Ruueinieit 10 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. x.Gwedy iddo venegi ei serch arnuyn, Y mae ef yn dangos achos cwymp yr Iuddeon. Dywedd y Ddeddyf. Y gohan rhwng cyfiawnder y Ddeddyf a’ ffydd. O ba han y daw ffydd, ac y bwy i perthyn. Gwrthddodedigeth yr Iuddeon, a galwedigeth y Cenetloedd.

1Y Brodur, y mae gwir wyllys vy‐calō a’m gweði a’r Dduw dros yr Israelieit, er iechyt.

2Cā ys testiaf am danwynt, vot gāthynt gariat ar Dduw, eithr nyd yn ol gwybodaeth.

3Can ys hwy, yn anwybot cyfiawnder Duw, ac yn ceisio gosot ei cyfiawnder y hunain, nyd ymostyngesant y gyfiawnder Duw.

4Canys Christ yw dyweð y Ddeðyf er cyfiawnder i bop vn a gred.

5Canys Moysē a ddospartha y cyfiawnder ysydd o’r Ddeðyf, val hyn Y dyn a wna y petheu hyn, a vydd byw wrthynt.

6Eithyr y cyfiawnder ys ydd o’r ffydd, a ddywait vellyn, Na ddywait yn dy galon, Pwy a escend ir nef (ys ef yw hyny dwyn Christ odduchod)

7nei pwy a ddescend ir dwfnder? (sef yw hyny dyvot a Christ drachefn ywrth y meirw)

8Anyd pa dywait Y mae’r gair yn agos atat, sef yn dy eneu, ac yn dy galon. Hwn yw gair y ffydd yr hwn ydd ym ni yn y bregethur.

Yr Epistol ar ddydd S. Andreas.

9 Nyd amgen a’s cyffessu ath eneu yr Arglwydd Iesu, a’ chredu yn dy galon, vod y Dduw y gyfodi ef o veirw, iach vyddy.

10Can ys a’r galon y credir er cyfiawnder, ac a’r geneu y cyffessir er iechydvvrieth.

11O bleit yr Scrythur a ddywait, Pwy pynac a gred ynðo ef, ny chywilyddir.

12Can nad oes’ohanieth rhwng yr Iuddew a’r Groecwr: o bleit yr hwn ’sy Arglwydd ar bawp, ’sy ’oludawc i bawp, a’r a alwant arnaw ef.

13Can ys pwy pynac a ailw ar Enw yr Arglwydd, iachedic vydd.

14And pavodd y galwant ar yr hwn, ny chredasant ynddaw? a’ pha vodd y credant yn yr hwn, ny chlywsant ywrthaw? a’ pha vodd y clywant eb precethwr?

15a’ pha vodd y precethant, oddieithyr eu danvon? megis y mae yn escrivenedic, Mor brydverth yw traed yr ei sy yn evangelu tangneddyf, ac yn euangelu petheu dayonus?

16Eithyr nyd uvyðesont vvy oll ir Euangel: Canys‐dywait Esaias, Arglwyðd, pwy a gredawdd i’n ymadrodd ni?

17Can hynny ffydd ’sy wrth glywet, a’ chlywet gan ’air Duw.

18Eithr gofyn ydd wyf, Any chlywsant vvy? Diau vynet o y son hwy dros yr oll ddaiar, a’ ei gairiae yd ffiniae y byt.

19Eithyr gofyn yr wyf, Anyd adnabu Israel Dduvv? Yn gyntaf y dywait Moysen, Mi baraf yw’ch wynfydu gan genetl nyd yvv genetl i mi, a’ chan genetl ampwyllic i’ch digiaf.

20Ac Esaias ’sy yn llyfasu, ac yn dywedyt, Im caffad y gan yr ei ni’m ceisynt, ac i’m gwnethpwyt yn eglur ir ei nyd ymovynnent am danaf.

21Ac wrth yr Israel y dywait, Yn hyd y dydd yr estendais vy‐dwylo at popul anvvydd, ac yn gwrthddywedyt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help