Psalm 124 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Psalm .cxxiiij.Nisi quia Dominus.¶ Caniat y graddae neu Psalm Dauid.

1PE na bysei yr Arglwyð ar ein pleit, ygall Israel ddywedyt yr owrhon.

2 Pe na besei yr Arglwydd ar ein pleit, pan gyvotei dynion in erbyn,

3Yno in llyncesynt yn vyw, pan lidiawdd in erbyn.

4Yno in boddesei y dyfredd, ffrwd aethesei dros ein eneit.

5Yno yr aethesei y balch ddwfr dros ein eneit.

6Bendigedic yr Arglwydd, yr hwn ny ’n rhoddes yn yscyfaeth y’w dannedd.

7Ein eneit a ddiangawdd, val aderyn o vagl yr adarwyr: y magl y ddrylliwyt, a ninae y waredwyt.

8Ein porth ys ydd yn Enw yr Arglwydd, yr hwn y wnaeth nef a’ daiar.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help