1ARna-ti, Arglwydd, y derchafa vy eneit.
2Vy-Dew ynot’y ymddiriedaf, na wradwydder vi, na bo im gelynion ymlawenychy ar vy vchaf.
3[Can] ys yr ei oll y obeithiant ynoti, ny chywylyddir, cywylyddier yr ei a wnant drawsedd yn ddiachos.
4Par y mi wybot dy ffyrdd, Arglwydd, dysc y my dy lwybrae.
5 Tywys vi yn dy ’wirionedd, a’ dysc vi: can ys ti yw Dew vy iechyt, ynot’ y gobeithaf yn hyd y dydd.
6Coffa, Arglwydd, dy dyner drugareddae, ath garedigol=dosturiaetheu, can ys erioed yr oeddynt.
7Na choffa bechatae vy ieuntit, na’m trowsedde, yn ol dy drugaredd meddwl ti am danaf, er dy ddaoni, Arglwydd.
8Da ac vnion yr Arglwydd: am hyny y dysc ef bechaturieit yn y ffordd.
9Yr ei gwar y fforddia ef mewn barn, a’r ei gestyngedic y dysc ef ei ffordd yddwynt.
10Oll llwybrae yr Arglwydd trugaredd a’gwirionedd ir ei y gatwant ei ddygymbot a’ei destiolaetheu.
11Er mwyn dy Enw, Arglwydd, arbed vy anwiredd, canys mawr ytyw.
12Pa wr yw ef ’sy yn ofny yr Arglwydd? i hwnw y dysc ef y ffordd ddywyso.
13Ei eneit a dric yn esmwyth, a ei had a’etifedda y ðaiar.
14Dirgelrwydd yr Arglwydd ir ei y hofnāt ef: a’i ddygymbot yw dwyn y wybodaeth.
15Vy llygait vyth ar yr Arglwydd: can ys ef a ddwc vy-traet o thwyt.
16Wyneba aty vi, a’ thrugará wrthyf: canys-vnic, a’ thlawt ytwyf.
17Gofidiae vy-galon y amylhawyt: dwc vi allan o’m cyfyngdere.
18Edrych ar vy cystudd a’m llavur, a’ maddae vy oll pechotae.
19 Gwyl vy-gelynion, can-ys llawer ynt, ac a thraws ddygasedd im casánt.
20Cadw vy eneit a’ gwared vi: na ’m gwradwyðer, can ys ymddiriedais ynot.
21Cadwet vi gwiriondep a’m vnionder: can ys gobeithiais ynot.
22Gwared dduw, Israel o ei drallodeu.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.