1AC am yr amsereu a’r prydieu, vroder, nyd rait yvvch scrivenu o hanof atoch.
2O bleit chvvi eich vnain a wyddoch yn espes, can ys y daw dydd yr Arglwydd ys mal lleitr o hyd nos.
3Can ys pan ddywetont, Tangneddyf, a’ diogelwch, yno y daw arnynt ðestrywiad disymuth, megis gofid gwraic veithioc wrrh escor, ac ny’s ddiangant.
4Anyd chvvychvvi vroder, nyd ydych yn‐tywyllwch, val y delei y dydd hwnw arnoch, megis lleitr.
5A’ chvvichwy oll plant y golauni ytych, a’ phlant, y dydd: nyd ym ni i’r nos, nac i’r tywyllwch.
6Sef gan hyny na chyscwn val eraill, eithr gwiliwn, a’ byddwn ddiwyd.
7Can ys yr ei a gyscant, y nos y cuscant, a’r ei a veddwant, y nos y meddwant,
8Eithyr nyni ac yn blant ir dydd, byddwn ddiwyd, gan wisco am danom ðwyfronnec y ffydd a’ chariat, a’ gobaith yr iechedwrieth yn lle helym.
9Can na ddarparawdd Duw nyni y ðiglloni, anyd er caffaeliad iechedvvrieth, trwy vvaith ein Arglwydd Iesu Christ,
10yr hwn a vu varw trosam, val ai gwiliem ai cuscem, y byddem vyw nghyd gyd ac ef.
11Erwydd paam cygcorwch eu gylydd, ac adeilwch bop vn eu gylydd, megis ac ydd ych yn gwneuthur.
12Ac ni atolygwn ywch vroder, adnabot yr ei, a lavuriant yn eich plith ac a ynt ich llywodraethu yn yr Arglwydd, ac yn eich cygcori,
13a’ rhowch eich traserch arnynt er mwyn y gwaith wy. Byddwch dangneddyfus yn eich plith eichunain.
14A’ ni ddeisyfwn arnoch, vroder, rhybyddiwch yr ei anllywodraethus: diddenwch y rhai gwan veðwl: cynhaliwch y gweniait: byddwch ymarous wrth bavvp oll.
15Gwelwch na thalo neb ðrwc dros ðrwc y nebun: eithr yn ’oystatol dilynwch yr hyn sy dda, ’sef y chwi ychunain, ac y bawp eraill.
16Byddwch lawen yn ’oystadol
17Gweddiwch eb peidio.
18Ym‐pop dim dyolchwch: can ys hyn yw wyllys Duw in‐Christ Iesu tu ac atoch.
19Na ddiffoddwch yr Yspryt.
20Na thremygwch brophwytoliaeth.
21Provwch bop dim, ac atdeliwch yr hyn ’sy dda,
22Ymgedwch rac pop cyfrith drigioni.
23Ac ys Duw y tangneddyf a’ch sancteiddio yn oll gwbl: a’ phoed eich cyfan yspryt a’ch eneid ach corph, a gatwer yn ddihawl erbyn dyuodiat ein Arglwydd Iesu Christ.
24Ys ffyddlon yw’r hwn ach galwodd, yr vnhefyt ei gwna.
25Brodur, gweddiwch trosam.
26Anerchwch yr oll vrodyr a’ chusan sanctavvl.
27Ydd wyf yn ych noddio yn yr Arglwyð, ar vot ddarllen yr epistol hwn ir oll Sainct vroder.
28Rat ein Arglwydd Iesu Christ y gyd a chwi, Amen.
*
Yr epistol cyntaf ad y Thessaloniceit a scrivennwyt o Athen.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.