Philippieit 2 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. ij.Mae ef yn eu cygcori yn uch pen dim i vvylltot, wrth yr hyn yn bennaf y cynhelir y ddysc bur. Gan addaw y byð iddo ef a’ Thimotheus ddyvot ar vrys atynt wy. Ac escuso y mae ef hirdrigiat Epaphroditus.

1A D oes neb diddanwch in‐Christ, a’s oes confort cariat, a’s oes neb cymddeithas a’r Yspryt, a’s oes neb tosturi na’ thrugaredd,

2cyflawnwch veu llawenydd, ar y chwi vot yn vn vryd, a’ chenych yr vn ryvv gariat, ac yn vneneidiae, ac yn vn varn,

3val na vvneler dim trwy gynnen neu ’wag ’ogoniant, eithyr yn‐gostyngeidrwydd‐calon tybied pop vn vot arall yn well nac ef yhun.

4Nac edrychwch bop vn ar yr yddoch y chunain, eithr pop vn hefyt ar y petheu ’sydd y eraill.

Yr Epistol y Sul o vlaen y Pasc.

5Bid yr vn veddwl ynoch ac oedd in‐Christ Iesu,

6yr hwn ac ef yn ffurf Dduw, ny thybiawdd drais vot yn ’ogyfiuwch a Duw:

7eithr ef y diðymiawð ehun, ac a gymerth arnaw agwedd gwas, ac ei gwnaethpwyt yn gyffelyp i ddynion,

8ac a gaffad yr vn ffynyt a dyn. Ef a ymostyngawð can vod yn uvydd i angeu, ys angeu croc.

9Erwyd paam hefyt Duw y tra derchafawdd ef, ac a roddes yðo Enw, uch pen pop enw,

10pan yw yn Enw ’r Iesu i bop glin estwng yn gystal ir nefolion, a’ daiarolion, ac y danddaiaroliom bethæ,

11ac y bop tauot coffessu mae Iesu Christ yw’r Arglwyð, er gogoniant Duw Tat.

12Erwydd pa bleit veu‐caredigion, megis bop amser yr uvyddhaesoch, nyd megis yn veu‐gwydd yn vnic, eithr yr awrhon yn vwy o lawer yn veu absent, velly gorphenwch eich iechydwrieth ychunain drwy ofn ac echryn.

13Can ys Duw yw’r hwn ’sy yn gweithio ynoch, ’sef yr ewyllys a’r weithred, nid amgen oi vvir wyllys da.

14Gwnewch bop dim yn ddivurmur ac eb ymddadle,

15val y byddoch yn ddiargywedd, ac yn bur, ac yn veibion i Dduw yn ddigwliedic ym‐pervedd cenedleth ddrigionus ddygam, ym‐plith yr ei yð ych yn dysclaerio megis lleuvereu yn y byt,

16yn rrac estend gair y bywyt, er gorfoledd ym yn‐dyð Christ, can na redais yn over, ac na lavuriais yn over.

17Ie, a’ phe im offrymit ar ucha yr aberth a’ gwasanaeth eich ffydd, llawen yw genyf, a’ chydlawen a’ chwi oll.

18O bleit hyn hefyt byddwch‐witheu lawen, a chydlawenhewch a’ minheu.

19A’ gobeithaf yn yr Arglwydd Iesu, y ddanvonaf Timotheus ar vyrder atoch, vegis im conforter i hefyt, wrth wybot ywrthych.

20Can nad oes i mi neb o gyffelyp veddwl, yr hwn a ’ofala yn ffyddlawn dros eich negesae.

21Can ys pawp ’sy yn ceisiaw yr yddyn y hunain, ac nyd yr hyn ’sy yddaw Christ Iesu.

22Eithyr chvvi adwaenoch y brofiadigeth am dano ef, can ys val map y gyd a thad, y gwasanaethoedd ef gyd a mivi yn yr Euangel.

23Hwn gan hyny ’r wy’n gobeitho y ddanvon cyn gynted ac y gwypwyf pa ddelw vydd y‐my,

24a ’gobeithaf yn yr Arglwydd, y bydd i mi vyhun hefyt ddyvot ar vyrder.

25Eithr ys tybiais vot yn angenraidiol ddanvon veu‐brawd Epaphroditus atoch, veu‐cydweithwr, a’m cydvilwr, ’sef eich cennad chwi, a’r hwn a vu yn vy‐gwasanaethu inheu o gyfryw betheu ac oeð arnaf i eisieu.

26Can ys yð oeð arno hiriaeth am dano chwi oll, ac athrist iawn ytoedd, can y chwi glybot, y vod ef yn glaf.

27A’ diau y vot ef yn glaf, ac yn gyfagos y angeu: anyd bot y Dduw drugarhau wrthaw, ac nyd wrtho ef yn vnic, amyn wrthy vi hefyt, rac y‐my gahel tristit ar dristit.

28Mi y danvoneis ef gan hyny yn ddiescaelusach, val pan welech ef drachefn, y llawenhaech, ac y byddwn inheu yn ddidristach.

29Erbyniwch ef gan hyny yn yr Arglwydd y gyd a chwbl llawenydd, a’ mawrhewch y cyfryw ’rei:

30can ys er mwyn y gwaith Christ y bu ef yn agos i amgeu, ac ny ðarbodawdd am ei einioes, y gwplau deffic eich gwasanaeth i mi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help