2. Corinthieit 5 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. v.Paul yn myned rhacddaw y venegy y budd a ddaw y wrth y

groc. Pa wedd y ddylyem ni ymparatoi yddei. Drwy bwy, Ac er pa dervyn. Ef yn espesu am rat Christ, A’ swydd gweinidogion yr Eccles, a’r oll ffyddlonion.

1CAn ys gwyddam pe a’s ein dayarol duy y pebyll hyn a ddinistrir, vot i ni adailat vvedy roddi gā Duw, nid amgen, tuy nyd o waith llaw ddyn, anyd tragyvythawl yn y nefoedd.

2Can ys am hyny ydd ym yn vcheneidiaw, gan ddeifu cael ein gwisco a’n tuy, rhwn’syð or nef.

3O bleit a’s gwiscir‐ni, ny’n ceffir yn noethion.

4Can ys yn ddiau nyni’r ei ’sydd yn y pebyll hynn, ydym yn vcheneidio, ac yn llwythoc, can nad wyllysem ein diosc, anyd cahel ymwiscaw am danom, val y darllyncid marwolaeth gan vywyt.

5A’ hwn a’n creawdd ni i’r peth hyn ydy Duw, yr hwn hefyt a roddes y‐ni ernes o yr Yspryt.

6Am hyny ydd ym bop amser yn hyderus, cyd gwypom mae tra ydym gartref yn y corph, eyn bot yn ymddeith ywrth yr Arglwydd.

7(Can ys wrth ffydd y rhodiwn, ac nyd wrth ’olwc)

8er hyny ydd ym yn hyderus ac a vynnem yn hytrach ysmutaw allan o’r corph, a’ thrigiaw y gyd a’r Arglwydd.

9Am hyny hefyt y chwenychem, a ni yn trigo gartref ac yn mudo o ddygartref, vot yn gymradwy ganto ef.

10Can ys dir yw y ni oll ymðangos geyr bron brawdle Christ, val yd erbynio pop vn y petheu a vvnaethpvvyt yn ei gorph, erwydd yr hyn a wnaeth, pa vn bynac ai da ai drwc.

11Velly can y ni wybot ofnhad yr Arglwydd, ydd ym yn peri y ddynion gredu, ac in eglurhawyt i Dduw, ac yddwy yn gobeithio hefyt ddarvot ein egluraw ni yn eich cydwybodae chvvi.

12Can nad ym yn ymganmol drachefn wrthych, anyd rhoddy ywch achos gorvoledd am danom, val y caffoch beth y atep yn erbyn yr ei ’sy ai gorvoledd yn yr wynep, ac nyd yn y galon.

13Can ys pa vn bynac ai ampwyllo ydd ym, y Dduw ydd ym: ai ynteu bot yn ein iavvnpwyll, y chwi ydd ym.

14Can ys cariat Christ a’n cympell: can y ni varnu val hyn, o bleit a’s bu vn varw trosam bavvp oll yno ys meirw oeddynt oll,

15ac ef vu varw dros bavvp oll, val y bo ir ei byw, na vyddant vyw rhac llaw yðyn y hunain, anyd i hwn a vu varw drostwynt, ac a adgyvodes.

16Ac velly, ar ol hyn nyd ym yn adnabot nebun erwydd y cnawt, a’ chyd adnabysem ni Christ erwydd y cnawt, er hynny o hyn allan nyd ym yn y adnabot ef mwy.

17Can hyny a’d oes nebvn yn‐Christ, byddet ef yn creatur newydd. Yr hen betheu aethan heibio: wely, yr oll petheu sy wedy gwneuthur o newydd.

18A’r oll petheu ynt o Dduw, hwn a’n cysiliawdd ni yddo ehun, trwy Iesu Christ, ac a roddes i ni weinidogeth cysiliat.

19Can ys Duw ytoedd yn Christ, ac a gysiliawdd y byt yddo yhun, eb liwio yddynt ei pechotae, ac a ddodes i ni ’air y cysiliat.

20Wrth hynny ydd ym ni yn genadwri dros Christ: megis pe bai Duw ich adolwyn trywom ni, atolygwn yvvch yn lle Christ, bot ych cysilio a Duw.

21Can ys gwnaeth ef hwnw y vot yn bechot trosam, yr vn nyd adnabu ddim pechot, val in gwnelit yn gifiawnder Duw ynddo ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help