Psalm 44 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Psalm .xliiij.¶ Deus auribus nostris.¶ I rhagorol. Psalm i roddi athroeth, rhon a roit ar veibion Korach.Boreu vveddi.

1DEw, clywsam a ein clustiae: ein tadae a venagent y-ni y gwaithredoedd wneythost gynt yn y dyddiae hwy, yn y cynvyt.

2 Val y gyrresti ymaith y cenedloedd, ath law, ac y plenneist hwy: y destrywieist y populoed, ac y gwneuthost yddynt tyfu.

3Can na chawsant etiveddiaeth y tir wrth ei cleddyf ehunain, ac nid ei braich ehunain, eu gwaredawdd: eithr dy ddeheulaw di ath vraich a llewych dy wynepryd, can yty y hoffy hwy.

4Ti yw vy-Brenin, Ddew, ’anfon gymporth i Iaco.

5Trywo ti y cilgwthiesam ein gelynion: ac yn dy Enw y sathrwn yr ei a gyfotant in erbyn.

6Can ys nad ymddiriedaf yn vy-bwa, ac nid vy-cleddyf a’m gwared.

7Canys ti a’n gwaredaist rac ein gwrthnebwyr, ac a ’wradwyddeist ein dygaseion.

8Am hyny y molwn Ddew bob amser, ac y coffesswn dy Enw yn tragyvyth. Sélah.

9Eithyr ydd ymbelléi, ac in gwradwyddy, ac nid ai allan y gyd a’n lluoedd.

10Ydd wyt yn peri yni ddychwelyd drach ein cefn ywrth ein erbyniwr, a’n dygaseion, a gribdeilian yddynt y vnain.

11Ydd wyt yn ein rhoi val deueit i’n bwyta, ac in goyscaru ym-plith y cenedloedd.

12Ydd wyt yn gwerthu dy popul eb ’olud, ac nyd wyt yn augwanegu eu gwerth.

13Ydd wyt yn ein gwneuthur yn warth y ein cymydogion, yn watworgerdd ac y chwerthin am ein pen gan yr ei ys ydd o’n amgylch.

14Idd wyt yn ein gwneuthur yn ddiereb ym-plith y cenedloeð, yscwyt penn ym-plith y populoeð.

15Peunydd y mae vy-gwradwydd rac vy-bron, a’ chywilydd vy wynep am toawdd.

16Can lef yr enllybiwr a’r sennwr, gan y gelyn a’r dialwr.

17Hyn oll a ddaeth arnam, eto nid ym ith ellwng yn angof, ac ny vuam ffugiol ith ddygymbot.

18Nyd ymchwelawð ein calon drach i chefn: ac nydaeth ein olion y ar dy lwybrae.

19Er yty ein bayddu y lawr y gyfle y dreiciae, a’n toi a gwascawt angae.

20A’s angofiesam Enw ein Dew, a’ chyfody ein dwylaw a’r Ddew estran, any chwilia Dew am hyn? can ys ef a edwyn gyfrinachoedd y galon.

21Ys er dy vwyn di in lleddir bob dydd, ac in cyfrifir val deueit lladd.

22Cyvot, paam y cuscy, Arglwydd? diffro, nac ymbellá yn tragywydd.

23Paam y cuðy dy wynep: ac yr ancofy ein trueni a’n gorthrymder?

24Can ys ein enait y ostyngwyt i’r llwch, ein boly a ’lyn wrth y llawr.

25Cyfod y vyny yn borth y-ni, a’ phryn ni er dy drugaredd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help