Yr Actæ 17 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. xvij.Paul yn dyvot i Thessalonica. Lle mae yr ei yn y dderbyn ef, ac eraill yn ei erlyd. Bod chwiliaw yr Scrythur lan. Efe yn ymddadleu yn Athenas, a’ ffrwyth ei athroaeth.

1AC val yr oeddent yn ymddeith drwy Amphipolis, ac Apollonia, wy dd’aethant i Thessalonica, lle ydd oedd Synagog ir Iuddaeon.

2Ac Paul, yn ol ei ðevot, aeth y mywn attynt, ac ar dri dyddiæ Sabbath yr ymddadleuawdd ef ac wynt wrth yr Scrythurae,

3gan agori a’ dodi drostavv y byðei raidiol y Christ ddyoðef, a’ chyfody o veirw: a’ hwn yw ’r Iesu Christ, yr hwn, eb yr ef, ydd wyf yn ei precethy ychwy.

4A’ r’ei o hanaddvvynt a gredesont, ac ymwascesont a Phaul ac Silas: hefyt o’r Grocyeit a’r oedd yn ofny Dew lliosogrvvydd mawr, ac o’r gwragedd pennaf nid ychydicion.

5Anid yr Iuddaeon a’r nid oeðen yn credy, yn gwynvydy, a gymeresont atwynt ryw grwydyrddynion o ddehirwyr, ac wedy yddwyut gynnull y tyrfa, tervyscy yr dinas a wnaethant, a dygyrchy tuy Iason, a’ cheisiaw y dwyn hwy allan at y popul.

6Eithyr pryd na vedresont ei caffael, wy luscesont Iason a’ rryw vroder at pennaethieit y dinas, gan lefain, Yr ei hyn ysydd yn dadymchwel llywodraeth y byd, a’ ll’yma ynt wy,

7yr ei a dderbyniodd Iason dan llavv, a’r ei hyn oll ys y yn gwneythy’d yn erbyn devodae Caisar, gan ddywedyt vot Brenhin arall vn Iesu.

8Yno y cyffroesant vvy ’r popul, a’ phennaethieit y dinas, wrth glywet hyn yma.

9Eithyr gwedy yddwynt dderbyn atep digonawl gan Iason a chan y llaill, ei maðae ymaith a wnaethant.

10A’r broder yn y lle a ddanvonesont ymaith Paul ac Silas o hyd nos i Beroia, yr ei gwedy ei dyvot yno, addaethan y mywn i Synagogae yr Inddaeon.

11Ar ei hyn oedd well o enedigaeth nac wyntwy o Thessalonica, yr ei a dderbyniesont y gair a ei llawnvrydd, gan chwiliaw yr Scrythurae beunydd, y vvybot a ytoedd y pethae hynn velly.

12Am hyny llawer o hanwynt a gredesont, ac o ’roec wragedd sybervvon, ac o wyr nyd ychydigion.

13Eithyr pan wybu yr Iuddaeon o Thessalonica, vot hefyt precethy gair Dew gā Paul yn Beroia, wy ðathant yno hefyt, ac a gynyrfesont y torfoeð.

14Ac yn y man yd anvones y broder Paul ymaith y vynet megis ir mor: eithyr Sylas ac Timotheus y arosont ynaw yn ’oystat.

15A’r ei y oeddent yn cyfrwyðo‐fforð i Paul, ei dugesont ef yd yn Athenas: ac gwedy yddwynt erbyn gorchymyn ar Silas ac ar Timotheus ar yðynt ddyvot ar ffrwst ataw, yr aethant ymaith,

16Ac tra ytoedd Paul yn aros arnaddvvyyt yn Athenas, yr ymgythruddawdd ei Yspryt ynthaw, wrth welet y dinas aei goglyd ar ddelwae.

17Ac am hyny yr ymddaleuawdd ef yn y Synagog a’r Iuddaeon, ac ar ei dwywolion, ac yn y varchnat beunydd, a’ phwy bynac a gyvarvyddent ac ef.

18A’rhyw Philosophwyr o’r Epicurieit, ac o’r Stoiceit a ymeddadlaesont ac ef, a ’r ei a ðywedent, Pa beth sy ym‐bryd y siaradwr hwn ei ddywedyt? Yr eill a ddyvvedesont, Tebic y vot ef yn vanagwr dewiae dieithr (erwydd iddo precethy yddwynt yr Iesu, a’r cyvodedigaeth.)

19Ac wy y daliesont ef, ac ei ducesont y heol Mars, gan ddywedyt, Any allwn gahel gwybot, pa ryvv athroaeth newydd a ymadroddir, genyt yw hon?

20Can ys ydd wyt yn dwyn ryw pethae dieithyr y ein clustiae: am hyny yr ewyllysem wybot pa han yw y pethae hyn.

21Can ys yr oll Athenieit a’r dieithreit oedd yn preswilio ynaw, nid oeddynt yn cymeryt enhyt y ddim, anid yn aill ai y ddywedyt, ai y glywet ryw beth o newydd.

22Yno Paul a safoð ym‐pervedd heol Mars ac a ddyvot, A wyr Athenieit mi ach gwelaf chwi ym‐pop petholl yn vawr eich goglyd ar y dywie.

23Cāys wrth ðyvot heibio, ac edrych ar eich glochwytae ys ceveis allor, yn yr hon yð escrivenit, IR DEO ANVVYBODEDIC. Yr hwn gan hynny eb wybot ydd ych yn ei addoly, hwnw venagaf ychwy.

24Dew yr hwn a wnaeth y byd, a’r oll pethae ys ydd ynthaw, can y vot ef yn Arglwydd nef a’ daear, ny thric ef mewn templae gwneythuredic‐a‐dwylaw,

25ac nid addolir a dwylaw dynion, val pe bei arno eisiae dim, ac ef e yn rhoddi i bawp vywyt ac anhenetl a’ phop peth,

26ac a wnaeth o’r vn gwaed oll genetl dynion y breswiliaw ar hyd wynep y ðaiar, ac a ’osodes yr amserae ar y ddaroedd ei rrac ordeiniaw a’ thervynae ei preswylfa,

27er ceisiaw o hanwynt yr Arglwydd, a byddei yddwynt gan ymbalfaly y gaffael ef, cyd yn diau nad yw ef yn y pell y wrth yr vn o hanam.

28Can ys yntaw ef ydd ym byw, ac ydd ym yn ymodi, ac y mae en bod, megis ac y dyvot rei a eich Poetau hunain, O bleit ei genedleth hefyt ym.

29A’ chan ein bot yn genedlaeth Dew, ny ddlem ni dybio vot y Dywdot yn debic i aur, ai ariant, ai y vaen wedy ei lluniaw drwy gelfyddyt a’ dychymic dyn.

30Ac amser yr anwybot hyn, nid oedd Dew yn ystyriaw: eithyr yr owrhon y mae ef yn rrybyddiaw pop dyn ym‐pop lle y gymeryt‐ediveirwch,

31o bleit iðo ’osot dydd yn yr hwn y bairn ef y byt yn‐cyfiawnder, can y gwr hvvnvv yr vn a dervynodd ef, a’ rhoðy diogelwch y pawp, am iddo y gyfody ef o veirw.

32A’ phan glywsant son am gyvodedigaeth y meirw, yr ei a watwarasant, ac ereill a ddywedesont, Ith wrandawn drachefyn am y peth hynn.

33Ac velly Paul aeth allan oei plith vvy.

34A’ rryw wyr a ddylynesont wrth Paul, ac a credesont: ym‐plith pa rei ydd oedd Denis Areopagita, a’ gwreic a enwit Damaris, ac er‐eill y gyd a hwynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help