1YNo yr aethpwyt a’r Iesu i vyny ir diffaithwch, y’w demptio can ddiavol.
2A gwedy iddaw vmprytiaw dd’augain diernot a dau’gain nos, yn ol hynny y newynawdd.
3Yno y daeth y temptiwr atto, ac a ddyvot, A’s ti yw Map Duw, arch ir ceric hynn vod, yn vara.
4Ac yntef atepawdd ac a ddyuod, Mae yn escrivenedic, Nid trwy vara yn vnic y bydd byw dyn, anid trwy pop gair a ddaw o enae Duw.
5Yno y cymerth diavol ef ir dinas sanctaidd, ac ei gossodes ar binnacul y templ,
6ac addyvot wrthaw, A’s Map Duw wyt, bwrw dy hun i lawr: can ys yscrivenedic yw, Y rhydd ef orchymyn yw Angelion am danat, ac wy ath dducant yn ei dwylaw, rhac taro o hanot dy droet wrth garec.
7Yr Iesu a ddyvot wrthaw, Y mae yn escrivenedic trachefyn, Na themptia yr Arglwydd dy Dduw.
8Trachefyn y cymerth diavol ef i vynyth tra vchel, ac a ddangosodd iddaw oll deyrnasoedd y byt, a’ ei gogoniant,
9ac a ddyvot wrthaw, Hynn oll a roddaf y ty, a’s cwympy i lawr, a’m addoli i.
10Yno y dyvot yr Iesu wrthaw, Tynn ymaith Satan: can ys scrivenedic yw, Yr Arglwydd dy Dduw a addoly, ac efe yn vnic a wasanaethy.
11Yno y gadawdd diavol ef: a’ nycha, Angelion a ddaethant, ac a wnaethant wasanaeth ydd-aw.
12A’ phan glybu ’r Iesu ry roddi Ioan, ef a ymchoelawdd i Galilaea,
13ac a adawodd Nazaret, ac aeth ac a drigodd yn‐Capernaum, yr hon ’sydd wrth y mor yn cyffinydd Zabulon a’ Nephthalim:
14yn y chyflawnit hyn a ddywetpwyt trwy Esaias brophwyt, gan ddywedyt,
15Tir Zabulon, a ’thir Nephthalim vvrth ffordd y mor, tros Iorddonen Galilaea y Cenetloedd:
16Y popul a oedd yn eistedd yn‐tywyllwch, a welawdd oleuni mawr: ac ir ei a eisteddent ym‐bro a’ gwascot angae, y cyfododd goleuni.
17O’r pryd hyny y dechreuawdd yr Iesu precethy, a dywedyt, Gwellewch eich bychedd: erwydd bot teyrnas nefoedd yn dynesay.
18Mal ydd oedd yr Iesu yn rhodiaw wrth vor Galilea, e ganvu ddau vroder, Simon, yr hwn a elwir Petr, ac Andreas ei vrawt, yn bwrw rhwyt i’r mor (can ys pyscotwyr oeddent)
19ac ef a ddyvot wrthwynt, Dewch ar vy ol i, a mi a’ch gwnaf yn pyscotwyr dynion.
20Ac wy yn y van gan ady y rhwytae, y dilynesont ef.
21A gwedy y vynet ef o ddynaw, ef a welawdd ddau vroder ereill, Iaco vap Zebedeus, ac Ioan ei vrawt mewn llong gyd a Zebedeus ei tat, yn cyweiriaw ei rhwytae, ac ei galwodd wy.
22Ac wy eb ohir gan adael y llōg a’ ei tat, y canlynesant ef.
23Ac yno ydd aeth yr Iesu o amgylch oll Galilaea, gan ei dyscy yn ei Synagogae, a’ phregethy Euangel y deyrnas, ac iachay pop haint, a’ phob nychtot, ymplith y popul.
24Ac aeth son am danaw trwy oll wlad Syria: ac a ddugesont ataw yr oll gleifion, ar oedd yn adwythus o amryw heintiae a chnofeydd, a’r ei cythraulic, ar ei lloeric ar sawl oedð ar parlys arnyn, ac ef ai iachaodd wy.
25Ac y canlynawdd ef dyrva vawr o Galilea, ac Decapolis ac o Gaerusalem ac Iudea, ac or gvvledydd tuhwnt i Iorddonen.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.