2. Corinthieit 4 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. iiij.Mae ef yn datcan ei ddiyscaelusrwydd ai dalgrynrwydd yn ei swydd. A’r hyn oedd ei ’elynion yn ei gymryd yn ðielw iddo, sef, y

groc a’r travaelion yr ei y mae ef ei goðef, a droes ynteu yn ’elw mawr yddaw. Can ddangos pa vudd a ddaw o hyny.Yr Epistol ar ddydd S. Matheu.

1AM hyny, can vot i ni y gweinidogeth hynn, megis y cawsam drugaredd, nyd ym ni yn llaesu:

2eithr ymwrthot a wnaetham a gorchuddiau coegedd, ac nyd rhodiaw ydd ym yn hoccedus, ac nyd ym yn camdraethu gair Duw: eithr can eglurhau y gwirionedd ydd ym yn ymbrifio wrth cydwybot pop dyn yn‐golwc Duw.

3Ac ad yw ein Euangel yn guddiedic, ir ei a gyfergollwyt, y mae hi yn guddiedic.

4Ym‐pa ’rei Duw y byt hwn a ddallawdd y meddyliae, ’sef ir anffyddlonion, rac towynnu yddynt llewyrch y gogoneddus Euangel Christ, rhwn yw delw Dduw.

5Can nad ym yn ymprecethu ein hunain, anyd Christ Iesu yr Arglwydd, a’ ninheu yn weision ywch er mwyn Iesu.

6Can ys Duw’rhwn a ’orchymynnawð ir golauni lewyrchu allan o dywyllwch yvv ef yr hwn a lewyrchawdd yn ein calonae, y roddi golauni’r gwybodaeth y gogoniant Duw yn wynep Iesu Christ.

7Eithr y tresawr hwn ’sy genym mewn llestri pridd, val y byddei arðerchowgrwyð y meðiant hwnw o Duw, ac nyd o hanō ni.

8Yð ys in gorthrymu o bop parth, er hyny nyd ym mewn cyfyngder: ydd ym mewn cyfing gyngor, er hyny nyd ym yn ðigyngor.

9Ydd ys yn ein ymlid, and ny’n gedir eb navvdd: ydd ym wedy ein tavlu y lawr, eithr ny’n collir.

10Ym pop lle ydd ym yn arwedd o y amgylch yn ein corph varwoleth yr Arglwyð Iesu, val yr eglurer hefyt vywyt Iesu yn ein corphe.

11Can ys ny ni ’rei sydd yn vyw, a roðir yn wastat y angeu er mwyn Iesu, val yr eglurhaer hefyt vywyt Iesu yn ein marwol gnawd.

12Ac velly angeu a weithia ynam ni, a’ bywyt yno‐chwi.

13A chan vot i ni yr vn Yspryt ffyð, erwydd y mae yn scrifenedic, Credais, ac am hyny y llavarais, ac ydd ym ninheu yn credu, ac am hynny y llavarwn,

14can wybot y bydd y hwn a gyfododd yr Arglwydd Iesu, eyn cyfodi ninheu hefyt trwy Iesu, ac a’n gosyd ni y gyd a chwi.

15Cā ys pop peth oll ys yd er eich mwyn chwi val yr amylhao yr helaethaf rat gan ddiolchiat llaweroedd er gogoniat y Dduw.

16Am hyny nyd ym ni yn ymellwng, eithyr cyd llygrer ein dyn o ddyallan, er hyny y dyn o ddymewn a adnewyðir beunydd.

17O bleit yscavnder ein gorthrymder rhwn ny phara ddim hayachen, a bair y ni dra arðerchawc a’ thragyvythawl bwys o ogoniant,

18pryd nad edrychom ar y petheu hyn a welir, anyd ar y petheu, ny welir ddim hanynt: can ys y petheu a welir, ’sy dros amser: a’r petheu ny welir, ’sy tragyvythawl.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help