Psalm 63 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Psalm .lxiij.¶ Deus, Deus meus.¶ Psalm Dauid. Pan ytoedd ef yn-diffeithwch Iudáh.

1DEw, vy-Dew ytwyt, yn vorae yth ceisiaf: sychedai vy eneit am danat, y mae hiraeth ar vy cnawt am danat mewn tir diffaith hispydd eb ddwfyr.

2Val hyn ith welais megis mewn Cessegr wrth welet dy gadernit ath ’ogoniant.

3Can ys gwell dy drugarogwydd na bywyt: am hyny vy-gwefusae ath volant.

4Val hyn ith glodvaraf yn vy-byw, y derchaf vy-dwylo yn dy Enw.

5Vy eneit y ddigonir, megis a mêr a ’braster, am geneu vawl a gwefusae hyfryd.

6Pan yth gofia yn vy-gwely, a’ phan ith vevyriaf yn gwiliau.

7Can ys buo’st’ yn borth ymy, am hyn y dan dy adaneð y gwnaf yn llawen.

8Vy eneit a lŷn wrthyt: dy ddeheulaw am cynnaliawdd.

9A rei n a gaisiant vy eneit yw ddivetha, ys ant i’r lleoedd-isaf y ddaiar.

10Wy y bwriant efa min y cleddyf, vyddant yn rhan ir llwynogot.

11A’r Brenhin a lawenycha yn-Dew. phawp a dwng yddo vydd ei gorvoledd: can ys genae yr ei a ðywetant gelwydd y argéir.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help