Ioan 9 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. ix.Am yr vn a anet yn ddall. Coffess y mabddall. I ba ryw ddaillion y dyry Christ yddynt welet.

1AR Iesu yn myned heibio, ef a ganvu ddyn dall o y ’enedigaeth.

2A’ gofyn iddaw o ei ddiscipulon, gan ddywedyt, Athro, pwy ’n a bechawð, ai hwn ai rieni, pan enit ef yn ddall?

3Atep o’r Iesu, ac ny pechawdd hwn, na ei rieni, eithyr er bod dangos gweithredoedd Duw arno ef.

4Raid i mi weithiaw gweithredoedd yr hwn a’m danvonawdd i, tra vo hi yn ddydd: y mae’r nos yn dyvot pryd na aill neb weithiaw.

5Tra vyddwyf yn y byt, goleuni wyf i’r byt.

6Pan ddywedodd ef val hyn, y poyrodd ef ar y ðaiar, ac y gwnaeth ef briðgyst o’r poer, ac a irawð y priðgyst ar lygaid y dall,

7ac a ðyvot wrthaw, Cerdda, ymolch yn y llyn Siloam (’sef a ddeonglir yn Anvonedic.) Ef aeth ymaith gan hyny, ac a ymolchawdd ac a ddaeth drachefn yn gweled.

8Yno ’r cymydogion a’r ei y gwelsent ef or blaen pan vysei ef yn ddall, a ddywedesont, A nyd hwn yw ’r vn a eisteddei ac a gardotei?

9R’ei a ddywedent, Ys hwn yw ef: ereill y ddywedynt, Y mae yn gyffelyp yddaw. Yntef a ddyvawt, Mivi yw ef.

10Can hyny y dywedent wrthaw. Py weð ynte ydd agorwyt dy lygait?

11Ef a atepawdd, ac a ddyvot, Yr dvn a elwir Iesu, a wnaeth gistbridd, ac a irawdd vy llygait, ac a ddyvawt wrthyf. Cerdda y lyn Siloam, ac ymolch. Ac y aethym ac a ymolchais, ac a gefais vy‐golwc.

12Yno y dywedesont wrthaw, P’le mae ef? Ef a ddyuot, Ny wn i.

13 VVy dduscont at y Pharisaieit hwnvv y vesei gynt yn ddall.

14A’r dydd Sabbath ydoedd hi, pan wnaethoeddoedd yr Iesu y priddgist, ac ydd a goroedd y lygait ef.

15Yno trachefyn yr ymofynnei ’r Pharisaieit hefyt ac ef, pa vodd y cawsei ef ei olwc. Ac ef a ddyvawt wrthynt. Ef a ddodes briddgist ar vy llygaid, ac mi a ymolcheis, a’ mi gwelaf.

16Yno y dywedynt yr ei or Pharisaieit, Nid hanyw ’r dyn hwn o Dduw, can na chaidw ef y dydd Sabbath. Ereill a ddywedynt. Pa vodd y gaill dyn ac ef yn pechaturus, wneythu’r cyfryw wyrthiae? Ac ydd oedd ancydvot yn y plith wy.

17Yno y dywedent wrth y dall drachefyn, Py beth a ddywedy di am danaw ef, can iddaw agori dy lygait? Ac ef a ddyvawt, Mai Prophwyt yw ef.

18Yno ny chredawdd yr Iuddaeon am danaw (y vot ef yn ddall, a ’chael ei ’olwc nes yddynt ’alw am rieni yr vn a gawsei ei ’olwc.

19A’ govynesont y ðynt gan ðywedyt, A‐y hwn yw ych map chwi, yr vn a ðywedw‐chwi ddaruot y eni yn ddall? Pa wedd gan hyny y gwyl ef yr awrhon?

20Atep oei rieni ef yddynt, a’ dywedyt, Ys gwyðam may hwn ytyw ein map ni, a’ ei eni yn ddall:

21and trwy pa vodd y gwyl ef yr awrhon, ny’s gwyddam: ai pwy ’n a agorawdd y lygait ef, ny’s gwyddam ni: y mae ef o oedran: govynnwch yddaw: ef a etyp drostaw ehun.

22Y geiriæ hyn a ddyvawt y rieni ef, can yddynt vot yn ofni yr Iuddaion: o bleid e ddaroedd ir Iuddaeon ddarparu eisioes a’s coffessei nebun mai efe ytoedd y Christ, bot y escommuno ef allan or Synagog.

23Am hynny y dywedesei y rieni ef, Y mae ef o oedran: gofynnwch yddaw.

24Yno eilwaith y galwesont ar y dyn a vesei yn ddall, ac wy ddywedesont wrthaw, Dyro ’ogoniant y Dduw: cans gwyddam ni vot y dyn hwn yn pechatur.

25Yno ydd atepawdd ef ac y dyvawt, A ytyw ef yn pechatur anyd yvv, ny’s gwn i: vn peth awn i, vy‐bot i yn ddall, ac yrowon yn gwelet.

26Yno y dywedesont wrthaw drachefyn, Pa beth a wnaeth e y‐ty? pa vodd ydd agoroedd ef dy lygait?

27Ef atepawdd yddwynt, Dywedas y‐chwy eisius, ac ny chlywech: paam yr ewyllyswch ei glywet drachefyn? a ewyllysw‐chwi hefyt vot yn ðiscipulon iddaw ef?

28Yno y rhoeson senn yddaw, ac y dywedesont, Bydd di ddiscipul yddo: ydd ym ni yn ddiscipulon i Voysen.

29Nini a wyddam ymddiddam o Dduw a Moysen: a’r dyn hwn ny wyddam o b’le mae ef.

30Y dyn a atepawdd ac a ddyvawt wrthwynt, Diau vot hyn yn ryvedd, can na wyddo‐chwi o b’le y mae ef, ac eto ef a agores vy llygait i.

31A’ gwyddam na chlyw Dew bechaturieit: eithyr a’s bydd vn yn aðolwr Duw, ac yn gwneythu ’r y wyllys ef, hwn a erglyw ef.

32Er ioed ny chlyspwyt agori o neb lygait vn a’ enit yn ðall.

33Pe na bysei y gvvr hwn o Dduw, ny allesei ef wneuthu ’r dim.

34Atepesont, a’ dywedesōt wrthaw, Ym‐pechotae ith anet ti yn ollawl, a’ thi a’n dyscy ni? Ac vvy y bwrieson ef allan.

35Yr Iesu a glypu ddarvot yddynt y vwrw ef allan: a’ gwedy yddaw y gahel ef, y dyvawt wrthaw, A yw ti yn credu ym‐Mab Duw?

36Yntef a atepawdd ac a ddyvot, Pwy ’n yw ef, Arglwydd, val y credwyf ynddaw?

37A’r Iesu a ddyvawt wrthaw, A’ thi y gweleist ef, a’ hwnw ydyw ’sydd yn ymddiðan a thi.

38Yno y ’syganei yntef, Arglwyð, Ydd wyf yn credu. A y aðoli ef a wnaeth.

39A’r Iesu a ðyvot, I varnv y deuthy‐mi ir byd hwn, y’n y bo i’r ei ny welant, gael gwelet: ac ir ei a welant, vot yn ddeillion.

40A’r ei o’r Pharisaieit ar oeð gyd ac ef, a glywsant y petheu hyn, ac a ddywedesont wrthaw, A ydym nine ddeillion hefyt?

41A’r Iesu a ddyvot, wrthynt, Pe deillion vyddech, ny byddei y‐chwy bechot: and yr owrhon y dywedwch, Yð ym yn gwelet: can hyny y mae eich pechot yn aros.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help