1YN y cyfamser, yr ymdyrrawdd ynghyt lliaws aneirif o bopul, y’n yd ymsengynt ar y gylydd: ac y dechreuodd ef ddywedyt wrth ei ddiscipulon yn gyntaf, Ymochelwch rac surdoes y Pharisaiait, yr hwn yw hypocrisi.
2Can nad oes dim toedic, a’r ny’s didoer: na chuðiedic a’r ny’s daw i wybodaeth.
3Erwyð paam pa bethe bynac a ðywetsoch yn‐tywyllwch, ei clywir yn y goleuni: a’ hyn a ddywedesoch yn y glust, mewn lleoedd dirgel, a bregethir ar vchaf y tai.
4A’ dywedaf wrthych vy‐cereint, Nac ofnwch rac yr ei n a laddant y corph, ac wedy hyny eb yddyn gahel gwneuth ’r dim mwy.
5A’ rhac ddangosafy‐chwy, pwy ’n a ofnwch: ofnwch hwn yr vn gwedy lladdo, ’sy iddo veddiant i vwrw i’r yffern: dioer, y dywedaf wrthych, hwnvv a ofnwch.
6Any phrynir pempt o darynot‐y‐to er doy fferling, ac eto nid oes vn o hanynt yn angof geir bron Duw?
7Ie, ac y mae oll wallt eich pen yn gyfrifedic: nag ofnwch gan hyny: ys ymdelwch mwy no llawer o adarynot yto.
8Hefyt y dywedaf y‐chwy, Pwy pynac a’m cyffesso i geyr bron dynion, Map y dyn y cyffessa yntef hefyt geyr bron Angelion Duw.
9A’ hwn a’m gwato i geyr bron dynion, a wedir geyr bron Angelon Duw.
10A’ phwy pynac a ddywait ’air yn erbyn Map y dyn, ei maddeuir iddaw: eithyr i hwn a gablo yr Yspryt Glan, ny’s maddeuir.
11A’ phan ich’ dugant ir Synagogae, ac at y llywyawdwyr a’r gwyr‐o‐veddiant, na ovelwch pa vodd, nei pa beth a atepoch, nai pa beth a ddywetoch.
12Can ys yr Yspryt Glan a’ch dysc yn yr awr hono, pa beth sy rait i chvvi y ddywedyt.
13Ac vn o’r dyrfa a ddyvot wrthaw, Athro, arch i’m brawd rannu a mi yr etiueddiaeth.
14Ac ef a ddyuot wrthaw, Y dyn, pwy a’m gesodes i yn vrawdwr, neu yn rhannwr arnoch?
15Erwydd paam ef a ddyuot wrthynt Edrychwch ac ymogelwch rac trachwant: can ys cyd bot i ðyn amlder o dda, er hyny nid yw i einioes yn sefyll o nerth ei dda.
16Ac ef adroddawdd barabol wrthynt, gan ddywedyt, Tir ryw wr goludawc a ffrwythlonawdd yn dda.
17Ac velly y meddyliawð ynto ehun, can ddywedyt, Beth a wnaf, am nad oes genyf ehengder lle gallwyf ðody veu ffrwythae y gadw?
18Ac ef a ddyuot, Hyn a wnaf, mi dynnaf veu yscuporiae i lawr, ac a adailiadaf ’rei mwy, ac yddyn y casclaf veu oll ffrwythae, a’m daon.
19A’ dywedaf wrth vy enait, Enait, mae yti dda lawer wedy ’r roi y gadw dros lawer o vlyðyneð: gorphywys, bwyta, yf, ymddigrifha.
20A’ Duw a ddyuot wrthaw, A ynfyd, heno y cyrchant ymaith dy enait y cenyt: yno pwy biei‐vyð y pethae a arlwyaist?
21Velly am hwn a dresoro yddo ehun, ac nyd yw ’oludawc yn‐duw.
22Ac ef a ddyuot wrth ei ddiscipulon, Am hyny y dywedaf wrthych, Na phryderwch am eich einioes, beth a vwytaoch: nac am eich corph, beth a wiscoch.
23Mwy yw’r einioes na’r lluniaeth: a’r corph na’r wisc.
24Ystyriwch vvedd y cicvrain: can na heuant, ac na vetant: ac nid oes yddyn na chell nac yscupawr, ac er hyny y mae Duw yn y l’uniaethy hwy: pa veint mwy ydd y‐chwi well na ’r ehediait?
25A phwy ’n o hanoch drwy ovalus‐veðyliaw, a aill dodi wrth ei gorpholaeth vn cuvydd?
26A’ny ellwch gan hyny wneythur y peth lleiaf, paam y pryderwch am y llaill?
27Ystyriwch’ y lili mal y tyfant vvy nyd yyn yn travaely, nag yn nyddu: a’ dywedaf wrthych, na bu Selef y un yn ei oll arderchawgrwydd, wedy ’r wiscaw val vn or ei hyn.
28Ac a’s amwisc Duw y gwelltyn yr hvvn’sy heddyw yn y maes, ac y voru a daylir ir ffwrnais, pa vaint mwy y dillada ef chvvychwi, havvyrvechan eich ffydd?
29Can hyny na vid y chwi ymovyn, py beth a vwytaoch nei pa beth a yfoch, ac na phedruswch.
30Can ys y pethae hyn oll a ymgais populoedd y byd: a’ch Tat chwi a wyr vot arnoch eisie y pethae hynn.
31And yn hytrach caisiwch‐vvi deyrnas Duw, a’r pethae hyn oll a roddir ychwy.
32Nac ofna, dydi gadw bach: can ys ryngawdd bodd i’ch Tad roddy y‐chwy y deyrnas.
33Gwerthwch ysyð y‐chwy, a ’rhowch yn eleeseni. Gwnewch y‐chwy amnerae a’r ny’s hen eiddiant, yn dresawr andefficiol yn y nefoedd, lle ny nesa llaitr, ac ny lygra pryf.
34Can ys lle y mae eich tresawr, ynaw y byð eich calon hefyt.
35Bit eich llwyni wedy ’r wregysu, a’ch cannwyllae wedy ’nynu,
36a’ chwitheu yn gyffelyp i ðynion yn dysgwyl am ei harglwydd, pa bryd y daw ef o’r briodas, val pan ddel ef a’ churo ’r drvvs, yddyn agori iddo yn ebrwydd.
37Ys gwynvydedic y gweision hynny, yr ein yr Arglwydd pan ddel ei caiff yn‐neffro: yn wir y dywedaf y‐chwi, yr ymwregysa ef ehun, ac a‐wna‐yddyn eisted‐i lawr‐i‐vwyta, ac a ddaw allan, ac y gwasanaetha hwy.
38Ac a’s daw ef yn yr ail wiliadwriaeth, nei a’s daw ef yn y drydedd wiliaduriaeth, a’ ei cahel wy velly, gwyn ei byt y gweision hyny.
39Yr owon gwybyddwch hyn, pe’s gwypei gwr y tuy pa awr y daethesei’r lleitr, ef a wyliesei, ac ny adawsei gloddiaw ei duy trywoð,
40A’ byddw‐chwitheu am hyny barot: can ys daw Map y dyn yn yr awr a’r ny thybioch.
41Yno dywedyt o Petr wrthaw, Arglwydd, ai wrthym ni y dywedy y parabol hwn, ai ynte wrth bavvb oll hefyt?
42A’r Arglwydd a ddyvot, Pwy ’n sy dy-warcheidwat ffyddlawn, a’ phwyllawc, yr hwn a ’osyt yr Arglwydd yn llyvvodraethvvr ar ei duylu, y roddy yddyn ei cyfluniaeth yn y amser?
43Gwyn ei vyt yntef y gwas, yr hwn ei arglwyð pan ddel, ai caiff yn gwneythu ’r velly.
44Yn wirionedd y dywedaf wrthych, y gosyt ef hwnw yn llyvvodraethvvr ar yr oll ac ys y iddaw.
45Eithyr a’s dywait y gwas hwnw yn ei galon, Ef a oeda vy arglwydd ei ddyuodiat, a’ dechrae curaw y gweision, a’r morynion a’ bwyta ac yfet, a’ meddwi.
46E ddaw arglwydd y gwas hwuw mewn dydd pryd na thybia ef, ac mewn awr na wyr ef ywrthei, ac ei trycha ef ymaith, ac a rydd iddo ei ran y gyd a’r anffyddlonieit.
47A’r gwas hwnw a wybu ewyllys ei arglwydd, ac nyd ymbaratoawdd, ac ny wnaeth yn ol y ewyllys ef, a vaiddir a llawer gvvialennot.
48Eithyr ’hwn ny’s gwybu, ac a wnaeth bethae teilwng o wialenodae a vaiddir ac ychydic vvialenodæ: can ys i bwy bynac y rhoðwyt llawer, l’awer a geisir ganthaw, ac y bwy bynac y dodant lawer, mwy a ’o vynnant ganthaw.
49Taan a ðaethym i roi ar y ddaiar, a’ pha beth yw v’wyllys, a’s cenneuwyt eisus?
50Eithyr dir yw vy-betyddiaw a betydd, a’ phywedd im gwescir, y’ ny dervynir hyn.
51A’ dybiwch ddyuot o hanovi y roddy tangneddyf ar y ddayar? dywedaf y chwi, nad do eithyr yn hytrach ymryson.
52Can ys o hyn allan y byð pemp yn yr vn tuy wedy’r ymranu, tri yn erbyn dau, a’ dau yn erbyn tri.
53Y tat a ymranna yn erbyn y map, a’r map yn erbyn y tat: y vam yn erbyn y verch, a’r verch yn erbyn y vam: y chwegr yn erbyn y waydd, a’r waydd yn erbyn hei chwegr.
54Yno y dyuot ef ir werin, Pan weloch wybren yn cyuodi o’r Gorllewin, yn y van y dywedwch, Y mae cavod yn dyuot: ac velly yw.
55A’ phan vveloch y Deheuwynt yn chwythu, y dywedwch, y bydd hi gwresoc, a hi vydd.
56Hypocriteit, chvvi gwyddoch ddyall wynep y ddayar, a’r nef: a’ phaam na ddyellwch yr amser hyn?
57Ac paam na vernwch o hanoch eich hunain beth ’sy gyfiawn.
58Tra vych yn myned y gyd ath ’wrthnebwr at y llywyawdr, ’rhydd y fforð dyro dy waith ar gael dy ymwared y wrthaw, rac bot iddaw dy ddwyn at y brawdwr, ac i’r brawdwr dy roðy at y cais, ac ir cais dy davlu yn‐carchar.
59Dywedaf yty, nad ai di y maes o ddyno yd y ny thelych yr hatling eithavv.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.