1. Corinthieit 11 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. xj.Mae ef yn ceryddu y cammarverae a ymlithresynt y Eccles hwy. Megis ynghylch gweddiaw, propwyto, A ’gwasanaethu Swper yr Arglwydd, Gan eu hedvryd yw ’osodiat cyntaf.

1BYddwch ddilynwyr i mi, vegis ae ydd wyvi i Christ.

2Yr owrhon, vrodur, ich canmolaf, can ywch coffau vy oll betheu, a’ chadw ’r ordenhadeu, val y rhoesym y’wch.

3A mi a wyllyswn ywch wybot, mae Christ yw pen pop gwr: a’r gwr yw pen y wreic: a’ Duw yw pen Christ.

4Pop gwr yn gweddiaw, neu yn propwytaw ac a’ dim am ei ben, a amparcha ei ben.

5Eithyr pop gwreic a weddia neu a bropwyta yn bennoeth, amparcha hi phen: can ys yr vnryw beth yw hyny a’ phe bei wedy eilliaw.

6Can hyny any bydd y wreic a dim am hei phen cneifier hi hefyt: a’s gwradwyðus i wraic hi chneifio neu h’eillio, rhoed beth am hi phen.

7Can ys gwr ny ddyly wisco am i ben: can y vot ef yn ddelw ac yn ’ogoniant Duw: a’r wreic yw gogoniāt y gwr.

8Can nad yw ’r gwr o’r wreic, amyn y wreic o’r gwr.

9Can na chreawyt y gwr er mwyn y wraic, anyd y wreic er mwyn y gwr.

10Am hyny y dylei y wreic vod yddei veddiant ar y phen, o bleit yr Angelion.

11Er hyny, ac nyd yw ’r gwr eb y wreic, na’r wreic eb y gwr yn yr Arglwydd.

12Can ys megis y mae’r wreic o’r gwr, velly y mae’r gwr hefyt trwy’r wreic: a’ phop dim ’sy o Dduw.

13Bernwch ynoch ych vnain, ai hardd yw y wreic weddiaw Duw eb ðim am i phen?

14Anyd yw yntef anian y dyscu ywch, a’s bydd briger i wr, mae mae anglod yw iðo?

15Ac a’s byð briger i wreic, clod yw yðei: can ys ei briger a roed yddei tu ac wisc pen.

16A’d oes nep a vyn vot yn ymrysongar, nyd oes genym ni gyfryw gynnevot na chan ecclesi Duw.

Yr Epistol ddydd Iou cyn die Pasc

17Weithian yn hyn a venagaf, ny ’ch canmolaf, sef ych bot yn ymgynull, nyd er lles, anyd ir afles.

18Can ys yn gynta dim, pan ymgynulloch ir Eccles, mi a glywaf vot ymrysoneu yn eich plith: ac ydd wyf yn credu y vot yn vvir o ran.

19Can ys dir yw bot travvs‐opinionae yn eich plith, megis y bo yn eglur yr ei ’sy yn berffeith yn eich plith.

20Am hyny pan ddeloch ynghyt ir vn lle, nyd hynn yw bwyta Swper yr Arglwyð.

21Can ys pop vn wrth vwyta, a gymer y swper y hun o’r blaen, ac vn ’sy a newyn arno, ac arall ’sy veðw.

22Anyd oes ychwi dai i vwyta ac y yvet ynthynt? a dremygwch‐vvi Eccles Dew, ac a warthew‐chwi ’r ei nyd oes dim ganthwynt? pa beth a ddywedaf wrthych? a ganmolaf chwi yn hyn? na chanmolaf.

23Can ys derbyniais y gan yr Arglwydd yr hyn ac a roddais y chwi, nid amgen, Bot ir Arglwydd Iesu y nos‐hon y bradychwyt ef, gymeryt bara.

24A’ gwedy yddo ddiolovvch, ef au tores, ac a ddyvot, Cymerwch, bwytewch: hwn yw vy‐corph, yr hwn a dorir drosoch: gwnewch hyn er coffa am danaf.

25Yr vn modd hefyt y cymerth ef y phiol, gwedy yddaw swpery, gan ddywedyt, Y phiol hon yw ’r Testament newydd yn vy‐gwaet: gwnewch hyn cynniuer‐gwaith‐bynac yr yfoch, er coffa am danaf.

26Can ys cynniuer gwaith bynac y bwytaoch y bara hwn, ac yr yfoch y phiol hon, y dangoswch angeu yr Arglwydd y ’n y ðelo.

27Can hyny, pwybynac a vwytao ’r bara hwn, ac a yfo y phiol yn anteilwng, a vydd ’auawc am ddirmygu corph a’ gwaed yr Arglwyð.

28Am hyny provet pop dyn yhun, ac velly bwytaet o’r bara hwn, ac yfet o’r phiol hon.

29Can ys hwn a vwyta o ac a yfo yn anteilwng, a vwyty ac a yf y varnedigaeth y hun, can nad yw yn iawn‐varnu am gorph yr Arglwydd.

30O bleit hyn y mae llawer yn weinion, ac yn gleifion yn eich plith, a’ llawer yn hunaw.

31Can ys pe in barnem einhunain, ny ein bernit ni ddim.

32Eithr pan in barnir, in cospir y gan yr Arglwyð, rac ein barnu‐yn‐euawc gyd a’r byt.

33Can hyny, vy‐brodur, pan ddeloch ynghyt i vwyta, aroswch eu gylydd.

34Ac a’s bydd newyn ar neb, bwytaet gratref, rac eich dyvot yn‐cyt i varnedigeth. Tu ac at am petheu eraill, mi au trefnaf pan ddelwyf.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help