Titus 3 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. iij.1 Vvydddot ir sawr a vo mewn awdurtot, 9 Y mae ef yn rrybuddio Titus y ymogelyd rrac questione ynvydion a’ divudd, 12 Gan ddybenu wrth grybwyll am ryw negeseu’n ailltuawl, 15 Ac anerchion.

1COffha yddynt vot yn ddarestyngedic ir Tywysogaetheu ac Auturdotae, a’ bot yn vvydd, ac yn parat i bop gweithred da.

2Na chablant nep, na bot yn ymladdwyr, anyd llednais, gan ðangos pop tiriondep i bop dyn.

3Can ys ydd oeddem nineu hefyd yn andoethion, yn anuvydd, yn siomedic, yn gwasanaethu chwanteu ac amryw wynieu, yn byw yn‐drygioni a chenvigen, dygasoc, yn casau eu gylydd.

4Eithyr gwedy y addvwynder a’ dyngarwch Duw ein Iachawdur ymddangos,

5Nyd o weithredreð cyfiawnder, a’r y wnaethem ni, eithr erwydd ei drugaredd yr iachaodd ef nyni, can ’olchiat yr adenedigeth, ac adnewyddiat yr Yspryt glan,

6Yr hwn a ddineawdd ef arnom yn ehelaeth, trwy Iesu Christ ein Iachawdur,

7Val y bei y ni, gwedy ein cyfiawnhau gan y rat ef, gael yn gwneuthur yn etiveddion erwydd gobaith bywyt tragyvythawl.

8Fyddlawn yw’r ymadrodd hyn, a’r petheu a wyllysiaf yty eu ffyrfhau, ar ir sawl a credant yn‐Duw, ymovalu y ddangos yn amlwc gweithredoedd da. Y petheu y’ sy yn dda acyn profitiol y ddynion.

9Eithr gwrthladd questione ynvydion, ac iachae, a’ chynneneu ac ymrysongerdd o bleit y Ddeðyf, can ys amprofitiol ynt a’ gweigion.

10 Gommedd y dyn y vo heretic, gwedy vnvvaith neu ddoyvvaith ei rybuddio,

11Gan wybot am y cyfryw, yddymchwelwyt, ai vot yn pechu wedy varnu y cantho yhunan.

12Pan ddanvonwyf Artemas atat, ai Tychicus, bydd astud y dddyvot ataf i Nicopolis: Can ys yno y pwrpasais gayafu.

13 Danvon Zenas y Deðfwr, ac Apollos yn ddiwyd, val na bo arnynt eisieu dim.

14Discant hefyt yr ei yddom ni ddangos yn eglur weithredoeð da er mwyniāte angēraidiol val na bont yn anffrwythlawn.

15Yr oll ’rei ’sy gyd a mivi, ath anerchant. Anerch yr ei an carant yn y ffydd. Rat gyd a chwi oll. Amen

Ad Titus, y ddewysiwyt yn Episcop cyntaf i Eccles y Cretieit, yr hwn escrivenwyt o Nicopolis ym‐Macedonia.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help