1IAco gwasanaethwr Dyw, ar Arglwydd Iesu Christ, at y deuddec‐llwyth gwascaredic, anerch.
2Cymerwch yn lle dirfawr lewenyð fymrodyr, pan ddigwyddoch mewn amryw profedigaythay,
3Can wybod y pair profedigaeth ych ffyð chwi ymynedd.
4Eithr ymynedd caffed y berffaith waith, mal y galloch fod yn berffaith ac yn gyfan, heb ddim diffig.
5O bydd ar neb aysie doythineb, arched can Ddyw, sy yn rroi yn haylionus i bawb, ac nis gorafun y neb, ac ef ay rroir iddo.
6Eithyr arched mewn ffydd, heb ammay dim: can ys y neb a amheuo, cyffelib yw i tonn or mor a chwelir ac a deflir can y gwynt.
7Ac na fyddylied y dyn hwnw i cayff ddim can yr Arglwydd.
8Gwr dauddyblyg feddwl, anwadal yw yngwbyl oy ffyrdd.
9Y brawd a vo o radd gorisel, llawenyched yn ei oruchafiaeth:
10Ac elchwyl y neb a vo cywaithog, yn eu ostyngedigaeth: can ys megis blodeuyn y llysiewyn, y diflanna.
11O blegid mal pan gyvottor haul yn y gwres, yna y gwywa’r llysiewyn, ac i cwympa i vlodeuyn, ac a gyll tegwch eu bryd ef: ac velly y difladna’r cywaithog ynghwbyl oy ffyrdd.
12Happus ywr gwr, a ymoddef profedigaeth: canys pan vo prawedig, i cayff coron y bowyd, ron a addawodd yr Arglwyddir rrai ay caro ef.
13Na ddoydet neb pan profer ef, y brofi can Ddyw: can ys ni ellir profi Dyw a drwg, ac nid yw ef yn profi neb.
14Eithr pob ryw vn a brofir, pan y tynner, gan e drachwant yhun, ac y llithir.
15Ac o ddyna gwedi i trachwant gydynnyll, braguro pechod a wna: eithr pechod pan o’rphenner a ddirollwng varvolaeth.
16Na chifeiliornwch fymrodyr caredigawl.
Yr Epistol y iiij. Sul gwedy Pasc.
17Pob roddiat dayonus, a phob rroð berffaith, o ddifynydd y may, ac a ddiscin o iwrth tad y goleuaday, gidar hwn ni does trasymedigaeth, na chyscodiad troedigaeth.
18Oi wir wollys ir enillawdd ef ni trwy air y gwirionedd, mal i gallem vod megis blaenffrwyth y creauduriaid ef.
19O achos hyn fymrodyr caredigion, bid pob dyn ebrwydd y wrandaw, diog i ddoyded, a’ diog i ddigofaint.
20Can ys digofaint gwr, ni chyflowna gyfiownder Dyw.
21Am hynny rrowch heibio pob budreddi, a phob rrysseð malais, a’ thrwy vfuddtra derbyniwch yr impiedic air, rrwn a ðichin iachau ych eneidiau.
Yr Epistol y v. Sul gwedy y Pasc
22A byddwch wneuthyrwyr y gair, ac nid yn vnic gwrandawyr, yn ych twyllaw ych hunain.
23Can ys o gwrendy neb y gair, ac heb y wneuthyr, tebig yw hwnw i wr, a fai yn synnio eu bryd genedigawl mewn drych.
24Can ys y synnio eu hun a wnaeth, a myned ymaith, ac yn y man ebrefugu pa sut ytoedd.
25Eithr y neb a edrycho ar honn sy perffaith cyfraith rrydit, ac a erys ynthei, can nad ydiw ef wrādawr gwallgovus, eithr gweithredwr y weithred, happus fydd yn eu waithred.
26O chymer neb yn ych mysc chwi arno y vod yn grefyddawl, ac nid attalio eu davod, eithyr twyllaw eu galou eu hun, crevydd hwnvv ys ouer yvv.
27Crevydd pur a’ difrycheulyd gar bron Dyw, ar tad, yw hynn, ymweled ar ymddifaid, ar gwragedd-gweddwonn yn eu hadfyd, ay ymgadw i hun yn ddifrycheulyd o ddiwrth y byd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.