2. Corinthieit 2 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen ij.Dangos ei gariat yddynt y mae ef. Gan erchi hefyd arnynt vot yn esmwyth wrth y godinabwr‐cyfathrach, can iðaw edivarhau. Mae ef hefyt yn ymhoffy yn‐Duw dros nerthowgrwydd ei ðysceidaeth, Can orchvygu dadl y cyfryw‐gwerylwyr, ac wrth ymescus dadleu yny erbyn ef, nyd oeddent yn ceisio dim amgen, na dywreiddiaw y athroaeth ef.

1EIthr mi tervynais hyn yno y hunan, na ddelwn atoch drachefn yn‐tristit.

2O bleit a’s mi ach tristaa chwi, pwy yw’r hwn am llawenha vi, dyeithyr hwn a dristawyt y can y vi?

3A’ mi a scrivenais hyn yma atoch, rac pan ddelwn, cael o hanof tristit gan yr ei, y dylywn ymlawenhau: mae vy‐gobaith ynoch oll, vot vy llawenydd i yn llavvenydd y’wch ’oll.

4Can ys yn‐gorthrymder mawr, a’ chyfingder calon ydd yscrivenais atoch gan ddaigrae lawer: nyd val ych tristaid chwi, eithr val y gwybyddech y cariat ys y genyf, yn enwedic y chwi.

5Ac a gwnaeth nebun dristau, ny wnaeth ef i mi dristau, anyd o ran (rac i mi bwyso arnavv) y chwi oll.

6Digon yvv ir cyfryw vn bod ei geryddu gan lawer.

7Megis yn hytrach yn‐gwrthwynep y dylyechwi vaddau yddavv, a’ ei ðiddanu rac y llyncit y cyfryw vn y gan ’ormodd tristit.

8Erwydd paam, yr atolygaf ’ywch, gadarnhau eich cariat arno.

9Can ys er mwyn hyn hefyt ydd yscrivenais, val y gwybyddwn braw o hanoch, ’sef a vyddech vvyddion i bop peth.

10Yr hwn y maddeuoch ddim yddaw, y maddeuaf vinheu hefyt: can ys yn wir a’s maddeuais i ddim, ir hwn y maddeuais, er eich mwyn chwi y maddeuais, yn‐golwc Christ,

11rac bod y Satan ein gorchvygu: can nad anwybot genym y amcanion ef.

12Yno, pan ddaethym i Troas er precethu euangel Christ, ac bot agori drws y‐my ’gan yr Arglwydd,

13ny chawn lonydd yn vy yspryt, can na vedrwn gael Titus vy‐brawt, anyd canu yn iach yddynt awnaethym, a’ myned ymaith i Macedonia.

14Anyd y Dduw y ddyolvvch, yr hwn yn wastat a wna yni ’orvot yn‐Christ, ac a eglurha arogle y wybodaeth ef trwyddom ni ym‐pop lle.

15Cā ys ydd ym ni y Dduw yn ber arwynt Christ, yn yr ei ’n a iachëir, ac yn yr ein a gyfergollir.

16Ir ei hyn ydd ym yn arogl angeu, i angeu, ac ir llaill yn arogl bywyt, i vywyt, a’ phwy ’sy ddigonol i’r petheu hyn.

17Can nad ym ni val y mae llawer, yn masnachu gair Duw: eithr val o burdap, eithr val o Dduw yn‐gwydd Duw, ydd ym ni yn ymadrodd yn‐Christ.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help