1GWyn ei byd y divacul yn ei ffordd, y rodiant yn Deddyf yr Arglwydd.
2Gwyn ei byd yr ei y gawant ei destolaethae, a i h’oll galon y ceisiant ef.
3 Diogel na’s gwnant wy enwiredd, yr ei y rodiant yn ei ffryrdd ef.
4Ti orch’mynaist gadw dy ’orchymynion yn ddyval.
5O am gyferio vy ffyrð, er mwyn cadw dy gynneddfae.
6Yno nim gwradwyddit, pan edrychwyf ar dy oll orchymyneu.
7Clodvoraf dydy a chalon vnion, pan ddyscwyf varnae dy gyfiawnder.
8Dy gynneddfeu a gadwaf: na ad vi yn dragywyth.
BETHIn quo corrigit.9A’Pha beth y glaná dyn ienanc ei ffordd? gan hi chadw wrth dy ’air di.
10Am oll calon ith ceisiais: naad ymi gyfeiliorni ywrth dy ’orchymyneu.
11Yn vy-calon y cuddiais dy amaðrodd, val na phechwn yn dy erbyn.
12Bendiget ytwyt, Arglwydd: dysc ymy dy gynneddfae.
13Am gwefulae y mynageis oll varneu dy eneu.
14Bu mor hyfryd genyf ffordd dy destolaethae, a’r oll ’olud.
15Yn dy orchymynion y meuyriaf, ac y edrychaf ar dy lwybrae.
16Yn dy gynneddfae yr ymddigrifaf, nyd ebryvygaf dy ’air.
GIMELRetibue seruo tuo.17Bydd dda wrth dy was, y ddywedsont im erbyn: ath was y vevyriei yn dy gynneddfae.
24Hefyt dy destolaethae, yw vy digrifwch, a’m cycorwyr.
DALETHAdhæsit pauimento anima mea.25GLynawdd vy eneit wrth y llwch: bywá vi wrth dy ’air.
26Vy ffyrdd a vanegais, a’ gwrandewest’ vi: dysc y my dy gynneddfae.
27Par ymy ddeall ffordd dy orchymynion, a’ mevyriaf yn yn dy ryveddodae.
28Toddawdd vy eneit gan dristit: cyvot vi y vyny yn ol dy ’air.
29Cymer y wrthyf ffordd y celwydd, a’ chaniatá y-mi yn rradlawn dy Ddedðyf.
30Fordd wirioedd y ddetholeis,.
31Glynais wrth dy destolaethae, Arglwydd: na’m gwradwydda.
32Fyrdd dy ’orchmyneu y redaf, pan ehengych vy-calon.
HE.Legem pone.Boreu weddi.
33DYsc ymy Arglwydd ffordd dy gynneddfeu, a’mi ei catwaf yd y dyweð.
34Par i mi ðeall, a’ chatwaf dy Ddeddyf: ac hei catwaf a’m oll calon.
35Par y-mi gerddet yn llwybr dy ’or chmyneu: can ys ynthaw y mae vy ’wyllyseis.
36 Inclina vy-calon ar dy destolaethae, ac nyd ar gupyðdot.
37Tro heibio vy llygait rac gwelet gwagedd, yn dy ffordd bywocá vi.
38Cadarna dy air ith was, o bleit yddo dy ofni,
39Dwc ymaith vy-gwarth yr hwn y ofneis: can ys da dy vairnion.
40Wele, vy chwant ys ydd ith ’orchmynion: bywoca vi ith gyfiawnder.
VAVEt veniat super me.41A’ Dauet ymy dy drugarawgrwydd, Arglwydd, iechyt yn ol dy ’air.
42Yno ydd atebaf im cablwyr: can ys ymddiriedaf yn dy ’air.
43Ac na ddwc ’air y gwirionedd yn llwyr o’m geneu: canys wrth dy vairn y dysgwiliaf.
44Yno y catwaf dy Ddeddyf yn oystat, byth ac yn tragyvyth.
45A’ rhodiaf mewn ehengder: can ys dy orchymynion y geisiaf.
46 Cympwyllaf hefyd oth testolaethae rhac bron Brenhinedd, ac nim cywilyddir.
47Am digrifwch vydd yn dy ’orchymynae, yr ei y gereis.
48Am dwylaw y dderchafaf ar dy ’orchymymynneu, yr ei y gereis, a’ mevyriaf yn dy gynneddfeu.
ZAIN.Memor esto Verbi tui.49 COfia dy ’air ith was, yn yr hwn y pereist ymy amddyrieit.
50Hyn yw vy-confort yn vy-cystudd: can ys dy ’air am bywocawdd.
51Y beilchion am gwatworesont yn ddirvawr: ny threiglais y wrth dy Ddeddyf.
52Cofiais dy vairn o’r cynvyt, Arglwydd, ac im diddanwyt.
53 Ofn a ddaeth arnaf obleit yr andewiolion, yr ei sy yn gady dy Ddeddyf.
54Vy-canyat oedd dy gynneddfeu yn-tuy vy-pererindawt.
55Cofiais dy Enw, Arglwydd, yn y nos, a’ chedwais dy Ddeddyf.
56Hyn y dderyw y mi can ys cedweis dy ’orchymynion.
CHETH.Portio mea.57ARglwyð yr hwn wyt vy rran, meðyliais gadw dy ’airieu.
58Gweddiais rac dy vron im oll galon: trugará wrthyf yn ol dy ’air.
59Yyltyriais vy ffyrdd, a’ throeisym vy-traet ith testolaethae.
60 Brysiais ac nid oedais gadw dy o’rchmynion.
61 Catervâe yr andewolion a’m yspeiliesont: eithyr nid ebryvygeis dy Ddeddyf.
62Haner nos y cyfodaf ith glodvory, o bleit dy gyfiawn=veirn.
63 Cydymddeith wyf i bawp ath ofnant, ac y gatwant dy ’orchymynion.
64Oth trugaredd, Arglwydd, cyflawn yw y ddaiar: dysc ymy dy gynnyddfeu.
TETH.Bonitatem fecisi.65ARglwyð ys da vuost’ wrth dy was, yn ol dy air.
66Dysc ymy iawn ddeall a’ gwybyddieth: can ys dy orchymynion y gredais.
67Cyn vy-cystuddio, y cyveiliornais: ac yr awrhon y cadwaf dy ’air.
68Ys da wyt a’ daonus: dysc ymy dy gynneddfeu.
69Dychymygawdd y beilchion gelwydd arnaf: minau a gatwaf dy ’orchymynae a’m oll calon.
70Cy vraset a’r blonec yw ei calon: minau yn dy Ddeðyf ys ydd am digrifwch.
71Ys da i mi, vot vy-cystuddio, er mwyn dyscy dy gynnyddfeu.
72Gwell y mi Ddeddyf dy enae na, miloedd o aur ac ariant.
IOD.Manus tuæ fecerunt me.Prydnavvn vveddi.
73DY ddwylaw am gwnaethant ac am ffurfiasant: moes i mi deall, y dyscy dy ’orchymyniō
74Yno yr ei ath ofnāt, wrth vy-gwelet a lawenánt, can ys yn dy air y imddiriedeis.
75Mi wn, Arglwydd, mae cyfiawn dy varnae, ac yti yn gyfiawn vy-cystudio.
76Bit atolwg dy drugaredd im confforto yn ol dy air ith was[anaethwr.]
77Deuet dy dosturiol-drugareddae attaf, val y bwy vyw: can ys dy Ddeddyf yw vy-digrifwch.
78Cywylyddier y beilchion: can ys gwnaethant yn andewiol yn auoc a mi: minau a vevyriaf yn dy ’orch.mynneu.
79Ymchwelant attaf y sawl ath ofnant, a’r ei y adwaenant dy destolaethae.
80 Bid vy-calon yn berffeith yn dy gynneddfeu rac vy-cywilyddio.
CAPH.Desecit anima mea.81DEfficiawdd vy eneit am dy iechyt: wrth dy ’air y dysgwiliaf.
82 Deffigiawd vy llygait am dy air, gan ddywedyt, Pa bryd im diddeny?
83Can ys ydd wyf val potel mewn mwc, nid angofais dy gynneddfeu.
84Pa niuer yw dyddiae dy was? pa bryd y gwnai varn yn erbyn yr ei am erlidiant.
85Cloddiawdd y beilchion byllae y-mi, yr hyn nid yw wrth dy Ddeddyf.
86Dy oll ’orchymynion yn ffals im erlidiant: cymporth vi.
87Braidd na ddivasont vi ar y ddaiar: a’ mi nyd ymedeis ath ’orchymynion.
88Yn ol dy drugaredd bywocá vi: a’ chatwaf testolaeth dy enae.
LAMED.In æternum Domine.89DY ’air, Arglwydd, y bery byth yn y nefoedd.
90Dy wirionedd o genedlaeth y genedlaeth: seiliaist y ddaiar, a’ hi a saif.
91Y maent wy yn paráu y dydd hwn wrth dy ’ordinadeu: can ys oll ynt dy waision.
92Pe na bysei dy Ddeddyf ddigrifwch ymy, yno im collesit vi yn vy cystudd.
93Byth nid ancofiaf dy ’orchymynion: can ys ac wyntwy im bywéist.
94 Iti, ydd wyf, catw vi: canys dy orchymynion a gaisiais.
95Yr andewolion am dysgwilient er vy-diva: ceisiaf-ddeall dy destolaethae.
96Gwelais dervyn bop perffeithrwydd: dy ’orchymyn ys y tra eheng.
MEM.Quomodo dilexi.97 PA garu ydd wyfar dy Ddeddyf? pop dydd ydd wyf yn ei mevyrio.
98 Wrth dy orchymyniou im gwnaethost yn ðoethach na’m gelynion: can ys byth y gyd a mi.
99Vchlaw vy-dyscyawdwyr y dyellais: can ys dy destolaethae vy mevyrdawt.
100Dyellais yn vwy na’r henuriait, can ys dy orchymynion a gedwais.
101 Goherddeis vy-traed rac pop ffordd ddrwc, er mwyn cadw dy ’air.
102O ywrth dy vairn nyd enciliais: can ys ti am dysceist
103Mor velus yw dy ’eiriae im gorchvan: mwy na’r mel im genae.
104Can dy ’orchymynion y dauthym y ddyall: am hyny y caséis pop llwybr ’auawc.
NVN.Lucerna pedibus meis.Boreu vveddi.
105LUcern yw dy ’air im traed, a’ llewych im llwybr.
106Tyngais a’ chwpláf, ar gadw dy iawn-veirn.
107Im cystuddiwyt yn ddirvawr: Arglwydd, bywia vi yn ol dy ’air.
108 Atolwc Arglwydd, bid gymradwy genyt rydd-offrymeu vy-geneu, a’dysc ymi dy vairn.
109Vy eneit ys ydd yn vy llaw yu oystat: er hyny nid angof genyf dy Ddeddyf.
110Gosodawdd yr andewolion vagl ymy: ac nid enciliais ywrth dy orchymynnae.
111Etiveddais dy destolaethae yn tragyvyth: can ys llawenydd vy-calon ytynt.
112Pwysais vy-calon y gyflawny dy gynneddfeu bop amser, yd y dywedd.
SAMECH.Iniquos odio habui.113MEddyliae-gweigion y gafeis: eithr dy Ddeddyf a garaf.
114Vy dirgelva-wyt a’m tarian. yn dy ’air y ymddiriedaf.
115Tynwch y wrthyf chwi andewolion: can ys catwaf ’orchymynion vy-Dew.
116 Cynnal vi yn ol dy air, a’ byw vyddaf, ac na phar ym wradwydd o’m gobaith.
117Attega vi, ac iach vyddaf, ac ymddigrifáf yn dy gynneddfeu yn wastat.
118 Sathreist yr oll rei ymdawant y wrth dy gynneddfeu: can ys over yw ei dichell.
119Peraist ymaith oll andewolion y ddaiar val ampuredd: am hyny y cereis dy destolaethae.
120 Ergrynawdd vy-cnawt rrac dy arswyt, a’ chan dy vairn yr ofnais.
AIN.Feci iudicum121GWneythym varn a’ chyfiawnder: na ad vi im gorthrymwyr.
122Par ith was roi ei vryd ar ddaoni, na’d ir beilchion vy-gorthrymu.
123 Deffygiawð vy llygait am dy iechyt, ac am dy ymadrodd cyfiawn.
124Gwna ath was yn ol dy drugaredd, a’dysc i mi dy gynneddfae.
125Gwas y ti ytwyf: can hyny gwna i mi ddeall, mal y gwypwyf dy destolaethae.
126 Amser yw ir Arglwydd waithiaw: destruwesont dy Ddeddyf.
127Am hyny y caraf dy ’orchymynion vchlaw aur, ac uchlaw aur coeth.
128Can hynny ys vnion y barnais dy oll ’orchmynion: a’ phop llwybr gauawc a gaseais.
Mirabilia.PE.129YS rhyvedd dy destolaethae: am hyny y caidw vy enait wyntwy.
130 Agoriat dy ’air a rydd olauni, a bar ddeall irr ei andisemyl.
131Agoreis vy-genae ac anhetlais, can ys dy ’orchmynion a garais.
132Edrych arnaf a’ thrugará wrthyf, yn ol dy ddevot ir ei y garant dy Enw.
133 Forddia di vy llwybreu yn dy ’air, ac na bo y ddim enwiredd arglwyddiaw arnaf.
134 Achup vi rac trawsedd dynion, a’ chatwaf dy orchymyneu.
135Llewycha d’wynep ar dy was, a’ dysc ymy dy gynneddfeu.
136Avonydd dufredd a red om llygaid, can na chatwant dy ’orchymynion.
Iustus es Domine.TSADDI.137KYfiawn ytwyt Arglwydd, ac vnion yw dy varn.
138Ath testiolaethoe y gorchymyneist gifiawnder, a’ gwirionedd yn benddivaddeu.
139Vyg gwynvyd am divaodd, can im gelynion ancofi dy’ air.
140 Provwyt dy’ air yn buraf dim, ath was y car ef.
141Bychan ytwyf a’ thremigus: er hyny nyd ancofiaf dy ’orchymynion.
142Dy gyfiawnder gyfiawnder tragywyddawl, ath Ddeddyf gwirionedd.
143 Ing a gwascva a ðaeth arnaf: vy-digrifwch.
144Iawnder dy testiolaethae tragyvythawl: dod y my ddeall, a’ byw vyddaf.
KOPH.Clamaui.Prydnawn weddi.
145LLevais am oll galon: clyw vi, Arglwyð, gynneðfeu a gatwaf
146Arnat y gelwais: ymwared vi, a’ chatwaf dy destliolaethae.
147 Achupeis y cynddyð, a’ llefais: can ys am dy ’air y dysgwiliwn.
148Vy llygait y achubent wiliae er mevyrio yn dy ’air.
149Clyw vy llef yn ol dy drugararwgwydd: Arglwydd yn ol dy ddevot bywa vi.
150 Dynessay y mae yr ei ’s ydd yn canlyn drwc, ywrth dy Deddyf yr ymbellânt.
151Cyfagos wyt Arglwydd: can ys dy oll’ orchymynion gywir.
152 Es talm y gwyddwn wrth dy destolaethae, vot yty y seiliaw wynt yn tragyvyth.
RESCH.Vide humilitatem meam.153EDrych ar vy-cystudd, a’ dianc vi: can nad angofeis dy Ddeddyf.
154 Dadle vy-dadl, a’ gwared vi: bywia vi yn ol dy ’air.
155 Ys pell iechyt ywrth yr andewolion, can na cheisiesont dy gynneddfeu.
156Ys mawr dy dosturiaethe. Arglwydd: bywia vi-wrth dy vairn.
157Llawer im erlid ac im gorthrymu, ywrth dy testoliaeth nyd enciliaf.
158Gwelwn y troseddwyr a ’govit oedd genyf, can na chatwent dy ’air.
159 Gwyl, Arglwydd, modd y cereis dy ’orchymynion: bywia vi yn ol dy drugarawgrwydd.
160[O’r] pen cyntaf y mae dy air yn wirionedd, ac oll varnae dy gyfiawnder yn tragyvyth.
SCHIN.Principes persecuti.161 TYwysogion am erlydiesont yn ddiachos, eithr gan dy ’airieu yr ofnei vy-calon.
162Llawen yw vi o bleit dy ’air, mal vn yn cahel yscyvaeth lawer.
163 Falsedd ys y gas a’ ffiaidd genyf, dy Ddeddyf a garaf.
164Seithweith yn y dydd ith volaf, o erwydd dy iawn varneu.
165Mawr vydd llwyddiant yr ei a garant dy Ddeddyf, ac nys daw eniwet yddynt.
166Ys gwiliais wrth dy iechyt, Arglwydd, ath ’orchymynion a wneuthym.
167Catwadd vy eneit dy destoliaethae: canys caraf wynt yn ddirvawr
168Cetweis dy ’orchymynion ath testoliaethae: can ys vy oll ffyrdd yn dy olwc.
TAV.Appropinquet deprecatio.169DEuet vy-cwyn ger dy wynep, Arglwyð, yn ol dy ’air par y-my ddyall.
170Deuet vy adolwyn rhac dy wynep, ac yn ol dy ’air gwared vi.
171Vy-gwefuse a gympwyll voliant, pan ddyscych ymy, dy gynnedfeu.
172Vy-tavod a’ draetha oth ’air: can ys dy oll ’orchymynion gyfiawn.
173Boet dy law am cymportho: can ys dy ’orchymynion y ddywyseis.
174Bu arnaf hiraeth am dy iechyt, Arglwydd, ath Ddeddyf yw vy hyfrydwch.
175Bid vyw vy eneit, ac ef ath vawl, ath vairn am cymporthant.
176 Cyfeiliorneis val dauat a gollit: cais dy was, o bleit dy orchmynion nyd ebryvygeis.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.