Matthew 8 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. viij.Christ yn iachay y dyn a’r clwy mawr. Fydd y capten. Galwedigaeth y Cenedloedd. Chwegr neu mam gwraic Petr. Am y Gwr llen a ewyllysei ddilyn Christ. Tlodi Christ. Y vod ef yn llonyddy yr mor a’r gwynt. Ac yn gyrry y cythraulieit allan o’r dyn i’r moch.Yr Euangel y trydydd Sul yn ol yr Ystvvyll.

1A Gwedy y ðyvot ef y waret o’r mynydd, llawer o bopuloedd ei dylynawdd.

2A’ nycha, vn clafgohanawl a ddeuth ac ei addolawdd, cann ddywedyt, Arglwydd a’s mynny, ti elly vy‐glanhay.

3A’r Iesu a estennawdd ei law, ac ei cyhurddawdd ef, gan ddywedyt, Mynaf, glanhaer di: ac yn y van y ’ohanglwyf ef a ’lanhawyt.

4Yno y dyuot yr Iesu wrthaw, Gwyl na ddywetych wrth nep, eithr dos, ac ymddagos ir Offeiriat, ac offryma y rhodd a orchymynawdd Moysen, er testoliaeth yddwynt.

5Gwedy dyvot yr Iesu i Capernaum, y daeth attaw Gantwriad gan ddeisyfy arnaw,

6a’ dywedyt, Arglwydd, y mae vy‐gwas i yn gorwedd gartref yn glaf o’r parlys, ac mewn poen ddirfawr.

7A’r Iesu a ddyfot wrthaw, Mi a ddeuaf ac ei gwnaf ef yn iach.

8A’r Cannwriad aei atepawdd, can ddywedyt, Arglwydd, nyd wyf vi dailwng y ddawot o hanot y dan vy‐cronglwyr; eithyr yn vnic dywait y gair, ac ef a iacheir vy‐gwas i.

9Can ys dyn wyf vinae y dan awturtot vn arall, ac y mae genyf vilwyr y danaf: a’ dywedaf wrth hwn, Cerða: ac efe a, ac wrth arall, Dyred: ac e ðaw, ac wrth vy‐gwas, Gwna hyn; ac ef ei gwna.

10Pan glywodd yr Iesu hyn, e ryfeddawd, ac a ðyvot, wrth yr ei oedd yn ei ganlyn, Yn wir, y dywedaf wrthych, Ny chefais gymeint ffydd, na’c yn yr Israel.

11A’ mi a ddywedaf wrthych, y daw llawer o’r Dwyrein a’r Gorllewyn, ac a eisteddāt gyd ac Abraham, ac Isaac, ac Iacob yn‐teyrnas nefoedd.

12A’ phlant y deyrnas a davlir ir tywyllwch eithaf: ynow y bydd wylofain a’ riccian dannedd.

13Yno y dyvot yr Iesu wrth y Cantwriad, Dos ymaith, a’ megis y credeist, bit y‐ty. A’ ei was a iachawyt yn yr awr honno.

14¶ A’ phan ddaethei ’r Iesu i tuy Petr, ef a welawdd y chwegr ef yn gorwedd, ac yn glaf or cryd.

15Ac ef a gyhyrddawdd ai llaw, a’r cryd a ei gadawodd: yn y chydodd hi i vyny a’ gweini yddynt.

16Gwedy y hwyrhay hi, wy ddugesont attavv lawer o’r ei cythraelic: ac ef a vwriawdd allan yr ysprytion a ei ’air, ac a iachaodd yr oll gleifion.

17Yn y chyflawnit yr hyn a ðywedit trwy Iesaias y Prophwyt, can ddywedyt, Efe a gymerth ein gwendit ni, ac a dduc ein heintiae.

18¶ A phan welawdd yr Iesu dorfeydd lawer oei amgylch, ef a ’orchymynawdd yddwynt vyned drosodd ir lan arall.

19Yno y daeth ryw ’wr‐lleen, ac a ddyvot wrthaw, Athro, mi ath canlynaf i b’lebynac ydd ai.

20Yno ’r Iesu a ddyvot wrthaw, Y mae ffauae gan y llwynogot a ’chan adar y nefoedd ei nythot, an’d gan Fap y dyn nyd oes le i orphwys i ben.

21¶ Ac vn arall o ei ddiscipulon a ddyvot wrthaw, Arglwydd, Godde i mi yn gyntaf fyned, a chlaðy vy‐tad.

22A’r Iesu a ddyvot wrtho, Dilyn vi, a’ gad ir meirw gladdy ei meirw hvvy.

23¶ A gwedy iddo vyned ir llong, ei ddiscipulon ei canlynodd.

24A’ nycha, e gyfodes cynnwrf mawr yn y mor, yd pan guddit y llong gan y tonae: ac ef e oedd yn cyscu.

25Yno y daeth ei ddiscipulon ataw, ac ei defroesant, can ddywedyt, Arglwydd, cadw ni: e ddarfu am danam.

26Ac ef a ddyvot wrthynt, Paam ydd ofnwch, havvyr a’r ffydd vechan? Yno y codawdd ef, ac y goharddawdd ef y gwyntoedd a’r mor: ac yno ydd aeth hi yn araf hin.

27A’r dynion a ryvedodd, gan ddywedyt Pa ryw vvr yw hwn, pan vo’r gwyntoedd ar mor yn uvyddhay yddaw?

28A’ gwedy ei ddawot ef ir lan arall, i wlat y Gergesieit, e gyfarfu ac ef ddau a diavleit ynthwynt, yr ei a ddaethen o’r monwenti yn dra ffyrnicion, mal na allai vn‐dyn vyned y ffordd honno.

29A’ nycha, llefain awnaethant, gan ddywedyt, Iesu vap Duw, beth y sy i ni a wnelom a thi? A ddaethast ti yma in poeni cyn yr amser?

30Ac ydd oedd ym‐pell o ywrthynt genvaint o voch lawer yn pori.

31A’r diavleit a ddeisyfesont arnaw, gan ddywedyt, A’s bwry ni allan, gad i ni vynet i’r genvaint voch.

32Ac ef a ddyvot wrthynt, Ewch. Ac wy aethant allan, ac aethant ir genvaint voch: a’ nycha, yr oll genvaint voch a ymdreiglei dros y dibin i’r mor, ac a vuō veirw yn y dyfredd.

33Yno y ffoawdd y meichiait: a’ gwedy y dyvot hwy i’r dinas, menegy a wnaethant pop peth, a’ pha beth a ddarfesei ir ei oedd y diavleit ynthwynt.

34A’ nycha, yr oll ddinas a ddaeth allan, y gyvarvot a’r Iesu: a’ phan ei gwelsont, atolugy a wnaeehant iddaw, ymadel oei teruyneu.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help