Marc 16 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. xvj.Y merched yn dyuot at y bedd. Christ gwedy cyuody yn ymddangos i Vair Vagdalen. A’ hefyd ir vn ar ddec, ac yn beio ar y ancrediniaeth wy. Ef yn rhoi ar ei llaw wy preccthy’r Euangel, a’ Betyddiaw.

1A Gwedy darvot y dydd Sabbath, Mair Magdalen, a’ Mair vam Iaco, a’ Salome, a brynesont ireidiae aroglber y ddyvot i iraw ef.

2Ac velly yn dra bore, y dydd cyntaf o’r wythnos y daethant ir vonwent a’r haul yn codi,

3ac y dywedesont wrth ei gylydd, Pwy a ddadtreigla y ni y llech o yddar ddrws y vonwent?

4A’ phan edrychesant, wy welsant ddarvot adtreiglo y llech (o bleit ydd oedd hi yn vawr iawn.)

5Yno ydd aethant y mevvn ir vonwent, ac y gwelsant wr‐ieuāc yn eistedd o’r tu deheu, wedyr ’r wiscaw mewn ystola gannaid: ac wy a ofnesont.

6Ac ef a ddyuot wrthynt, Nac ofnwch: caisio ydd ych Iesu o Nazaret, yr hwn a grogwyt: e gyuodes, nyd yw ef yman: nycha y man lle y dodesent vvy ef.

7Eithr ewch ymaith, a’ dywedwch y’w ddyscipulon, ac i Petr, ydd a ef och blaen i’r Galilaia: yno y gwelwch ef, megis y dyuot ef y chwi.

8Ac wythe aethant allan ar ffrwst, ac a giliesont ywrth y vonwent: can ys‐dechryn ac irdang oedd ynthynt: ac ny ddywedesont ddim wrth nebun: can ys ofnesynt.

9A’ gwedy adcyvody yr Iesu, y borae (yr hwn ydoedd y dydd cyntaf o’r wythnos) ef a ymðangoses yn gyntaf i Vair Vagdalen, o’r hon y bwriesei ef allan saith gythrael.

10Hithe a aeth ac a ddyvot ir ei a vesynt y gyd ac ef, ac oeddent yn cwynovain ac yn wylo.

11A’ phan glywsant y vot ef yn vyw, ac yddy hi y weled ef, ny chredesant.

12Gwedy hyny, yr ymddangosawdd ef y ddau o hanynt mewn ffurf arall, a’ hwy yn gorymðaith ac yn myned i’r ’wlad.

13Ac wy aethant ac a venagesont ir relyw o hanynt, and nyd oeddent yn ei credu vvy chvvaith.

Yr Euangel ar ddydd y Derchavel.

14¶ Yn ol hyny yr ymðangosoð ef ir vn ar ddec val ydd oeddent yn cydeistedd, ac a roes yn y herbyn am e ancrediniaeth a chaledwch ei calonnae can na’s credent yr ei y gwelsent ef, wedy gyvody.

15Ac ef a ðyvot wrthwynt, Ewch ir oll vyt, a’ phrecethwch yr Euangel i bop creatur.

16Yr hwnn a greto ac a vatyddier, a iachëir: eithr yr hwn ny’s cred, a vernir yn evavvc.

17A’r arwyddion hynn a gynlyn yr ei a credant, Yn vy Enw i y bwriant allan gythraeliait, ac a ymadroddant a thavodae newyddion,

18ac a ddyrrant ymaith seirph, ac a’s yfant ddim marwol, ny wna niwet yddynt: ar y cleifion y dodāt ei dwylaw, ac wy a ant yn iach.

19Velly wedy daroedd ir Arglwydd ymddiddan ac wynt, e ðerbyniwyt i vyny ir nef, ac a eisteddawdd ar ddeheulaw Duw.

20Ac wy aethant rhacðwynt, ac a precethesont ympop lle. A’r Arglwydd a gydweithiawð ac wynt, ac a gadarnhaodd y gair ac arwyddion yn arganlyn, Amen.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help