Psalm 16 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Psalm .xvj.Conserua me Domine.¶ Michtam Dauid.

1CAdw vi Dduw, can ys ynot’ ymddiriedeis.

2[Vy eneit,] dywedaist wrth yr Arglwydd, Vy Arglwydd ydwyt, vy-da i nyd yty.

3Eithr i’r Saint ys y yn y ddaiar, ac i’r ei ragorawl: vy oll ewyllys ys yð ynthwynt.

4Ef a amlheir gofidieu yr ei a redant arall: eu h’offrwmeu o waed nyd offrymaf, ac ny wnaf goffa am eu h’enweu a’m gwevuseu.

5Yr Arglwydd rran vy etiueddiaeth a’m phiol: ti a gynhely vy coelbren.

6Y rhaffeu a ddygwyddawdd y mi mewn lleoedd tirion: ac y mae ymy etiueddiaeth glaerdec.

7 Bendithiaf yr Arglwydd, yr hwn a’m cygorawdd: vy ’rennae hefyd ys ydd im dyscu yn y nos.

8Gosodeis Ddew bop amser ger vy-bron: can ys y mae ef ar vy-deheulaw, ny lithraf.

9Erwydd pa bleit y llawenychawð vy-calon, ac y ymorugawdd vy-gogoniant, am cnawt hefyd a orphwwys yn-gobeith.

10Can ny edewy vy eneit yn y bed: ny oddefy dy sanct y welet llygredigaeth.

11Dangos ymy lwybyr bywyt: ger dy vron y mae llawnder llawenydd: ar dy ddehaulaw y mae digrifwch yn tragyvyth.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help