðim achos angae ynof.
19Eithyr can vot yr Iuðaeon yn gwrthðywedyt, im cympellwyt i appelo ar Caisar, nid o herwydd bot genyf ddim y achwyn ar vy‐cenedl.
20Ac or achos hyn y galweis am danoch, y eich gwelet, ac y gydgympwyl’ a chvvi: er mvvyn gobaith yr Israel im cylchynir a’r catwin hon.
21Ac wythe a ðywedesōt wrtho. Ny wnaetham ni na chael l’ythyre o Iuðaia am danat, na dyvot neb o’r broder a venegoð nei a ddyvot dim anvad am danat.
22Eithyr ni wyllysē glywet genyt’ pa beth a synny: can ys am y sect hon, y mae yn wybodedic genym, vot ym‐pop lle yn ei gwrthðywedyt.
23A’ gwedy gosot diernot iddo, e daeth llaweredd attaw ir hospyty, i ba rei yd esponiodd ac testolaethawdd ef deyrnas Dew, ac a precethawð yddwynt am yr Iesu ac o Ddeddyf Moysen ac or Prophwyti, o’r borae yd ’osper.
24A’r ei a gydsynient a’r y pethae, ry ðywedesit, a’r ei ny chredent.
25A’ phryt nad oedden yn cydcordio yn ei plith ei hunain, ymadael a wnaethant, gwedy dywedyt o Paul vn gair, nid amgen, Da y llavarawdd yr Yspryt glan trwy Esaias y Prophet wrth ein tadae,
26gan ddywedyt, Cerdda at y popul hyn, a’ dyweit, Yn clywet y clywch, ac ny ðeallwch, ac yn gwelet y gwelwch, ac ny chanvyddwch.
27Can ys calon y popul hynn a vrassawyt, ac aei clustiae ys pwl y clywant, a’ei llygait a gaeasont, rac bot yddwynt welet a ei llygait, a’ chlywet a ei clustiae, a’ deall a ei calonae, ac ymchwelyt y n yd iachawn i hwy.
28Gwybodedic gan hyny vo ychwy, mae yr iechydvvrieth hwn gan Ddew a ðanvonwyt ir Genetloedd, ac wyntvvy ei clywant.
29A’ phan ddyvot ef y pethae hyn, ydd aeth yr Iuddaeon ymaith, gan vot ymresymy mawr ganthwynt yn ei plith ehunain.
30Ac Paul a drigawdd ddwy vlynedd yn ei duy ardrethol, ac a dderbyniawdd bawp oll a ddaeth y mewn attaw,
31gan pregethy teyrnas Ddew, a dyscy cyfryw bethae, ac a ’sydd herwyð yr Arglwydd Iesu Christ, yn gwbyl hyderus, ac eb nep yn gohardd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.