Psalm 66 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Psalm .lxvj.¶ Iubilate Deo.¶ I rhagorawl. Caniat neu Psalm.

1YMlawenhewch yn-Dew, oll y ddaiar.

2Cenwch ’ogoniant ei Enw: gwnewch ei voliant yn ’ogoneddus.

3Dywedwch wrth Ddew, Mor derribl wyt dy weithredoedd: gan liaws dy gedernit y darestyngir dy elynion yty.

4Yr oll vyd ath anrydeða, ac a ganant yty, y canant ith Enw. Sélah.

5Dewch a ’gwelwch weithrededd Dew: terribl yw ef yn waithret wrth plant dynion.

6Ymchwelawdd ef y môr yn tir sych: trwy’r avon y treiddiant ar draet: yno y buam lawen ynthaw.

7Ef a lywia y byt a ei gedernit: ei lygait y edrych ar y cenedloedd, yr anuvyddion nyd ymðerchavant. Sélah.

8 Molwch ein Dew chwychwy populoedd, a’ pherwch glywed llef ei voliant.

9Yr hwn ys id yn cynnal ein eneidie ym-bywyt, ac ny ad ein traet i lithro.

10Can ys ti Ddew an proveist, coetheist nyny mal y coethir arian.

11Dugeist nyni ir magyl, dodeist cyfing ar ein llwyni.

12Perfaist i ddynion varchogeth ar vcha ein penneu: aetham i’r tan ac i’r dwfyr, a’ thi an dugeist allā i diwal’

13Af y mewn ith Tuy a phoeth-ebyrth, a dalaf yty vy addunedae.

14Yr ei addawodd vy-gwevuseu, ac y ddywedawdd vy-genae yn vy-cyvingder.

15Offrymaf yty y poeth-ebyrth meherynot breision, a’ thus: darperaf vustych a’ geifr. Selah.

16Dewch a’ gwrandewch yr ei oll ys y yn ofny Dew, a’ mynagaf ychwy pa wnaeth ef im eneit.

17Galweis arno am gene, ac ef ðerchavwyt am tafawt.

18A’s gwelsym enwiredd yn vy-calon, ny wrendy yr Arglwydd

19Eithyr Dew gwrandawodd, ystyriawdd wrth leferydd vy-gweddi.

20 Mawledic Dew, yr hwn ny wrthlaðawð vy-gweddi, na ei drugaredd y wrthyf.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help