1CAriad broduraidd triged.
2Na ollyngwch tros gof roddi lletty‐i ddiethred: can ys trwy hynny ir erbyniodd rrai yn ddiarwybod Angylion yw tai.
3Meðyliwch am y rrai sy mewn rrwymay, val pe baech yn rrwym gidag wynt: ar rai y ddydis yn y drygu, val pe ych drygid ych hunain yn y corph.
4 Vrddasawl yvv priodas ym hob dyn, ar gwely dilwgr: eithyr y putteinwyr ar ei godinabus Dyw ay barna.
5Bid digybydd ych ymwreðiad, ac ymfodlonwch ac y sydd tan ych llaw, cans ef a ddyvod, ni phallaf yti, ac nis gadawa di chwaith:
6Hyd val y gallō ðoydyt yn hy, Yr Arglwyð ysy yn gymhorth ym, ac nid ofna beth a wnel dyn ymy.
7Meddyliwch am ych preladiaid, rrain a draythason i chwi air Dyw: calynwch y ffydd hwynt, trwy ystyr pa vn yw diweð y ymwreðiad hwynt.
8Iesu Christ doy, a heddiw, yr vn hefyt ysydd yn dragwyddol.
9Nedwch ych dwyn o amgylch ac amryw, ac a dieithyr ddysceidiaythay: can ys da ydiw cadarnhau yr galon a gras, ac nid a bwydydd, rain ni thyciasont ir rrai a fu yn ymarfer ac wynt.
10May kenymi allor or hon ni does audurdod yddyntwy y fwytta rrai sy yn gwasneuthur yn y Tabernacl.
11Can ys yr enifeilaid gwaed yr rrain a ddwg yr archeffeiriad ir santeiddle tros bechod, kyrff y y rrain a loskir y tu ollan ir lluestai.
12Ac am hynny ac Iesu, ir yddo santeiddior bobl trwy y waed y hun, or tu allan ir porth y dioddefodd ef.
13Am hynny awn atto ef or tu allan ir lluestai, gā ddwyn y ddirmig ef.
14O blegid ni does i ni yma ddynas a bery, eithr hon a ddaw y ddym yn i cheisio.
15Offrymmwn o blegid hynny yn estig trwyddo ef y Ddyw aberth moliant, hynny yw, ffrwyth gwefusay, yn cyfadday y Enw ef.
16Nedwch tros gof fod yn gywaithas a chyfrannu: can ys a chyfryw aberthay y boddheir Dyw.
17Vfyddhewch ych preladiaid, ac ymddarostyngwch: o blegid gwilio y maent tros ych eneidiau chwi, megis rrai a fydd rraid vddynt roi kyfri, mal i gallon wneuthyr hynny yn llawen, ac nid yn drist: can ys dibroffid yw hynny i chwi.
18Gweddiwch trosom ni: can ys may yn siccr kenym, fod y ni gydwybod dda ym‐hob peth, yn chwenychu byw yn onest.
19Y ddwy yn disif arnoch wneuthur hynny beth difrifach, ir mwyn cael yn ebrwyðach fyngollwng attoch.
20Dyw yr heddwch rrwn a ddug trachefn o ddiwrth y meirw eyn harglwyð Iesu, y bigael mawr y defaid, trwy waed yr Amod tragwyddol,
21Ach gwnel yn berffaith ym hob gwaithred ða, y wneuthyr y wollys ef, drwy weithio ynochi yr hyn a fo cymradwy yn y olug ef trwy Iesu grist, ir hwn y bo gogoniant yn oes oesoedd, Amen.
22Y Ddwy yn wir yn disif arnoch, ymrodyr, goðefwch y gair cyngor, o blegid ac ychydig eiriau ydd yscrifenais attoch.
23Gwybyddwch fod ein brawd Tymotheus y ollwng yn rrydd, gidar hwn (odaw e ar fyrder) y do y ymweled a chwi.
24Anherchwch ych preladiaid oll, ar sentiau y gyd. May gwyr Ital yn erchi ych annerch,
25Gras a fo gida chwi oll achlan, Amen:
At yr Ebraiaid yr yscrifenwyd yr ebystl hon or Ital trwy Tymotheus.
Xx.iiij.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.