1AC mi weleis Angel yn discin or nef, a’ chanto agoriad y pwll heb waylod, a’ chadwyn vawr yny law.
2Ac ef y ddalioedd y ddreic yr hen sarff hono, yr hwn ydiw’r cythrel a Satan, ac y rrwymoeð ef dros vil o vlynyddoedd,
3Ac y bwrioedd ef yr pwll heb waylod, ac y goarchaeoð ef ac y seloedd y drvvs arno, megis na alley siomi ’r bobl mwyach, nes cyflewni ’r mil o vlynyddey: can ys yn ol hyny rreid yw y ollwng ef dros ychydic o amser.
4Ac mi weleis eisteddleoedd: ac hwy eisteddasant arnynt, a’ barn y rroed yddynt hwy, ac mi vvelais eneidiey y rrei y dorrwyd y peney am dystolaeth Iesu, ac am eir Dyw, a’r rrei nyd addolasant yr enifel, nae y ddelw, ac ny chymersont y nod ef ar y talceney, ney ar y dwylaw: ac hwy vyont vyw, ac y deirnasasant gyd a Christ mil o vlunyddey.
5Ond y gweddil or gwyr meirw ny vyont vyw eilweith, nes diweddy y mil vlynyðey: hwn ydiwr cyfodiadigeth cyntaf o’r meirvv.
6Bendigedic a sancteidd ywr vn ysydd a rran yddo yny cyfodiadigeth cyntaf: can ys nyd oes gan yr eil myrfolaeth veddiant ar y cyfryvv rei: ond hwy vyðant yn offeirieyd Dyw a’ Christ, ac y deirnasant gydac ef mil o vlynyddey.
7A’gwedy darfod y mil blynyddey, Satan y ellingyr allan oe garchar,
8Ac ef eiff allan y dwyllaw’r bobl, yrrein ydynt ymhedwar ban y ddayar: nid amgen Gog a’ Magog, y gascly hwynt ynghyd y rryfel, rrif y rrein ’sydd mal tyuod y mor
9Ac hwy ddrychafasant y wastad y ddayar, yr rein ymgylchynesont pebyll y Saint, a’r dinas caredic: eithyr tan y ddiscynoedd oddiwrth Ddyw o’r nef, ac y llyncoedd hwynt.
10 A’r cythrel yr vn y twylloeð hwynt, y vwrwd y bwll o dan a’ brymstan lle poenir yr enifel, ar proffwyd ffalst dydd a nos yn dragowydd.
11Ac mi weleis eisteddle mawr gwyn, ac vn yn eistedd arno, oddiwrth olwc yr hwn y ffoedd y ðayar a’r nef, ac ny chafad oe lle hwy mwyach.
12Ac mi weleis y meirw, mawrion a’ bychein yn sefyll gair bron Dyw: a’r llyfre agorwyd, a’ llyfr arall agorwyd, yr hwn ydiw llyfr y bowyd, a’r meirw y varnwyd wrth y pethey oeddent yn yscrivenedic yn y llyfre, yn ol y gweithredoed hvvynt.
13A’r mor y vwroedd y vynydd y meirw oeddent yndi, a myrfolaeth ac yffern y rroisont y vynydd y meirw oeddent yndynt hwy: a’ barny wneythpwyd ar bawb yn ol y gweithredoedd.
14 A’ myrfolaeth ac yffern y bwriwd y bwll tan: hwn ydiwr eil myrfolaeth
15A phwy bynac ny chafad yn escryfenedic mewn Llyfr y bowydy y bwll y tan.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.