1YS da yw clodvori yr Arglwyð, a chanu ith Enw, y Goruchaf.
2 Menegy dy drugaredd y boreu, a’th wirionedd y nosieu,
3Ar y dectant, ac ar y nabel, ar y mevyrdot ar y delyn.
4Can ys Arglwydd am llawenéist ath weithrede, yn-gwaithieu dy ddwylaw y byddaf hyfryd.
5Arglwydd, mor vawredic yw dy weithredoedd? gorddwfn yw dy veddyliae.
6Y gwr andoeth ny wyr hyn, a’r ynvyd ny ddeall hyn yma,
7(Pan vlodeuo yr andewolion val y glaswellt, a’ phan vlaguro oll gweithredwyr enwiredd) val y destruwier hwy byth bythol.
8A’ thithau Arglwydd, wyt ’oruchaf yn tragywyth.
9Can ys nacha dy elynion, Arglwyð: can ys nacha, dy elynion y gollir: oll weithredwyr euwiredd a ddestruwir.
10A’m corn a dderchefi val vnicorn, mi enneinir ac oleo irwyrdd.
11Vy llygat hefyd a wyl [vy gwynfyd] am vy-gelynion, am clust y glyw ar y drygddynion, a godant yn v’erbyn.
12Y cyfiawn a vlodeua val palmwydden, ac y gynnyð val y Cedriwydd yn Lebanón.
13Y sawl y blanwyt yn-tuy yr Arglwydd, y vlodeuant yn neuddae ein Dew.
14Dygant eto ffrwyth yn heneint: tirfion ac iraidd vyddant.
15Er manegi bot yr Arglwydd vy-craic yn vnion, ac nad ynthaw enwiredd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.