Psalm 79 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Psalm .lxxix.¶ Deus venerunt gentes.¶ Psalm y roddit at Asaph.Boreu weddi.

1A Ddew, daeth y cenedloedd ith etiueddiaeth: dy Templ sanctaidd a alogasant, a’ gwnaethant Caerusalem yn bentyrreu

2Celanedd dy weision y roesaut yn vwyt y adar y nefoedd: chic dy Sainct y vwystviledd y ddaiar.

3Ei gwaed y ðineuesant mal dwfyr o amgylch Caerusalem, ac nid oedd nep y’w claddu.

4 Ydd ŷm yn warthrudd i’n cymydogion, yn dremic ac yn watworgerdd ir ei sydd o’n amgylch.

5Arglwydd, yd pa hyd y digi yn dragyvyth? a lysc dy eiddygedd mal tan?

6 Dinéa dy var ar y cenedlnedd nith adnabuont, ac ar y teyrnasoedd ny ’alwasant ar dy Enw.

7Canys ysu Iaco a wnaethant, a’ diffeithio ei- breswylfa.

8Na choffa ini y pechatae gynt, brysia ath dostur drugareddeu an rracvlaeno: dirvawr yw ’n trueni.

9Cymporth ni-Ddew ein iechyt, er gogoniant dy Enw, a’ gwared ni a’ thrugará wrth ein pechatae er mwyn dy Enw.

10Paam, y dywedei y cenedloeð, P’le mae y Dew hwy? adnabyðer ef ym-plith y cenedloeð yn dy ’olwc gan ðialeð gwaet dy weision y ’orddineuwyt.

11Deuet vchenaid y carcharorion ger dy wynep: yn ol mowredd dy vraich, cadw blant angeu,

12 A’ dod in cymydogion saithvet yw monwes ei cabl, a’r hwn ith caplasant, Arglwydd.

13A’ nineu ty popul a’ deueit dy porva ath glodvorwn yn tragyvyth: ac o genedlaeth i genedlaeth y datcanwn dy voliant.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help