1YNo y cyffelypir teyrnas nefoedd i ðeic gwyryf, yr ei a gymeresont ei llugyrn, ac aethant i gyfarvot a’r gvvr‐priawd,
2A’ phemp o hanynt oedd yn bruddion, a’ phemp yn ynvydion.
3Yr ei ynfydion a gymeresont ei llugyrn, ac ny chymeresont oleo y gyd ac wynt.
4A’r ei pruddion a gymersant oleo yn ei llestri y gyd a ei llucern.
5Ac a’r priawd yn gohirio, yr hepiawdd ac yr hunawdd pavvp oll.
6Ac am haner nos y bu gawri, Nycha y priod yn dyvot: ewch allan y gyhwrdd ac ef.
7Yno y cyfodawdd yr oll weryfon ac a addurnasont ei llugyrn.
8A’r ei ynfydion a ddywedesont wrth y pruddion, Rowch i ni o’ch oleo chvvi, can ys diffoddawdd eyn llucern ni.
9A’r ei pruddiou a atepesant, gan ddywedyt, Rac na bo digon i ni ac y chwithe: ewch yn hytrach at yr ei ’r ’sy yn gwerthy, a’ phrynwch y chwi ych hunain.
10A’ thra oedent yn myned i bryny, y daeth y priawd: a’r ei oedd yn parat, aethon i mywn y gyd ac ef i’r priodas, ac a gaywyt y porth.
11Gwedy hyny y daeth y gweryfon ereill, gan ddywedyt, Arglwydd, Arglwydd, agor y ni.
12Ac ef a atepawdd ac a ddyvot, Yn wir y dywedaf ywch’, nid adwaen i ddim o hanoch.
13Gwiliwch am hyny: can na wyddoch na ’r dydd na ’r awr y daw Map y dyn.
14Can ys teyrnas nefoedd ys y val dyu yn myned‐i‐wlad‐bell, a alwei ei weision, ac a roes ei dda attwynt.
15Ac i vn y rhoddes bemp talent, ae i arall ddwy, ac i arall vn, i bop vn erwyð ei ’rym, ac yn y van yddaeth o y gartref.
16Yno hwn a dderbynesei y pemp talent, aeth ac a vasnachodd ac wynt, ac enillodd bemp talent ereill.
17A’r vnffynyt, hwn a dderbyniesei ddwy dalent, a enillod ynteu ddwy ereill.
18An’d hwn a dderbyniesei yr vn, aeth ac ei claddodd yn y ddaiar, ac a guddiodd vath ei Arglwydd,
19A’ gwedy llawer o amser, y daeth Arglwydd y gweision hyny, ac a gyfrifawdd a’ hwy.
20Ac yno y daeth hwn a dderbynesei bemp talent, ac a dduc bemp talent eraill, gan, ddywedyt, Arglwydd, pemp talent a roist attaf: wele, yr enilleis a hwy bemp talent ereill.
21Yno y dyvot ei Arglwydd wrthaw, Da‐iavvn was da a’ ffyðlawn, Ys buost ffyddlawn yn ychydigion, mi ath ’osodaf di vn oruchaf ar lawer: dyred y mewn i lawenydd dy Arglwydd.
22A’ hwn a dderbyniesei ddwy dalent, a ddaeth ac a ddyuot, Arglwydd, dwy dalent a roist ataf: wele ddwy ereill a eneilleis ac wynt.
23Ei Arglwydd a ðyuot wrthaw, Da iavvn was da a’ ffyðlon, ys buost ffyddlon yn ychydigion, mi ath ’osodaf yn oruchaf ar lawer: dyred y mewn i lawenydd dy Arglwydd.
24Yno hwn a dderbynesei ’r vn talent, a ddaeth ac a ddyvot: Arglwydd, ys gwydwn mai dyn caled oeddyt, yn medi lle ny’s heyaist, ac yn cascly, lle ny ’oyscereist:
25ac am hyny ydd ofneis, ac ydd aethym ac a guddieis dy dalent yn y ddaear: wel ’dyma iti, ys ydd vn daudi.
26A’ ei Arglwydd a atepawdd ac a ddyvot wrthaw, Ti was drwc, a’ dioc, gweddyt’ vy‐bot yn meti lle ny’s heuais, ac yn cascly lle ny ’oyscereis.
27Am hyny y dylesyt ddodi vy monei i at y cyf newidwyr, ac yno wrth ddyvot adref y cawswn i y meu vi gyd ac elwach.
28Cymerwch am hyny y dalent y arnaw, a’ rhowch i hwn ’sy ganthaw ddec talent.
29Can ys i bob vn a vo ganthaw, y rhoddir, ac ef gaiff ehelaethrwydd, ac y gan hwn ny’d oes ganthaw, ys hyn ’sy ganthaw, a ddugir y arno.
30Am hyny tavlwch y gwas anvuddiol i’r tywyllwch eithav: yno y bydd wylofain ac yscyrnygy dannedd.
31A’ phan ðel Map y dyn yn ei ’ogoniant a’ ei oll Angelion sainctavvl y gyd ac ef, yno ydd eistedd ar eisteddfa ei ’ogoniant.
32A’ geyr y vron ef y cynnullir yr oll genedloedd, ac ef y gohana hwy y wrth y gylydd, megis y didol y bugail y defait y wrth y geifr.
33Ac ef a’ osyt y devait ar ei ddeheulavv, ar ceifr ar yr aswy.
34Yno y dyweit y Brenhin wrth yr ei vo ar ei ddeheulavv, Dewchvvi vendigeidion vy‐Tad: etiueddwch y deyrnas’ sy yn parot i chwi er pan sailiwyt y byd.
35Can ys‐bum yn newynoc, a’ chvvi roesoch i mi vwyt: bu arnaf sychet, a’ rhoesoch i mi ddiot: hum yn ddyn diethr, a lletuyesoch vi:
36Bum noeth, a dilladesoch vi: bum glaf, ac ymwelsoch a’ mi: bum yn‐carchar, a’ daethoch ataf.
37Yno ydd atep yr ei cyfion yddo, gan ddywedyt, Arglwydd, pa bryd ith welsam yn newynoc, ac ith porthesam? nei a syched arnat, ac y rhoesam yty ddiot?
38A’ pha bryd ith welsam yn ddyn diethr, ac ith letuysam? nei yn noeth, ac ith ddilladesam?
39Ai pa bryd ith welsam yn glaf, nei yn‐carchar, ac yd aetham atat?
40A’r Brenhin a etyp, ac a ddyweit wrthwynt, Yn wir y dywedaf ychwi, yn gymeint a gwneythyd o hanoch ir vn lleiaf om broder hynn, ys gwnaethoch i mi.
41Yno y dyweit ef wrth yr ei vo ar yr llavv aswy, Tynnwch y wrthyf yr ei melltigedic, ir tan tragyvythawl, yr hwn a paratowyt i ddiavol, ac y’w angelion.
42Can ys bum newynoc, ac ny roesoch y my vwyt: bu ar naf sythet, ac ny roesoch ymy ddiot:
43bum ddyndieithr, ac ni’m lletuyesoch: bum noeth, ac ny’m dilladesoch: bum glaf, ac yn‐carchar, ac ny ymwelsoch a mi.
44Yno ydd atepant wy hefyt yðo, gan ddywedyt, Arglwydd, pa bryd ith welsam yn newynoc, ai yn sychedic, ai yn ddyndiethr, ai yn noeth, ai yn glaf, ai yn‐carchar, ac ny buam ith wei ni?
45Yno ydd atep ef yddwynt, ac y dywait, Yn wir y dywedaf wrthych, yn gymeint na’s gwnethoch ir vn o’r ei lleiaf hyn, ny’s gwnaethoch i minef.
46A’r ei hyn aant i boen dragyvythawl, ar ei cyfion i vywyt tragyvythawl.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.