1CLyw vy deddyf, vy-popul: gestyngwch eich clustiae at ’eiriae vy-genae.
2Agoraf vy-genae mewn dameg: datcanaf amadroddion or cynvyt.
3Yr ei y glywsam ac a wybuam, ac a venegawdd ein tadae y-ni.
4[Yr ei] ny chudiwn rac y plāt hwy, ir genedlaeth rhacllaw y datcanwn volianneu yr Arglwydd, a’ ei gedernit, a’ ei ryveddodae y wnaethoedd:
5Val’y gesodawð ef ddygymbod yn Iaco, ac y dodawdd Ddeðyf yn Israel, yr hyn a orchymynawdd ef in tadae, y’w dyscu y’w plant:
6Mal y gallei y genedlaeth ar ol gahel gwybot, ir plant a enit, gyvodi, a’i datcan y’w plant:
7Er dodi ei gobeith yn-Dew, ac nad ebrvygent weithredoedd Dew, eithr cadw ei ’orchymynnion:
8Ac nid bot val ei tadeu, yn genedlaeth gyldynus ac anuvyð: yn genedlaeth nyd vnionawdd hei chalon, ac nyd ymffyddiawdd hei yspryt a Dew.
9Plant Ephráim yn arvoc ac yn saethu a bwa, a droesont yn-dydd cad.
10Ny chatwasant ddygymbot Dew, ac yn ei Ddeddyf ny vynent rodiaw,
11A’ gellwng dros gof y weithredoeð ef, a’i ryveðodae y dangosesei ydd-wynt.
12Ef a wnaethoeð ryveddodion gerbron tadae yn-tir yr Aipht: ym-maes tSóan.
13Ef a ohanawdd y môr ac ef y trawenawd hwy: ac ef a wnaeth ir dwfr sefyll val pentwr.
14A’r dyð y tywysawdd ef wy ac wybren, ac yn hyd y nos a llewych tân.
15Ef a holltawdd y craicieu yn y diffeith, ac a roes yddwynt ddiot o ddyfndereu dirvawr.
16Ef a dduc hefyt lifddyfredd allan o’r graic, val-y gwnaeth ef i’r dyfredd ddescen mal avonedd.
17Er hyny wy bechent rhac llaw yn ei erbyn, gan annoc y Goruchaf yn y dyffeith,
18A’ themtiesant Ddew yn ei colonae: gan erchy bwyt wrth ei puchet.
19Llavarent hefyt yn erbyn Dew, gan ddywedyt, All Dew arlwy bord yn y dyffeithwch?
20 Nachaf, ef a drawodd y graic, val y pistilliawdd y dyfred, ac y ffrydiawdd yr avonydd: a all ef roddy bara-hefeid ddarpar cic y ’w bopul?
21Yno y clybu yr Arglwydd ac y dygiawð, a’r tan y gynnewyt yn Iaco, ac yr escennawð digoveint ar Israel:
22Can na chredasant wy yn-Dew: ac nad amðiriedesont yn ei gymporth.
23Er hyny ef ’orchmynesei yr wybrae o ðuchot, ac agoresei ddrysae, y nefoedd,
24A’ glawiesei ef man arnynt y vwyta, ac a roddesei yddwynt y gwenith o’r nefoedd.
25Bara’r Angelion a vwytaodd dyn: anvonawdd yddwynt vwyt ddigon.
26Ef a wnaeth ir Dwyreinwynt vyned yn y nefoedd, a’ thrwy ei nerth y duc ef y Deeuwynt.
27A’ glawiodd ef gic arnynt mal llwch, ac ehediait adainioc mal tyvot moroedd.
28Ac gwnaeth y syrthio yn-cenol eu pepylleu, yn amgylch-ogylch ei cyvaneddeu.
29Yno y bwytesant ac y diwallwyt yn ddigonol, can ys rhoes yddwynt ei dysyfiat.
30Ny throesont y wrth ei deisyf, eto y bwyt yn ei genae,
31Pan escennoð diglloneð Dew arnynt, a lladd yr ei cryfaf o hanwynt, ac a drabayddodd etholedigion Israel.
32Er hyn ol’ y pechint yn wastat ac ny chredēt ei ryfeðodeu.
33Am hyny y treuliawð ef y dyðiae hwy yn-gwageð, a’ ei blyddynedd yn echryn.
34Pan oeð ef yn y llað hwy y ceisient ef, ac yr ymchwelent, ac y geisiesont Ddew yn voreu.
35 Ac y gofiesont mae Dew ei nerth, a’r Dew goruchaf ei prynwr.
36Ethr ymtewyð a wnaent ac ef ai geneu, a ffuantu wrthaw ai tavot.
37Can nad oeð ei calon yn vnion] gyd ac ef, ac nid oeddent ffydlon yn ei ddygymbot.
38Er hyny efe mor drugarawc y vaddeuawdd camweddae, ac ny’s dinistrawdd, a’ llawer gwaith y trodd heibio ei soriant ac ny chyvodawd ei oll ddigoveint.
39Canys ef a gofiawdd mae cnawt oeðynt: gwynt yn mynet ac eb ymchwelyt.
40Pa sawl gwaith y digiesont ef yn y ddiffeith? y tristesont ef yn yr anialwch?
41A’ hwy ymchoelesant ac a temptesont Ddew, ac Sanct Israel a dervynent.
42Ny chofient ei law dydd y gwaredawdd ef hwy rac y gelyn:
43[Na hwn] y osodawdd ei arwyddion yn yr Aipht, aei ryveddodae ym-maes tSoan:
44Ac ef a droes y avonydd hwy yn waet, ai llifddyfredd val na allent yfed.
45E ddanvonawð pop ryw adnoc yn ei plith, yr ei eu hysawdd, a’ llyffaint yr ei divethent.
46E roes hefyt y ffrwythae hwy ir lindys, a ei llafur i’r ceilioc-rhedyn.
47 Lladdodd ef ei gwinwyð a chenllysc, a’ei gwyllt fficuswydd a’chessair.
48Ef a roes hefyt y h’yscryblieit i’r cenllysc, a’ei perchenogeth i’r lluchet.
49Anvonawdd arnynt gynddareð ei lit, irlonedd a’bar, ac ing gan ddanvon Angelion anvat.
50Ef a wnaeth ffordd y’w ddigoveint: nyd arbedawdd ef ei henaid rac angae, rhoi ei bywyt ir cornwyt:
51Ac e drawodd bop cynenit yn yr Aipht, dechreuait y nerth hwy yn lluestai Cham.
52Ac e wnaeth y’w bopul ymddaith mal deveit, ac h’arwenawdd yn y diffaith val gyr.
53Ys ef y duc hwy allan yn ddiogel, ac nyd ofnesont, a’r mor a guddiawdd ei gelynion.
54Ac e a ddaeth a hwy y gyffinydd ei Gyssecr: ir mynyth hwn, a orescennawdd ei ddeeulaw.
55Ef a vwriawdd hefyd y cenedloedd allan yn y gwydd hwy ac a wnaeth y ddynt syrthio yn rhann etifeddiaeth, ac a barawdd y lwytheu Israel drigio yn y pepyll hwy.
56Er hynny wy temtiesont ac a ddigiesont y goruchaf Ddew, a’ ei destiolaetheu ny-chatwesant:
57Eithr ymchwelyt, a’ gwneuthur ar gam val eu tadeu: ymdroi val bwa twyllodrus.
58A’ digiesant ef a’ ei gwyðvaeu, ac y cyffroesōt ef y lidio a’ ei delwae-cerviedic.
59Clybu Dew ac e ðigiawð, ac a e dremygawdd yn ddirvawr Israel:
60Val y gadawdd ef breswyl Shilo, y babell preswiliawdd ef ym-plith dynion,
61Ac e roddes ei veddiant yn-caethiwet, a ei brydverthwch yn llaw ’r gelyn.
62Ac e roddes ei bopul ir cleddyf, ac a lidiawdd wrth ei etiveddiaeth.
63Y dewis-wyr hwy a ysawdd y tân, a’i gweryfon ny volwyt.
64Ei hOffeiriait y gwympodd gan y cleðyf, a’i gwrageð-gweddwon nyd wylesont.
65A’r Arglwydd a ddeffroes val vn o guscu, mal gwr-cadr gwedy gwin yn bloeddio,
66Ac e drawodd ei ’elynion ar y tu ol, ac eu rhoðes yn-gwradwydd tragyvythawl.
67Ac ef a wrthodes luest’ Ioseph, a’llwyth Ephraim ny’ ddetholawdd.
68 Ac ef a ddetholes lwyth Iudáh, mynyth Tsijon yr hwn a garawdd.
69Ac ef y adeilawdd ei Gyssecr mal vchel, mal y ddaiar, rhon y sailiawdd ef yn tragyvyth.
70E ddetholes hefyd Ddauid ei was, ac ei cymerth o’r corlanae deueit.
71Ys o ol y cyfebron y daeth ac ef y borthi ei bopul yn Iaco, a’i etiueddiaeth yn Israel.
72Ac ef y porthei wy yn ol gwiriondep ei galon, ac eu ’harwenawdd wrth ddyall ei ddwyllaw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.