1IR henaduriaid sy yn ych plith, yr ytolygaf finau sy hevyd henadur a thyst dyoddefiadeu Christ, a chyfrannawc hevyd or gogoniant a eglurir rrac llaw.
2Porthwch ddiadell Ddyw, sy tan ych llaw, ac ymgeleddwch hwynt nid trwy gymell, eithr yn wyllyscar: nid ir chwant budr elw, namyn o barodrwydd meðwl:
3Nid fal rrai a fynnon vod yn arglwyði ar tretad Dyvv, eithr fal y galloch fod yn siampl ir ddiadell.
4A’ phan ir ymddangoso y pen bigael, cael a wnewch goron ddilwgr y gogoniant.
Yr Epistol y iij. Sul gwedy Trintot.
5Yr vn ffunyt yr ifainc, byddwch ostyngedic ir henafiaid, a chydymostyngwch bawb yw gilidd: ac ymdrwsiwch o ddifewn ac vfuddtra meddwl: can ys Dyw a wrthladd y beilchion ac a ðyry gras ir ei vfudd.
6Ymostyngwch achos hyn tann al’uoc law Dyw, mal y gallo ych dyrchafu pan ddel amser,
7Cwbl och gofal bwriwch arno ef: can ys ef ’sy yn gofalu trosochvvi.
8Byddwch sobr a’ gwiliwch, can ys ych gwrthnebwr diawl megis llew rruadus sy yn rrodio o ddamgylch, yn ceisio neb a allo y lyncu:
9Rrwn gordrechwch ef yn gadarn yn y ffydd, dann wybo vod yn cyflowni yr vnrryw anayle yn ych brodyr sy yn y byd.
10A Dyw avvdur pob gras, rrwn an galwodd ni yw tragwyðol ’ogoniant trwy Christ Iesu, wedy darffo ywch oddeu ychydic, ach gwnel yn perffaith, ach cadarnhao, ach cryfhao, ac ach sicerhao.
11Iðo efe y bo gogoniant ar emerodraeth yn oes oesawdd, Amen.
12Cyd a Sylvanus brawd ffyddlon ywch, im tyb i, y ddysc crifenais ar ychydic, dan ych cynghori, a thystlauthu mayr gwir ras Dyw ydiw hwn, y ddych yn sevyll yntho,
13Mae yr eglwys sy yn Babylon cydetholedi a chwi, yn erchi ych annerch, a’ Marcus fy mab i.
14Anherchwch bawb y gilidd a chusan cariad. Tengnhefeð ywch oll achlan sawl ydych yn Christ Iesu. Amen.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.