1MOlwch Enw yr Arglwydd: molwch ef, weision yr Arglwydd.
2Yr ei y sefwch yn Tuy yr Arglwyð, yn neuaddae Tuy ein Dew.
3Molwch yr Arglwydd: can ys da ywr Arglwydd: can-molwch ei Enw: can ys glwys ytyw.
4O bleit etholes yr Arglwydd Iaco yddaw y un, ac Israel yn berchenogaeth yddaw.
5Can ys mi wn mae ys mawr yr Arglwydd, a’ ein Arglwydd, goruch yr oll ddewiae.
6Peth pynac y ewyllysawdd yr Arglwydd, hyny a wnaeth ef yn y nefoeð ac yn yddaiar, yn y mor, ac yn yr oll ddyfndereu.
7Efe gyfyt yr wybrae o eithaw’r ddaiar, ac y wna y mellt gyd ar glaw: ef e y ddwc y gwyntoedd allan o ei dresorae.
8E drawodd yr oll gynt’enit yr Aipht o ddyn yd aniual.
9Anvonawdd ef arwyddion a rhyueddodae ith perveð yr Aipht, ar Pharaóh, ac ar ei oll weision.
10Trawodd ef genedloedd lawer, ac a laddawdd Vrenhin cedyrn:
11[Megis] Sichón Vrenhin yr Amorieit ac Og Vrenhin Bashán, ac oll Vrenhiniaethae Canáan.
12Ac a roes ei tir yn etiueddiaeth, yn etiueddiaeth y Israel y bopul ef.
13Dy Enw Arglwydd yn dragyvyth: Arglwyð, dy goffaduriaeth o genedlaeth y genedlaeth.
14Can ys yr Arglwydd a varn bopul, ac a ymvoddlona wrth ei weision.
15 Idolon y cenedloedd, ynt ariant ac aur, ’sef gwaith dwylaw dyn.
16Genae ’sy yddwynt, ac ny lavarant: llygait ’sy yddwynt, ac ny welant.
17Clustiae ’sy yddwynt ac ny chlywant, ac nyd oes anhetl yn eu genae.
18Megis wytheu yw’r sawl ei gwnel hwy: pawp a ymddirieto ynthwynt.
19 Bendithiwch yr Arglwydd, duy yr Israel: bendithiwch yr Arglwydd chwy chwi duy Aaron.
20Bendithiwch yr Arglwydd chwychwy tuy Leui: yr ei y ofnwch yr Arglwydd, bendithiwch yr Arglwydd.
21Bendithier yr Arglwydd o Tsijón, yr hwn a dric yn Caerusalem. Molwch yr Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.