1YR Henafgwr at y caredic Gaius, yr hwn a garaf yn‐gwirionedd.
2 Y caredic, ydd wyf yn damuno yn bennaf dy vot yn llwyðo ac yn dda’r byt arnat, mal y mae dy enait yn llwyddo.
3Canys llawenhau a wneuthum yn vawr pan ddaeth dy vrodyr, a’ thestiolaethu am y gwirionedd ys ydd ynot, mal ydd wyt yn rrodio yn‐gwirionedd.
4Nyd oes can yf’ lawenydd mwy na hyn, nid amgen, clywet bot vy meibion yn rhodio yn‐gwirionedd.
5 Y caredic, ydd wyt yn gwneuthur yn ffyddlon beth bynac a wnai i’r brodyr, ac y estronieit,
6Yr ei a destiolaythen am dy gariat gerbron yr Ecclesi. Yr ei a’s hebryngy rhagddynt megis y gwedda erwydd Dyw, ys da y gwnai,
7Can ys er mwyn y Enw ef ydd aethant ymddaith, eb gymeryd dim gan y Cenedloedd.
8 Nyni a ddlyem gan hynny dderbyn y cyfryw rei, val y byddom ganhorthwyr ir gwirionedd.
9Scrivenais at yr Eccles: eithr Diotrephes yr hwn a gar vot yn vlaenor yn y plith hwy, ny dderbyn ddim o hanom.
10Erwyð paam a’s dauaf, mi venagaf ei weithredoeð y mae e yn y wneuthur, gā siarad in herbyn a gairie drigionus, ac nyd yn voddlawn y hyny ac nyd yw ef y hun yn derbyn y brodyr, eithr goharð y mae yr ei a wyllysient, a’ ei gwthio allan o’r Eccles.
11 Vy‐caredic, na ddilyn yr hyn ’sy ddrwc, anyd yr hyn ysy dda: yr hwn a wna ddayoni, o Ddyw y may: a’r hwn a wna ddrygioni, ny weloð Dduw.
12Y mae y Ddemetrius ’airda gan bawp, a’ chan y gwirionedd y hunan: a’ nineu hefyt ein vnain ym yn testiolaethu, a’ gwyddoch vot yn testiolaeth ni yn gywir.
13Y mae ymi lawer o betheu yw scrifenu: eithyr nyd a duy a’ phin yr scrivennaf atat.
14Gobeitho ydd wyf gahel dy welet ar vyrder, ac y cavvn ymddiddan eneu yn‐geneu.
15Tangneddyf yty. Y mae dy geraint ith anerch. Anerrch y cereint wrth y henwe.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.