Matthew 14 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. xiiij.Tyb Herod am Christ. Lladd pen Ioan. Christ yn porthi pempmil popul a’ phemp torth a’ dau pysc. Ef yn gweddiaw yn y mynyth. Ef yn ymddangos liw nos ar y mor yw ddiscipulon. Ac yn achup Petr. Hwy yn cyffessy y vot ef yn vap Dew. Ef yn iachay pawp a gyhyrddodd‐ac emylyn y wisc ef.

1Y Pryd hyny y clybu Herod y Tetrarch am Iesu,

2ac y dyvot wrth ei weison, Hwn yw Ioan Vatyddiwr. Ef gyfodes o veirw, ac am hyny y gweithredir weithredoedd‐nerthol ganthaw.

3Can ys Herod a ddaliesei Ioan ac ei rhwymesei, ac ei dodesei yn‐carchar o bleit Herodias, gwraic Philip y vrawt ef.

4Can ys Ioan a ddyvot wrthaw, Nid deddfol y ti y chahel hi.

5A’ phan oedd yn ei vryd y roi ef yw varwolaeth, ef ofnoð y dyrva, can ys wy y cymerent ef val prophwyt.

6A’ phā getwit dydd genedigaeth Herod, y dawnsioð merch Herod geyr y brō wy, ac y boddhaodd hi Herod.

7Erwydd paam y gaddawodd ef dan-dwng, y rhoddei yddhi beth pynac ar a archei hi.

8Ac yhi wedy hi addyscy gan hei mam, a ddyvot, Dyro i mi yma ben Ioan Vatyddiwr mewn descl.

9A’r Brenhin a dristawð: eithyr o erwydd ei lw, a’r ei a eisteddent y gyd ac ef wrth y vort, y gorchymynawdd ef ei roi iddi:

10ac ef a ddanvonawdd gennad ac a laddawd ben Ioan yn y carchar.

11Ac a dducpwyt y ben ef mewn descyl, ac ei rhoet ir vachcennes, a’ hi ei duc y’w mam.

12A’ ei ddiscipulon ef a ðaethant, ac a gymersant y gorph ef ac ei claddesont, ac aethont ac a ddywedesont, i’r Iesu.

13A’ phan ei clybu yr Iesu, ef a dynnodd o ddyno mewn llong i ddiffeithfa or nailltu. A’ gwedy clybot o’r dyrva, wy y dilynesōt ef ar draet allā o’r dinasoeð.

14A’r Iesu aeth ymaith ac a welodd dyrva vawr, ac a dosturiawdd wrthwynt, ac ef a iachaodd y cleifion hwy.

15¶ A’ gwedy y mynd hi yn hwyr, y daeth ei ddiscipulon attaw, can ddywedyt, Diffaith yw’r lle yma, a’r awr aeth heibio: gellwng y dyrva ymaith, i vyned ir dinasoeð y bryny yddyn vwydydd.

16A’r Iesu a ddyvot wrthynt, Nid rhait y yddyn vyned ymaith: Rowch chwi yddwynt beth y’w vwyta.

17Yno y dywedesont wrthaw, Nid oes genym anyd pemp torth a’ dau pyscotyn.

18Ac ef y ðyvot, Dugwch wy i mi yman.

19Ac e orchymynawð ir dorf eisteð ar y gwelltglas, ac a gymerth y pemp torth a’r ddau byscodyn, ac a edrychawdd i vynydd tu ar nef, ac a vendithiodd, ac a dores, ac a roes y torthae y’w ddiscipulon, a’r discipulon ir dyrva.

20Ac wy oll a vwytesont, ac wy a ddigonwyt. Ac a godesont o’r briwuvvyt oedd yngweðill saith bascedeit.

21Ar ei a vwytesent, oedd yn‐cylch pempmil o wyr, eb law gwrageð a’ rhai bychain.

22¶ Ac yn y van y cympellodd yr Iesu ei ddiscipulon i vyned mewn llong, a’ myned trosodd oei vlaen, tra ddanfonei ef y dyrfa ymaith.

23A’ gwedy iddo ddanvon y dyrfa ymaith, ef escennawdd ir mynyd vvrtho ehun i weddiaw: a’ gwedy y hwyrhai hi, ydd oedd ef yno yn vnic.

24Ac yno ydd oeð y llong yn‐cenol y mor, ac a drallodit gan donnae: canys gwynt gwrthwynep ytoedd.

25Ac yn y bedwerydd wylfa or nos, ydd aeth yr Iesu attwynt, gan rodio ar y mor.

26A’ phan welodd ei ddiscipulon ef yn rhoddiaw ar y mor, y cythrwblit wy gan ddywedyt, Drychioleth yd yw, ac a waeddeson rac ofn.

27Ac yny man, yr ymadroddodd yr Iesu wrthwynt, gan ddywedyt, Cymerwch gysir da. Myvi ytyw: nac ofnwch.

28Yno ydd atpawdd Petr ef, ac a ddyvot, Arglwydd, a’s ti yw, arch i mi ddewot atat ar y dwfr.

29Ac ef a ddyvot, Dyred. A’ gwedy descend o Petr o’r llong, ef a rodioð rhyd y dwfr i ðyvot at yr Iesu.

30An’d pan welawdd ef wynt cardarn, yr ofnawdd: a’ phan ddechreuawdd suddo y llefawð, gan ddywedyt, Arglwydd, cadw vi.

31Ac yn y man yr estendawdd yr Iesu ei law, ac ymavlodd ynthaw, ac y dyvot wrtho, A dydi vychan o ffyð, paam y petruseist?

32Ac er cynted yd aethon ir llong, y peidiawdd y gwynt.

33Yno yr ei oedd yn y llong, a ddaethon ac y addolesant ef, gan ddywedyt, Yn wir map Dew ytwyt.

34¶ A’ gwedi yðyn vyned trosodd, vvy ddaethant i dir Genezaret.

35A’ phan i adnabu gwyr y van hono efo, ys danfonesāt ir wlat hono o y amgylch, ogylch, ac a ddygesont attaw yr ei oll oedd yn gleifion.

36Ac a atolygont iddo gael cyfwrdd ac emylyn y wisc ef yn vnic: a chynnifer ac a gyfyrddawð a hi, a iachawyt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help