1BEth wrth hynny a ddywedwn? a drigwn ni yn wastad mevvn pechot er amylhau rhat?
2Na ato Duw. Pa wedd y byð ir ei ydym yn veirw i bechot, vyw eto ynddo?
3Any wyddoch, am danom ni oll y sawl a vetyddiwyt ir Iesu Christ, ddarvot ein betyddio ni yn y angen ef?
4In claddwyt ni gan hyny y gyd ac ef trwy vetydd yn y angeu ef, val megis ac y cyfodwyt Christ o veirw gan ’ogoniant y tat, velly bot i ni hefyt rodio yn newydd vvch buchedd.
5Can ys a’s in cydhimpiwyt ni ac ef i gyffelypiaeth y angeu ef, ac velly y byddwn ni i gyffelypieth y gyfodiat ef,
6can wybot hyn, ddarvot crogy ein hen ddyn ni gyd ac ef, er mvvyn dirymio corph pechot, megis rac llaw na wasanaethom bechot.
7Can ys hwn a vu varw, a ryddhawyt y wrth pechot.
8Can hyny a’s meirw ni gyd a Christ, credu ydd ym y byddwn vyw hefyt gyd ac ef,
9gan wybot am Christ gwedy ei gyfodi o veirw, na bydd marw mwyach: ac nad arglwyddia angeu arno mwyach,
10Can ys o ei varw, e vu varw vnwaith y bechot: ac o ei vyw, byw y mae i Dduw.
11Velly dyellwch chwithe hefyt, ych meirw chwi y bechot, a’ch bot yn vyw y Dduw yn‐Christ Iesu ein Arglwydd.
12Na theyrnaset gan hyny pechot yn eich corph marwol, er ychvvy vvyddhau yddaw yn chwantae y corph.
13Ac na rowch eich aelodae yn arveu anwiredd i bechot: eithyr rhowch eich humain y Dduw, megis rei o veirw yn vyw, a ’rhovvch eich aylodae yn arvae gwiredd i Dduw.
14Can ys nyd arglwyddiaetha pechot arnoch: can nad ych y dan y Ddeddyf, anyd y dan ’rat.
15Beth am hyny? a bechwn ni, am nad ym y dan y Ddeddyf, amyn dan rat? Na ato Duw.
16Any wyðoch, mae i bwy bynac yr ymroddwch ychunain yn weision y vvyddhau, eich bot yn weision ir hwn yr vvyddhaoch y‐ddaw, ai yn vveison y bechot ir angeu, ai yn vveison vvyðdot i wiredd?
17And y Dduw y ddiolvvch, can eich bot chvvi gynt yn weision pechot, eithyr vvyddhau o hanoch o’ch calon ir ffurf ar ddysc, ir hwn ich athrawyt yndo.
18Can ych rhyddhau chvvi ywrth pechawt, ich gwnaethpwyt yn weision gwiredd.
Yr Epistol y. vij gwedy Trintat.
19A’r ðull‐dynol yr wyf yn ymadrodd, o bleit gwendit eich cnawt chvvi: can ys megis y rhoesoch eich aylodae yn weision aflendit ac anwiredd y vvneuthur enwiredd, velly yr awrhon rhowch eich aylodeu yn weision i wiredd mewn sancteiddrwydd.
20Can ys pan oeddech yn weision pechawt, yr oeddech yn rhyddion ywrth wiredd.
21Pa ffrwyth oedd y chwi y pryd hyny yn y cyfryw betheu, ac y cywilyddiwch yr awrhon? Can ys dywedd y petheu hynny yw angeu.
22Ac yr owrhon gwedy ych rhyddhau y wrth pechawt, ac wedy eich gwneuthur yn weision y Dduw, y mae y chwi eich ffrwyth yn sancteiddrwydd, a’r dywedd yn vywyt dragyvythawl.
23Can ys cyfloc pechot yw angeu: eithyr dawn Duw yw bywyt tragyuythawl trwy Christ Iesu ein Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.