1A Ddew parawt vy-calon, velly vy-tavot: canaf, a’ chanmolaf.
2 Deffro y nabel a’r delyn, diffroaf ar y wawr ddydd.
3Clodvoraf dydy Arglwydd, ym-plith y populoedd, a’ chanaf yty ymplith y cenedloedd.
4Can ys mawr dy drugaredd uch y nefoedd, ath wirionedd yd yr wybrae.
5Ymddercha Ddew, uwch law y nefoedd, ac ar yr oll ddaiar dy ’ogoniant,
6 Yn y ddianger dy garedigion: gwared ath ddeeulaw a’ gwrando vi.
7Dew a lafarawdd yn ei sancteiddrwyð: yr ymlawenáf, rhanaf Schechem, a’ mesuraf ddyffryn Succóth.
8 Ys mau Gileád, ys mau Manasséh: Ephráim hefyd nerth vy-pen: Iudah vy-deddfwr.
9Moab vy-crochan golchi: ar uchaf Edóm y tavlaf vy escit: ar Palestina yr ymorugaf.
10Pwy am dwc ir dinas cadarn? pwy am dwc yd yn Edóm?
11A ny Ddew, yr hwn an gwrthddodesyt ni, ac nyd ayt ymaith Ddew y gyd a’n lluoedd?
12Dyred ath borth rac cyvingder: can ys gwac ymwared dyn.
13Trwy Ddew y gwnawn wroldep: ac ef e a sathr ein gelynion.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.