1AC ef aeth y mywn drachefyn ir synagog, ac ydd oedd yno ddyn ac iddo law wedy gwywo.
2Ac wy ei dysawyliesont a iachai ef hwnw ar y dydd Sabbath, val y caffent achwyn arnaw.
3Yno y dyvot ef wrth y dyn a’r llaw ’wyw, Cyvot, a’ sa yn y cenol.
4Ac ef a ddyvot wrthwynt, Ai cyfreithlawn gwneythy tvvrn da ar y dydd sabbath, ai gwneiythy drwc? cadw enaid ai lladd? Ac wytheu a ddystawsont.
5Yno ydd edrychawdd ef o y amgylch arnaddynt yn dddigllawn can gyd‐doluriaw rrac caledrwydd y calonae hwy, ac a ddyvot, wrth y dyn, Estend dy law. Ac ef ei estendawdd: aei law a adverwyt yn iach val y llall.
6A’r Pharisaieit aethon ymaith, ac yn y man ydd ymgygoresont gyd a’r Herodiait yn y erbyn ef, pa vodd y collent ef.
7A’r Iesu ef a ei ddiscipulon a enciliawdd i’r mor, a’ lliaws mawr y dylynawdd ef o’ Galilaea ac o Iudaia,
8ac o Gaerusalem, ac o Idumaea ac o’r tuhwnt i Iorddonen, a’r ei o gylch Tyrus a’ Sydon, pan glywsont veint a wnaethei ef, a ðaethant attaw yn lliaws mawr.
9Ac ef a ddyvot wrth ei ddiscipulon am vot llongan yn parat iddaw, o bleit y dyrfa, rac yddyn y wascy ef.
10Can ys llawer a iachaesei ef, yn yd oeddent yn pwyso arnaw, er ei gyhwrdd cynnifer ac oedd a phlae arnynt.
11A’r ysprytion aflan pan welsant ef, a gwympesont i lawr geyr ei vron, ac a waeddesant, gan ddywedyt, Ti yw ’r Map Duw.
12Ac ef ei ysdwrdiawdd yn ddirvawr, rac yddyn y gyhoeddy ef.
13Yno yr escennawdd ef ir mynyth, ac a alwodd attaw yr ei a ewyllysiawdd ef, a’ hwy a ddaethant ataw.
14Ac ef a ’ossodes ðauddec, y vot o hanwynt y gyd ac ef, val yd anvonei ef wy i precethy,
15a’ bod yddwynt veddiant i iachay heintiae, ac y vwrw allan gythraelieit.
16A’r cyntaf oedd Simon, ac ef a ddodes i Simon enw, Petr.
17Yno Jaco vap Zebedaeus, ac Ioan, brawt Iaco (ac a ddodes enwae yddwynt Boanerges, yr hyn yw meibion y daran)
18ac Andreas, a’ Philip, a’ Bartholomeus, a’ Matthew, a’ Thomas, ac Iaco, vap Alphaeus, a’ Thaddaeus, a’ Simon y Cananeit,
19ac Iudas Iscariot, yr hwn ac ei bradychawdd ef, a’ hwy a ddaethant edref.
20A’r dyrfa a ymgynullawdd drachefyn, val na allent gymmeint a bwyty bara.
21A’ phan glypu ei gyfnesafsieit, wy aethan allan y ymavlyd ynthaw: can ty bieit y vot ef o ddyeithr ei bwyll.
22A’r Gwyr‐llen a ddaethent o Caerusalem, a ddywedesont, vot Beelzebub gantaw, ac mai trwy pennaeth y cythraelieit y bwrei allā gythraelieit.
23Yno ef y galwodd wy ataw, ac a ddyvot wrthwynt ym-parabolae. Pa vodd y gall Satan vwrw allan Satan?
24Can ys a bydd teyrnas wedy r’ ymranny yn y herbyn ehun, nyd all y deyrnas houo sefyll.
25Ac a’s ymranna tuy yn y erbyn ehun ny ddychon y tuy hwnw sefyll.
26Velly a’s cyfyt Satan yn y erbyn hun, ac ymranny, ny all ef barhay, amyn bod tervyn iddo.
27Ny ddygon nep vyned y mewn i tuy yr cadarn a’ dwyn ymaith ei lestri, dyeithr iddo yn gyntaf rwymo yr cadarn hwnw, ac yno yspeilio ei duy.
28Yn wir y dywedaf y chwi, y maðauir oll pochotae i blant dynion, a’ pha gablae, bynac y cablāt:
29an’d pwy pynac a gabl yn erbyn yr yspryt glan ny chaiff vaddeuant yn dragyvyth, any’d bot yn euoc y varn dragyvythawl,
30can yddyn ddywedyt, vot ganthaw yspryt aflan.
31Yno y daeth ei vrodur a’ ei vam, a’ safasant allā, ac a ddanvoneson ataw, ac a’ alwason arnaw.
32A’r popul a eisteddawdd oei amgylch ef, ac a ddywedesont wrthaw, Nycha, dy vam, a’th vroder yn dy geisiaw allan.
33’Ac ef y atepawdd wy, gan ddywedyt, Pwy yw vy mam a’m broder?
34Ac ef a edrychawdd o y amgylch ar yr ei, ’oedd yn eistedd yn y gylchedd yn ei o gylch, ac a ddyvot, Nycha vy mam a’m broder.
35Can ys pwy pynac a wnel ewyllys Duw, hwnw yw by-brawt, a’m chwaer a’ nam.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.