1GWir a ddywedaf yn‐Christ, ny ðywedaf gelwydd, a’m cydwybot yn cyttestolaethu a’ mi yn yr Yspryt glan,
2vot tristit mawr a’ dolur dibait yn vy‐calon.
3Can ys mi a rybuchwn vot yn ’ohanedicbeth y wrth Christ, dros vy‐brodur, sef vy‐cenetl erwydd y cnawt,
4yr ei ynt yr Israelieit, i ba ’r ei y perthyn y mab‐wysiad, a’r gogoniant, a’r Dygymmodae, a’ dodiat y Ddeddyf, a’ gwasanaeth Duvv, a’r gaddeweidion.
5O ba’r ei yr hanoedd y tadae, ac o ba ’r ei erwydd y cnawd, yr hanoedd Christ, yr hwn ’sy yn Dduw arucha oll yn vendigedic yn oes oesoedd, Amen.
6Er hyny ny ddychon vot mynet gair Duw yn ðirym: can nad ynt vvy oll yn Israeliait, a’r a hanoeddynt o’r tad Israel.
7Ac nyd ynt vvy oll yn blant, o blelt eu bot o had Abraham: eithyr yn Isaac y galwer dy had di:
8ys ef yw hyny, nyd yr ei ’sy yn blant y cnawt, ydynt plant Duw: eithyr plant yr addewit a gyfrifir yn had.
9Can ys gair addewit yw hwn, Yn yr amser hwn yma y dauaf, ac y bydd map i Sara.
10Ac nyd efe yn vnic a vvybu hyn, anyd hefyt Rebecca gwedy iddi ymðwyn gan vn, ’sef gan ein tad Isaac.
11Can ys eto cyn na geni ’r plant, a’ phryd na wnaethesent na da ’na drwc (megis y trigei bwrpos Duw yn safedig erwydd ei etholedigaeth sef nyd gan weithredodedd, anyd gan yr vn ’sy yn galw)
12y dywetpwyt wrthei, Yr henaf a wasanaetha ’r ieuaf.
13Megis y scrifenwyt, Iacob a gerais, ac Esau a gasëis.
14Beth ddywedwn wrth hyny? A oes ancyfiaunder gan Dduw? Ymbell oedd.
15Can ys wrth Voysen y dywait, Mi drugarhavvyf wrth yr hwn, y trugarhaf: ac a dosturiwyf wrth hwn bynac, y tosturiaf.
16Ac velly nyd yw ’r etholedigeth ar lavv hvvn a wyllysa, nac ar law hwn a red, anyd ar law Duw rhvvn sy yn trugarhau.
17Can ys yr Scrypthur ’lan a ddywait, wrth Pharao, I hyn yma yth cyffroeis i vynydd, val y dangoswn vy‐meddiant yno ti, ac val y datcenit vy Enw trwy ’r oll ðaiar.
18Can hyny wrth yr hwn yr wyllysia, y trugarha ef, a’r hwn a wyllysia, ef ei caleda.
19Dywedy gan hyny wrthyf, Paam ymae ef eto yn cwyno? can ys pwy a wrthladdawdd y wyllys ef?
20Eithyr a ddyn, pwy wy ti rhwn ymddadleuy yn erbyn Duw? A ddyweit y peth ffurfedic wrth hwn aei ffurfiawdd, Paam im gwnaethost val hyn?
21Anyd oes meddiant ir crochenydd ar y priddgist y wneuthur o’r vn telpyn pridd vn llestr i barch, ac arall i amparch?
22Beth a’s ewyllysei Dduw, y ddangos ei ðigofeint, ac y beri adnabot ei veðiāt, ðioðef drwy hir ymaros l’estri ’r digofeint wedy y harlwy i gifergol’?
23Ac er mwyn yðo beri‐gwybot golud ei ’ogoniant ar lestri trugaredd, yr ei a arlwyodd ef i ’ogoniant?
24Sef nyni, yr ei a ’alwodd ef, nyd o’r Iuddeon yn vnic, amyn hefyt o’r Cenetloedd,
25megis y dywait ef hefyt yn Osee, Mi, alwaf yn bopl ymy, yr ei nyd oedden yn bopul y‐my: ac yhi yn garedic, rhon nyd oedd yn garedic.
26Ac y bydd yn y lle y dywetpwyt wrthynt, Nyd ydych yn popul y mi, yno y gelwir hwy, Plant Duw byw.
27Hefyt Esaias ’sy ’n llefain am yr Israel, Cyd bei niver plant Israel mal tyvot y mor, er hyny oddiethr relyw nyd iacheir.
28Can ys ef a wna ei gyfrif, ac ei crynoa gyd a chyfiawnder: can ys yr Arglwydd a wna gyfrif cryno yn y ddaiar.
29A’ megis y dyvot Esaias yn y blaen, Any bysei y Arglwydd y lluoedd adael i ni had, in gwneuthesit ni val Sodoma, ac a’n cyffelypesit i Gomorrha.
30Beth gan hyny a ddywedwn? Can ir Cenetloedd yr ei ny ddilynesont gyfiawnder, ymgahel a chyfiawnder, ’sef y cyfiawnder ysydd o’r ffydd.
31Ac Israel rhwn a ddilynei Ddeddyf cyfiawnder, ny allawdd ’ordiwes Ddeddyf cyfiawnder.
32Paam? Can na’s ceisyent wrth ffydd, anyd megis o weithredoedd y Ddeðyf: can ys trancwyddesont wrth vaen y trancwydd.
33Megis y mae yn scrifenedic, Nycha vi y n gosot in Tsion vaen trancwydd, a’ charaic gwymp: a’ phop vn a gred ynðo, ny chywilyddir.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.