1YNo ydd oedd yr ol’ Publicanot a’r pechaturieit, yn cyniret ato y wrādaw arnaw.
2Am hyny murmur a wnaeth y Pharisaiait a’r Gwyr‐llen, can ddywedyt, Ef a adderbyn bechaturieit, ac a vwyty y gyd ac wynt.
3Yno y dyvot ef y ddamec hon wrthwynt, gan ddywedyt,
4Pa ðyn o hanoch a gantho gant o ddeveit, ac a chyll e vn naddwynt, ny ad y namyn vn pemp‐ucain yn y dyffeith, ac a gerdd yn ol yr hon a golles, y’n y chaffo ehi?
5A’ gwedy yðaw hi chahel, ef hei gesyt ar ei escwyddae yn llawen.
6A’ phan ddel e‐dref, ef a ailw ynghyt ei gereint a ei gymydogion, can ddoedyt wrthwynt, Cydlawenhewch a mi, can i mi gahel ve‐davat y gollesit.
7Mi ddywedaf wrthych, mae velly y bydd llewenydd yn y nef am vn pechatur a ðel ir iavvn yn vvvy nac am amyn vn pemp‐ucain o rei cyfiawn ar nyd rait yðwynt wellay ei buchedd.
8Ai pa wreic ac yddi ddec dryll o ariant, a chyll hi vn dryll, ni olae gannwyll, ac a escup y tuy, ac a gais yn vanol y ny chaffo?
9Ac wedy yddi gahel, hi a ailw am hei charesae a’ chymydogesae, can ddoedyt, Cydlawenhewch a mi: can ys cefeis y dryll a golleswn.
10Velly, y dywedaf wrthych, y mae llawenydd yn‐gwyð Angelion Duw am vn pechatur yn dyvot‐ir‐iawn.
11Ef a ddyuot hefyt, Ydd oeddi ryvv wr ddau vap.
12A’r ieungaf o hanynt a ddyuot wrth y dat, Tad, Dyro i mi y rran o’r da a ddygwydd i mi. Yno y rhannawdd ef yddwynt y vywyt.
13Velly yn ol ny‐mawr o ddyddiae gwedy, i’r map ieungaf gasclu pop peth oll ynghyd, ef a wnaeth daith i wlat bell, ac yno y goyscarawdd ef ei dda gan vyw yn afradlawn.
14A’ gwedy yddaw draulio y gyd oll, y codes drudaniaeth mawr trwy ’r vro hono, ac yntef a ddechreuawdd vot arno ddeffic.
15Yno ydd aeth ef ac a ’lynawð wrth vn o ðinaswyr y wlad hono, ac ef y danvonawdd ef yw vaerdref y bescy moch.
16Ac ef a chwenychei lenwy ei vola a’r cibe, a ysei ’r moch: ac ny’w roei neb iddaw.
17Yno y daeth ef ataw y hun ac y dyuot, Pa sawl cyfloc-ðyn gyd a’m tat ’sy yn cahel ei llawn ddigon o vara, a’mynef yn marw o newyn?
18Mi a godaf ac af at vy‐tad, ac a ddywedaf wrthaw, Tad, pechais yn erbyn y nef a’ ger dy vrō di
19ac nid wyf mwyach deilwng im galw yn vap yti: gwna vi val vn o’th gyflog‐ðyniō,
20ac ef a gyuodes i vyny ac aeth at ei dat, a’ phā oeð ef yn hir‐bell y vvrthavv, ei dat y canvu ef, a chan drugarhau, ef a redawdd, ac a gwympawð yn y vwnwg ef, ac ei cusanawð
21A’r map a ddyuot wrthaw, Tad, mi pechais yn erbyn y nef, a’ cher dy vron di, ac nid wyf mwyach deilwng i’m galw er yn vap yty.
22Yno dywedyt o’r tat wrth ey ’weison, Dygwch allan y wisc orae, a’ gwiscwch am danaw, a’ dodwch vodrwy am ei law, ac escidiae am ei draet,
23a’ dugwch y y llo bras, a’ lleddwch, a’ bwytawn a’ byddwn lawen.
24Can ys hwn vy map a oedd varw, ac ys y vyw drachefn: ac e gollesit, ac ei cahad ef. A’ vvy dechreusont vot yn llawen.
25Yn hyn ydd oedd ey vab hynaf yn y maes, a’ phan ddaeth ef, a dynesau at y tuy, e glywei gygcanedd a charolae
26ac a alwodd ar vn o ei ’weision, ac ’ovynnodd pa beth ydoedd y pethe hyny.
27Ac ef a ddyuot wrthaw, Can ys dy vrawd a ddaeth, a’th dat a laddawð y oll pascedic, can iddo y dderbyn ef yn iach adref.
28Yno y sorawdd ac nid ai y mewn: am hyny yd aeth ey dat allan ac a dretiawdd ac ef.
29Ac yntef a atepawdd, ac a ðyuot wrth ei dad, Nycha cynniuer o vlyddynedd ith wasnaethais, ac nyd aythym vn amser dros dy ’orchymyn, ac erioed ny’s roist i mi vynn, val y gallwm wnaethur yn ll awen y gyd a’m cereint.
30And pan ddaeth dy vap hwn, yr vn a ysawð dy dda y gyd a phutenieit, ys lleddaist yddaw ef y llo pascedic.
31Ac ef a ddyuot wrthaw, Ha vap ydd yw ti yn oystat y gyd a mi, ac oll meu vi, ’sy daudi.
32Raid oedd i ni sirio, a’ gwneuthu’d yn‐llawen: can ys marw oedd dy vrawt hwn, a’ byw ydyw, drachefn: ac ef a gollesit, ac ei cahad ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.