1YNo ydd ymgasclawdd y Pharisaieit attaw, a’r ei o’r Gwyr‐llen ar a ddaethent o Gaerusalem.
2A’ phan welsant ’r ei o’r discipulon yn bwyta bwyt a dwylo cyffredin (ys ef yw hyny eb ei golchi) yr achwynesont.
3(Can ys y Pharisaieit a’r ol’ Iuddeon, dyeithr yðynt ’olchy ei dwylo yn ’orchestol, ny vwytaant, gan ðalha athraweth yr Henaifeit.
4A’ phan ddelont o’r varchnat, o ddyethyr yðyn ymolchy, ny vwytant: a’ llawer o bethae eraill ynt, a’r a gymersant vvy arnynt ei cadw, vegis golchiadae cwpanae, ac ysteni, ac evyddenneu a’ byrddae.
5Yno y govynodd y Pharisaieit a’r Gwyr‐llen iddaw, Paam na rodia dy ddiscipulon di herwydd athraweth yr Henaifieit, anyd bwyta bwyt a dwylo eb olchi?
6Yno ydd atebei ac y dywedei yntef wrthynt, Can ys da y propwytawdd Esaias am dano‐chwi hypocritae, vegis yð escrivenir, Y popl hyn am anrydedda i aei gwefusae, a’ ei calon ’sy pell hwnt o ddywrthyf.
7Ac ouer im anrydeddant i, gan ddyscy yn lle dysceidaeth ’orchynynae dynion.
8O bleit ydd ych yn rhoi gorchymyn Duw heibio, ac yn cadw athraweth dynion, vegis golchiadae ysteni a’ chwpanae, a’ llawer o gyffelyp bethae ydd ych yn ei ’wneythyr.
9Ac ef a ðyvot wrthynt, Ys da iavvn, y gomeðwch chwi ’orchymyn Duw, val y catwoch eich athraweth eich unain.
10Can ys Moysen a ddyvot, Anrydedda dy dad a’th vam: a’ Phwy pynac a velltithia dad nei vam, bid varw o’r varwoleth.
11A’ chwi ddywedwch, A’s dywait vndyn wrth dad nei vam, Corban, ys ef yw hyny, Trwy ’r rhoð a offrymir genyfi, y daw lles yty, rhydd vydd ef.
12Ac ny edwch iddo mwyach wneythy’r dim lles y’w dad na ei vam,
13gan ychwi ddirymio gair Duw, can eich athraweth eich hunain yr hwn a ’osodesochwi: a’ llawer o ryw gyffelyp pethae hyny a wnewch.
14Yno y galwodd ef yr oll dyrfa ataw, ac a ðyuot wrthynt, Gwrandewchvvi oll arnaf, a’ dyellwch.
15Nid oes dim allan o ddyn, a ddychon y halogy ef, pan el oei vewn: eithyr y pethae a ddaw allan o hanaw, yw’r ei a halogant ddyn.
16A’s oes gan nep glustiae y glywed, clywet.
17A’ phan ddaeth ef ymywn i duy o y wrth y werin, y gouynodd ei ddiscipulon iddo o bleit y parabol.
18Ac ef a ddyvot wrthwynt, Velly a y tych chwithe hefyt yn ddiddyall? A ny wyddoch pan yw pop peth o ddyallan a el o vewn dyn, na all y halogy ef,
19can nad yw yn myned o vewn ei galon, yn amyn ir boly, ac yn myned allan i’r gauduy yr hwn yw carthiat yr oll vwydydd?
20Yno y dyuot ef, Y peth a ddaw allan o ddyn, hyny a haloga ddyn.
21Can ys y ddymewn ’sef o galon dynion y deillia meddyliae mall, tori‐priodasae, godinebae, lladd‐celain,
22llatrata, cupydddra, scelerdra, dichell, haerllycrwydd llygad drwc, cabl‐air, balchedd, ampwyll.
23Yr oll ysceleroedd hyn a ddon o ddymywn, ac a halogan ddyn.
24Ac o yno y cyfodes ef, ac ydd aeth i gyffinydd Tyrus a’ Sidon, ac aeth y mewn y duy, ac ny vynesei y neb gael gwybot: an’d ny allei ef vot yn guddiedic.
25Can ys gwreic, yr hon oedd ei merch‐vach ac iddi yspryt aflan, a glypu son am danaw ac a ddaeth ac a gwympodd wrth y draed ef
26(A’r wreic oedd Groec, a’ Sirophenissiat o genedl) a’ hi ervyniawdd iddo vwrw allan y cythrael o hei merch.
27A’r Iesu a ddyvot wrthei, Gad yn gyntaf borthi y plant: can nad da cymeryd bara ’r plāt a’ ei davly i’r cynavon.
28Yno ydd atepodd hi ac y dyuot wrthaw, Diau, Arglwydd: eto eisioes e vwyta ’r cynavon y dan y vord o vriwson y plant.
29Yno y dyuot ef wrthi, Am yr ymadrodd hwn dos ymaith: ef aeth y cythrael allan o’th verch.
30A’ gwedy y dyuot hi adref y’w thuy, hi a gavas y cythrael gwedy ymadel, a’ ei merch yn gorwedd ar y gwely.
Yr Euangel y xij. Sul gwedy Trintot.
31Ac ef aeth drachefn ymaith o ffiniae Tyrus a’ Sidon, ac a ddaeth yd vor Galilea trwy perveð cyffiniae y Dectref.
32Ac wy a dducesont attaw vn byddar; ac ac attal dywedyt arnaw, ac a atolygesont iddaw ’osot ei law arno.
33A’ gwedy iddaw ei gymeryt ef or neilltu allan o’r tyrfa, ef a estennawdd ey vyssedd yn ei glustiae, ac a boyrawdd, ac a gyfyrddawð a ei davot ef.
34Ac ef a edrychawð ir nef, can vcheneidiaw, ac a ddyvot wrthaw, Ephphatha ys ef yw, ymagor.
35Ac yn y man ydd ymagorawdd ey glustiae, ac ydd ymellyngawdd rhwym ei davot, ac ef a ddyvot yn eglur.
36Ac ef a ’orchymynawdd yddwynt, na ddywedynt i nep: an’d pa vwyaf y goharddei yðwynt, mwy o lawer y manegynt,
37a’ brawychy eb weð a wnaethant, can ðoedyt Tec y gwnaeth ef pop peth: ir byddair y gwna ef glywet, ac ir mution ddywedyt.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.