1CLodvorwch yr Arglwydd can ys da ytiw: o bleit ei drugaredd yn tragyvyth.
3Dywedet yr owrhon tuy Aharon Bot y drugaredd ef yn tragywyth.
4Dywedēt yr owrhon yr ei ofnant yr Arglwydd, Bot y drugared ef yn tragywyth.
5Yn yr ing y gelweis ar yr Arglwydd, ac im clybu yr Arglwydd, mewn ehengder.
6Yr Arglwydd ys y gyd a’ mi: nyd ofnaf pa wnel dyn y my.
7Yr Arglwydd ’sydd gyd a mi ymplith yr ei ’sydd im cymporth: y caf welet ar vy caseion.
8Gwell yw ymddyriet yn yr Arglwyð, na rhoi coel ar ddyn.
9Gwell yw ymddiriet yn yr Arglwydd, na rhoi coel ar dywysogion.
10Oll genetloedd am cylchynesont: eithr yn Enw yr Arglwydd y destrywiaf hwy.
11Cylchynelsynt vi, ys cylchynesont vi: eithr yn Enw yr Arglwydd ei destwywiaf hwy.
12Amgylchynesont vi mal gwenyn, ac eu dyffoðwyt mal tán drain: can ys yn Enw yr Arglwyð y destrywiaf hwy.
13Gwthiest vi yn ddirvawr, im cwympo: a’r Arglwydd am cymporthawdd.
14Vy-grym am cân yw’r Arglwydd, can ys ef a vu vy’mwared.
15Llef gorvoleð ac ymwaret, a vyð ym-pepyll yr ei cyfion,, Deheulaw yr Arglwydd a wnaeth rym.
16Deeulaw yr Arglwydd y ðerchavwyt: deeulaw yr Arglwydd y wnaeth ’rym.
17Ny byddaf varw, eithyr byw, a’ manegy gweithrededd yr Arglwydd.
18Yr Arglwydd am cospawdd yn ddirvawr, ac ni’m rhoddes y angae.
19Agorwch ymy byrth iawnder mal ydd elwyf y mewn yddwynt, chlodvori yr Arglwydd.
20Hwn yw porth yr Arglwydd: yr ei cyfiawn y ant y mewn iddaw.
21Clodvoraf dydy: can ys im gwrandeweist, a’buost ymy yn ymwaret.
22Y maen yr hwn y wrthodawdd yr adeilwyr, yw penn y gongl.
23Gwaith yr Arglwydd ytoedd hyn, rhyvedd yw yn ein llygait.
24Hwn dydd y wnaeth yr Arglwydd: byddwn lawen a’ hyfryt ynthaw.
25Atolwc, Arglwydd, ymwared yr owrhon: atolwc yr awrhon, Arglwydd, par lwyddo.
26Bendiget a ddel yn Enw yr Arglwydd: bendiethiesam chwi o duy yr Arglwydd.
27Ys cadarn yw’r Arglwydd yr hwn a oleuawdd y ni: rhwymwch yr aberth a’ rhaffae wrth gonglae yr allor.
28Vy-Dew ytwyt, ac ith glodvoraf, vy-Dew: am hyny ith dderchafaf.
29Clodvorwch yr Arglwydd can ysda ytyw: a’ ei drugaredd yn dragywyth.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.