1CYnghori ddwy am hynn, ymlaen pob peth fod ytolygon, gweddiau, erfyniadau, a’ thalu diolch dros pob rryw ddynion,
2tros Brenhinoedd, a’ ffawb or a osoded mewn audurdod, fal i gallom ðwyn buchedd lonyddaidd ac heddychawl, drwy bob gwaredd ac honestrwydd.
3Canys hyn sy dda a chymradwy gar bron Dyw eyn ceidwad,
4rrwn a fynn vod pob rryw ddynion yn cadwedig, ac dyfod i wybodaeth y gwirionedd.
5Can ys vn Duw sydd, ac vn Canolydd rrvvng Duw a’ dynion, sef y dyn Christ Iesu,
6Rrwn ai rroddes i hunan yn pridwerth tros pawb, sef testioleth yn i amseray i hunain.
7Ar yr hyn im dodwyd yn pregethwr ac yn abostol (y gwir a ddoydaf yn‐Christ, heb gelwydd) sef athro y cenedloedd mewn ffydd a gwirionedd.
8Am hynny mi a fynnaf ir gwyr weddio ym‐pob man gan ddyrcha dwylo purion heb ddicter, na darammau.
9Velly hefyd y gwrageð, bod yddynt ymdrwsiaw mewn dillad gweddus, gida lledneisrwydd a chymesurwydd, nid a gwallt plethedig, neu aur, neu gemau, neu ddillad gwerthfawr.
10Eithr (megis i gweddai i wragedd yn yn‐addaw duwiolaeth) a gweithredoedd da.
11Gwraig discet mewn distawrwydd ynghyd a ffob gostingedigrwydd.
12Ond ni oddefa fi i wraic trauthu dyst, nac arfer awdurdod ar wyr, eithr bod mewn distawrwydd.
13Can ys Adda yn gynta a ffurfawyd, ac yno Efa.
14Ac nid Adda a dwyllwyd, eithyr y wraig wedy i thwyllaw aeth yn euoc or cam‐wedd.
15Etto hi a fydd cadwedig can ddwyn plant, os hwy a drigant yn y ffydd, a chariad, a sancteidrwydd ynghyd a cymesurwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.