1VY-Dew, vy-Dew, paam im gedeist wyt cy bellet y wrth vy iechyt,’ airiae vy llefain.
2[A] vy-Dew llefaf y dydd, ac nid ateby, a’r nos, nyd oes goystec ymy.
3A’thi wyt Sanct, ac wyt yn cyvanneddu canmolion Israel.
4Ynot’ y gobeithiawdd ein tadae: gobeithesont, ac eu gwaredeist.
5Arnat’ y llefent, ac eu gwaredwyt: ymddiriedesont ynot’ ac ny’s gwradwyddwyt.
6Aminef pryf ytwyf, ac nid dyn: gwarthrudd dynion, a’ thremic y popul.
7Pawp a’r am gwelant, am gwatworant: mingamu a wnant, ac yscytwyt pennae,
8Roi ei bwys y mae ar yr Arglwydd, gwaredet ef: rhyddhaet ef, can y vot ef yn dda ganthaw.
9Can ys ti am tynnaist o’r bru: gwnaethost ymy obeithio, [ys] ar vronneu vy mam.
10Arnati im tavlwyt o’r bru: o groth vy mam vy=Dew ytwyt.
11Nac ymbellá y wrthyf, erwydd bot trwbl yn agos: can nad gannorthwywr.
12Bustych lawer am cylchynesont: gwrdd deirw Bashā am goarchaeasont o bop parth.
13Agori y maent arnafei geneueu, lleo rreipus a vei yn rhuo.
14Mal dwfyr im dinêir, a’m oll escyrn ymoahanant: vy-calon ys y mal cwyr, hi doddir ym pervedd vy emyscaroedd.
15Vy nerth y wywodd val priddell, a’m tavawd y lynawð wrth vy gorchvanae, ac yn llwch angae im peraist.
16Can ys cwn am cylchynesont, a’ chynulleidfa o’r ei enwir am goarchauesant: tyllesont vy-dwylaw a’m traet,
17Gallaf gyfri vy oll escyrn: ac y maent wy yn tremio, yn edrych arnaf.
18Ranna=nt vy-dillat yn ei plith, ac ar vy=gwisc y bwriant goelbren.
19A’ thithe Arglwydd, nac ymbellá, vy porth, brysia im canorthwyaw.
20Gwared vy eneit rac y cleddyf, vy vnic rac meddiant y ci.
21Cadw vi rac safn y lleo, ac atep vi y wrth yr vnicornieit.
22Datcanaf dy Enw i’m broder: ym=pervedd y Gynnulleidfa ith volaf,
23Molwch yr Arglwydd yr ei ’ei h’ofnwch: oll had Iaco, gogoneddwch ef, ac ofnwch gantho, oll had Israel.
24Can na ddiystyrawdd ac ny thremygawdd goddiant y tlawt, ac ny chuddiawdd ei wynep rracðaw: anid pan alwadd arno, y gwrandawodd.
25Vy=mawl o hanat’ yn y Gynnylleidfa vawr: vy eddunedae a dalaf ger bron yr ei y ofnant ef.
26Y tlodion y vwytánt ac ei digonir: yr ei ymgeis a’r Arglwyð, ei molāt ef: eich calō a vywoca yn tragywyth.
27Oll tervynae yr ddaiar agoffant, ac ei hymchwelant at yr Arglwydd: ac oll dylwytheu y cenedloedd y addolant ger dy vron.
28Can ys yr Arglwydd y deyrnas, ys ydd yn llywiaw ym-plith y cenedloed.
29Yr oll rei breision y ddaiar, a vwytànt ac y addolant: yr oll rei y ddescenont yn llwch, y estyngant ger ei vron, ys yr hwn ny all vywhau ei enait ehun.
30[Eu] had y gwasanaetha ef: e gyfrifer i’r Arglwydd yn genedlaeth.
31Wy ddauant ac a venagant y gyfiawnder ef i’r popul y aner, can yddo wuenthur.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.