Ioan 19 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. xix.Pryd na allei Pilat ’ostegu cynddaredd yr Iuddaeon yn erbyn Christ, ef y delifrodd ef ai arscrivē yw grogi rhwng dau leitr. Wy yn bwrw

coelbrenni am y ddillat ef. Ef yn gorchymyn ei vam i Ioan. Yn galw am lyn, Yn marw, bot tyllu y ystlys ef, ei gymeryd o yar y groc. Ei gladdu.

1YNo y cymerth Pilatus yr Iesu ac ydd yscyrsiawdd ef.

2A’r milwyr a blethesont coron o ddrain, ac ei gesodesont ar ei benn. Ac a roesont wisc burpur am danaw,

3ac a ddywedesont, Henpych well, Vrenhin yr Iuddaeon. Ac wy y trawsant ef a ei gwiail.

4Yno Pilatus aeth allan trachefyn, ac a ddyvot wrthwynt, Nycha, ydd wyf yn ei ddwyn ef allan ychwi, val y gwypoch, nad wyf yn cahel vn bei arnaw.

5Yno y deuth yr Iesu allā yn arwain coron o drain, a gwisc purpur. Ac Pilatus a ddyvot wrthwynt, Nycha ’r dyn.

6Yno yr Archoffeiriat ar twysogiō, pan welsāt ef, a lefāt cā ðywedyt, Croc, croc ef. Pilatus a y ðyvot wrthwynt, Cymerw‐chwi ef a’ chrogwch: can nad yw vi yn cael bai arnaw.

7Yr Iuddaeon a atepesont yddaw, y mae i ni Ddeddyf ac erwydd ein Deddyf ni, ef ddyly varw, can yddaw ei wneythyd ehun yn Vap Duw,

8A’ phan glypu Pilatus yr ymadrodd hwnw, ef ofnoð yn vwy,

9ac aeth drachefyn ir dadlaedy, ac a ðyvot wrth yr Iesu, Ob’le ith hanyw ti? A’r Iesu ny roddes vn atep iddaw.

10Yno y dyvot Pilatus wrthaw, A ny ddywedy di beth wrth y‐vi? A ny wyddost vot i mi veddiant ith groci, a’ bot i mi veddiant ith ellwng?

11Yr Iesu a atepawdd, Ny byddei yty ddim meddiant yn v’erbyn, pe na’s roesit y‐ty oðuchod: can hyny yr hwn a’m rhodes yty, y sy vwy ei bechot.

12Ac o hynny allan y caisiawdd Pilatus y ellwng ef: an’d yr Iuddaeon a lefent, gan ddywedyt, A’s gellyngy di hwn, nyd wyt ti gar i Caisar: can ys pwy bynac ei gwna ehun yn Vrenhin, ef a ddywait yn erbyn Caisar.

13Pan glywodd Pilatus yr ymadrodd hyny, ef a dduc yr Iesu allan, ac a eisteddawdd ar yr orseddfainc yn y lle a elwit y Palmaut, ac yn Hebreo Gabbatha.

14Ac ydd oedd hi yn ddarpar y Pasch, ac yn‐cylch y chwechet awr, ac ef a ddyvot wrth yr Iuðeon, Nycha eich Brenhin.

15Ac wy a lefent, Ymaith ac ef, ymaith ac ef, croc ef. Pilatus a a ddyvot wrthynt. A crocaf vi eich Brēhin? Yr Archoffeiriait atepesont, Nyd oes y ni Vrenhin odddiethr Caisar.

16Yno ef y rhoes ef yddwynt, y’w groci. Ac wy gymersont yr Iesu, ac ei dusesont ymaith.

17Ac ef a dduc ei groc, ac a ddeuth i le a elwit y Penglocva yr hwn a elwir yn Hebreo Golgotha:

18lle cregesōt ef, a’ dau eraill gyd ac ef, vn o pop parth, a’r Iesu yn y cenawl.

19Ac Pilatus a escrivenawdd titul ac ei gesodes ar y groc, ac yð oedd wedy’r escriveny IESV O NAZARET BRENHIN YR IVDDAEON.

20A’r titul hwn a ddarlleawð llawer or Iuddaeon: can ys y lle y crogesit yr Iesu, oedd yn agos i’r dinas: ac ydd oedd yn yscrivenedic yn Hebreo, Groec, a’ Llatin.

21Yno y dyvot yr Archoffeiriait yr Iuðaeon wrth Pilatus, Nag yscrivena, y Brēhin yr Iuðeon, eithr bot yðo ðywedyt, Brenhin yr Iuðeon ytwyf.

22Pilatus a atepoð, yr hyn a escrivēnais, a yscrivenais.

23Yno ’r milwyr wedy yð wynt grogi’r Iesu a gymersont ei ddillat ac ei gwnaethant yn bedair rhā, i bob milwr ran, ay bais ef: a’r bais oeð yn ddiwniat, wedy’r weheu o’r cwr uchaf trwyddhei.

24Can hyny y dywedesont wrth ei gylydd, Na ranwn yhi anid bwriwn am danei, pwy bieuvydd. Hyn a vu er cyflawni yr Scrythur a ddywait, Ranesant vy‐gwist yn ei plith, ac ar vy‐pais y bwriesōt goelbrenni. Felly ’r milwyr a wnaeth hyn yn ddiau.

25Yno y sefynt wrth groc yr Iesu ei vam, a’ ehwaer ei vam, Mair gvvraic Cleopas, a’ Mair Magdalen.

26A’ phan weles yr Iesu ei vam, a’r discipul yn sefyll ger llaw y garei ef, y dyvot wrth ei vam, Wreic, wely dy vap.

27Yno y dyvoc wrth y discipul Wele dy vam: ac or awr hono y cymerth y discipul y hi ato adref.

28Ar ol hynny pan wybu yr Iesu vot pop beth wedy ’r ddybenny, er mwyn cyflawny ’r Scrythur, e ddyvot, Mae arnaf sychet.

29Ac ydd oedd yno lestr wedy ’r ’osot yn llawn o vinegr: ac wy a lanwesont yspong o vinegr: ac ei roesynt ynghylch paladr hyssop, ac ei dodesont wrth ei enae.

30A’ gwedy i’r Iesu gymeryd yr vynecr, y dyvot, Dibennwyt. Ac a ei ben ar ogwydd y rhoddes e yr yspryt.

31Yr Iuddeon yno (can y bot yn Ddarpar, rac bot y cyrph yn aros ar y groc ar y dydd Sabbath: (can ys mawr oedd y Sabbath hwnw) a ddeisyfesont ar Pilatus gahel drylliaw y escairie hwy, a’ei tynnu i lawr.

32Yno y daeth y milwyr, ac a ddrylliesont esceirie ’r cyntaf, ac ysceiriae ’r llall, yr hwn a grogesit gyd a’r Iesu.

33An’d pan ddaethant at yr Iesu, a’ ei weled wedy marw eisioes, ny ddrylliesont y esceirie ef.

34Eithyr vn o’r milwyr a gwaew a wanodd y ystlys ef, ac yn van ydaeth allan waed a dwfr.

35A’r hwn a welawdd, a testolaethawdd, a’ gwir yw y destoliaeth ef: ac ef a wyr ei vot yn dywedyt gwir, val ac y credo chwi.

36Can ys y pethe hyn a wnaethpwyt, val y cyflawnit yr Scrythur, Ny drillir ascwrn o hanaw.

37A’ thrachefyn e ddywait Scrythur arall, Wy a welsant yr vn a wanasont trywoð.

38Ac yn ol hyn, Ioseph o Arimathaia (yr hwn oedd ddiscipul yr Iesu, ’n amyn yn ddirgel rac ofn yr Iuddaeon) a archawdd ar Pilatus gahel tynny i lawr gorph yr Iesu. Ac Pilatus a ganiataodd yddaw. Yno y deuth ef ac y cymerth gorph yr Iesu.

39Ac a ðeuth Nicodemus hefyt, (yr hwn yn gyntaf a ddeuthei at yr Iesu o hyd nos) ac a dduc gymysc or myrrh ac Aloes, yn‐cylch cant poys.

40Yno y cymersont gorph yr Iesu, ac ei rhwymesont mewn llieniae a’r aroglae, megis y mae yr arver gan yr Iuddaeon ar gladdy.

41Ac yn y van lle crogesit yr Iesu, ydd oedd gardd, ac yn yr ’ardd monwent newydd, yn yr hon ny ddodesit dyn erioet.

42Ac yn y van hono y dodesont vvy’r Iesu, o achos dydd Darpar yr Iuddaeon, can ys bot y vonwent yn agos.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help