Marc 12 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. xij.Lloci ’r winllan. Bot vvyddtawt a’ theyrnget yn ddyledus i deyrnedd a’ thwysogion. Cyuodedigaeth y meirw. Swmp a’ chrynodab y

Ddeddyf. Christ yn vap Dauid. Bot raid gochelyt yr ei gau sanctaidd. Offrwm y weddw dlawd.

1AC ef a ddechreawdd ymadrawdd wrthynt ym-parabolae, gan ddyvvedyt, Yr oedd gwr a blannai winllan, ac a ei hamgylchynawdd a chae, ac a gloddiawð bwll y dderbyn y gwin ac a adeilawdd dwr ynddi, ac ei llocawdd hi i dir‐ðiwylliawdwyr, ac aeth ymhel’ o y gartref.

2Ac ar dymor, y danvones ef was at y tir-ddiwylliawdwyr, val yd erbyniei ef y gan y tir‐ðiwylliawdwyr o ffrwyth y winllā.

3Ac wy a ei cymersont ef, ac ei bayddesont, ac ei danvonesont ymaith yn wac.

4A’ thrachefyn yd anuones atynt was arall, a ’hwnw a davlasant a’ main, ac ai vriwesont ei ben, ac ei danvonesōt ymaith wedy ei amperchi.

5A’ thrachefyn yd anuones ef vn arall, a hwnw a laddesont, a llawer ereill, gan vayddy ’rei, a’ lladd ’rhei.

6Ac eto ydd oedd iddo vn map ei garedic: a’ hwnw a’ ddanvonawdd ef atynt yn ’ddywethaf, gan ddywedyt, VVy barchant vy map.

7And y tir‐ddiwylliawdwyr hynny a ddywedent yn ei plith ehunain, Hwn yw’r etiuedd: dewch, lladdwn ef, a’r etiueddiaeth vydd y ni.

8Yno y cymersont ef, ac ei lladdesont, ac ei bwriesont y maes o’r winllan.

9Pa peth gan hyny a wna Arglwydd y winllan? E ddaw ac a ddiuetha ’r tir‐ðiwylliawdwyr hyn, ac a rydd y winllan y ereill.

10Ac any ddarllenesoch hyn o Scrythur? Y maen yr hwn a wrthodent yr a deiladwyr, ys hwnw a wnaed yn ben congyl.

11Hyn a wnaethpwyt y gan yr Arglwydd, a ’rhyvedd yw yn ein llygait.

12Yno yr oeddent mewn awyð y’w ddalha ef, and bot arnyn ofn y bopul: can ys dyellent mai yn y herbyn wy y dywedesei y parabol hwnw: am hyny y gadawsont ef, ac ydd aethan i ffordd.

13Ac wy ddanvonesont ataw ’r ei o’r Pharisaieit, ac o’r Herodieit yny ðalient ef yn ei ymadrodd.

14Ac wynteu pan daethāt, a ðywedsant wrthaw, Athro, ys gwyddam mai cywir wyt, ac na ovely am nebun, ac nyd edrychy ar wynebvverrh dynion, amyn yn-gwirioneð y dyscy yn’ ffordd Dduw, Ai cyfreithlawn rhoddi teyrnget i Caisar, ai nyd yvv?

15A ddlem ni ei roddi, ai ny ddlem ei roddi? And ef a wyddiat ei dichell wy, ac a ddyuot wrthynt, Paam y temptiwch vi? Dygwch i mi geinioc, val y gwelwyf y peth.

16Ac wy ei ducesont, ac ef a ddyuot wrthynt, I bwy mae’r ddelw hon a’r argraph? wythe a ddywedsont wrthaw, I Caisar.

17Yno ydd atepodd yr Iesu ac y dyuot wrthynt, Rowch i Caisar yr iddo Caisar, ac i Dduw yr eiddo Duw: a’ rhyueddy a wnaethant wrthaw.

18Yno y daeth y Sadducaieit ataw, (yr ei a ddyweit nad oes cyfodedigaeth) ac a ’ovynesont iddo, gan ddywedyt,

19Athro, Moysen a yscrivenodd y ni, A’s bydd marw brawdd vn, a’ gady ei wreic, ac eb ady plant, mai ei vrawdd a ddyly gymeryd ei wraic, a’ chyuodi had y’w vrawd.

20Ydd oedd saith broder a’r cyntaf a gymerth wreic, a’ phan vu ef varw, ny adawdd ef had.

21Ar ail y cymerth hi, ac e vu varw, ac ny’s gadawdd yntef chvvaith ddim had, a’r trydydd yr vn ffynyt.

22Felly ’r saith y cymersant hi, ac ny adawsant ddim had: yn ddywethaf oll marw o’r wreic hefyt.

23Yn y cyfodedigaeth gan hyny, pan adgyuodant, gwraic y bwy ’n o naddynt vydd hi? can ys perchenogoð y saith y hi yn wraic?

24Yno ’dd atepawdd yr Iesu ac y dyuot wrthynt, Anyd am hyny yð ych yn mynd ar gyfeilorn, can na wyddoch yr Scrythurae, na meddiant Duw.

25Can ys pan adgyyodant o veirw, ny wreicaant, ac ny ’wrant, anyd bot val yr Angelion y sy yn y nefoedd.

26Ac am y meirw, y cyvodir wy drachefn, an y ddarllenesochvvi yn llyuer Moysen, po’dd yn y merinllwyn y llavarawdd Duw wrthaw, gan ddywedyt, Mi yvv Duw Abraham, a’ Duw Isaac, a’ Duw Iacob?

27Nyd yw ef Dduw y meirw, eithyr Duw y bywion: Chwychwi gan hyny ’sy yn mynd ympell ar gyfeilorn.

28Yno y daeth vn o’r Gwyr‐llen y clywsei wy yn ymddadlae, a’ chan wybot ddarvot iddo ei hatep yn dda, y gofynawdd yðaw, Pwy ’n yw’r gorchymyn cyntaf oll?

29Yr Iesu ei atepawdd, Y cyntaf o’r oll ’ochmynion yvv, Clyw Israel, Yr Arglwydd ein Duw, yw’r Arglwydd vnic.

30Cery am hyny yr Arglwydd dy Dduw oth oll galon, ac oth oll enait, ac oth oll veddwl, ac ath oll nerth: hwn yw’r gorchymyn cyntaf.

31Ar ail ysy gyffelyp, ys ef, Cery dy gymydawc val dyun. Nid oes ’orchymyn arall mwy na ’r ei hyn.

32Yno y dyuot y Gwyr‐llen wrthaw, Da, Arglwydd, ys dywedeist y gwirionedd, mai vn Duw ’sy, ac nad oes arall amyn ef.

33A’ ei gary ef a’r oll galon, ac a’r oll ddyall, ac a’r oll enait, ac ar oll nerth, a’ chary ei gymydawc mal y un, ’sy vwy nag oll boeth‐offrymae ac aberthae.

34Yno yr Iesu yn ei weled ef yn atep yn ddisseml, a ddyvot wrthaw, Nyd wyt yn e pell ywrth teyrnas Duw. Ac ny veiddiawdd nep mwyach ymovyn ac ef.

35A’r Iesu a atepawdd ac a ddyuot gan ei dyscy yn y Templ, Pavodd y dywait y Gwyr‐llen pan yvv bot Christ yn vap i Ddauid?

36Can ys Dauid y un a ðyuot trwy’r yspryt, glan, Dyuot yr Arglwyð wrth vy Arglwydd i, Eistedd ar vymdeheulavv i, yd pan ’osotwyf dy elynion yn droedfainc yty.

37Can vot Dauid y hun yn y ’alw ef yn Arglwydd: a’ pha wedd y mae yntef yn vap iddaw? a’ llawer o bopul y clypu ef yn ewyllysgar.

38Hefyd ef a ddyuot wrthynt yn y ddysceidaeth ef, Y mogelwch rac y Gwyr‐llen yr ei a garant vyned mewn gwiscoedd llaesion a’ chael cyfarch‐gwell yddyn yn y marchnatoedd,

39a’r eisteddfaë penaf yn y Synagogae, a’r eisteddleoedd cyntaf yn-gwleddoedd,

40yr ei a lwyr ysant daiae gvvragedd‐gweddwon, ac yn rhith hirweðiaw. Yr ei hyn a dderbyniant varnedigaeth vwy.

41Ac mal ydd oedd yr Iesu yn eistedd gyferbyn ar tresorva, yr edrychawdd po’dd y bwriei y bopul arian ir dresorfa, a’ goludogion lawer a vwrient lawer y mewn.

42Ac e ddaeth ryw vvreic weddw dlawt, ac a vwriodd y mywn ddau vitym, ys ef yw hatling.

43Yno y galwodd ataw ei ddyscipulon, ac y dyuot wrthynt, Yn wir y dywedaf y chwi, vwrw o’r vvraic‐weðw dlawt hon vwy ymewn, na’r oll ’rei a vwriesont i’r tresorfa.

44Can ys yntwy oll a vwriesont y mewn o’r hyn sy yn‐gweddill ganthynt: a’ hithei o hei thlodi a vwriodd y mewn gymeint oll ac oedd iddi, ysef i holl vywyt hi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help