1. Corinthieit 3 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. iij.Paul yn ceryddu y gohanedigaethen a’r cychwynwyr. Ny ddyly neb gredu may a’r law y gweinidogion y mae ei iechydwrieth, amyn y ar law Duw. Bot yddynt ymogelyt rac cam ddysc. Bot Christ yn sailvaenei Eccles. Urddas a’ swydd yn gystal y gweinidogion a’r oll ffyddlonieit.

1AC ny allwn i ymadrodd wrthych, vroder, megis wrth rei ysprytawl, anyd wrth rei cnawdol, ’sef megis wrth blant‐bychain yn‐Christ.

2Llaeth a rois yn ddiot ywch, ac nyd bwyt: can nad allech eto y oddef, ac ny’s gellwch etwa chwaith,

3Can ys etwa cnawdol ytych: o bleit bot yn ych plith ymgenvigenu, a’ chynnen, ac ymrysoneu, anyd ydych chwi yn gnawdol ac yn rhodio val dynion?

4Can ys pan ddywait vn, Ys mi vn i Paul, ac arall. Ys mi i Apollos, anyd ych yn gnawdol?

5Pwy gan hyny yw Paul? a’ phwy yw Apollos, anyd y gweinigogiō drwy’r ei y credesoch, a’ megis y rroes yr arglwyð y bop vn?

6Mivi a blannais, Apollos a ddyfrhaoð, eithr Duw a roðes y cynyð.

7Ac vel’y, na yr hwn’ sy yn planu, nyd yw ddim, na’r hwn ’sy yn dyfrhau, anyd Duw yr hwn ’sy yn rhoi ’r cynnyð.

8A’ hwn a blann, a’ hwn a ddyfrha, yr vn ynt, a’ phop vn a dderbyn ei gyfloc, erwydd ei lavur.

9Can ys nyni cydweithwyr Duw ydym: chvvitheu yw llafurwaith Duw, ac adailadeth Duw.

10Erwydd y rrat Duw y roespwyt y‐my, megis penadailwr celfydd, y gosodeis y sailiad, ac arall ’sy yn adailiad arnaw: anyd edrychet pop vn, pa vodd yr adaila arnaw.

11O bleit sailiat arall ny ddychon neb y ’osot dyeithr yr hwn a ’osodet eisioes, yr hwn yw Iesu y Christ.

12Ac a’s adeilat neb ar y sailiat hwn, aur, ariāt, main gwerthfawr, prenneu, gwair, ne sofl,

13gwaith pop vn a amlygir: can ys y dydd ei dengys, can ys gan y tan y datguddir: a’r tan a braw waith pop dvn pa ryw wedd vo.

14A’s bydd gwaith vn a’r a adailadodd ef arucha, yn aros, ef a gaiff gyfloc.

15A’s llysc gwaith vn, ef a goll, eithr cadwedic vydd ef e: and er hyny megis gan y tan.

16Any wyddoch may Templ Dduw ydych, a’ bot Yspryt Duw yn trigo ynoch?

17A’s dinistra neb Tēpl Duw, hwnw a ðinistr Duw: can ys Templ Duw sanctaidd yw, yr hwn yw‐chwi.

18Na thwyllet neb y hunan. A’s nep yn eich plith ’sy yn tybiet y vot yn ddoeth yn y byt hwn, byddet ffol, val y bo yn ddoeth.

19Can ys doethinep y byt hwn, ffolinep yw gyd a Duw: o bleit may yn ysgrifenedic, Ef a ðalha y doethion yn eu callter ehunain

20A’ thrachefn, Yr Arglwydd a wyr vot meddyliae ’r doethion yn weigion.

21Ac am hyny nac ymhoffet neb yn‐dynion: can ys pop dim ’sydd y chwi.

22Pa vn bynac ai Paul, ai Apollos, ai Cephas ai’r byt, ai bywyt ai angeu, ai petheu cydrychiol, ai petheu y ðyvot, ’sef yddy chwi ynt oll,

23a’ chwi ’sydd yddo Christ, a’ Christ yddo Duw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help