Psalm 34 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Psalm .xxxiiij.¶ Benedicam Dominum.¶ Psalm Dauid pan newidiawdd ei ymwreddiat gar bron Abimelech yr hwn ei gyrodd ef ymaith, ac ydd aeth yntef.

1 DIolchaf ir Arglwydd bop amser: ei voliant yn vy-genae yn oystat.

2Yn yr Arglwydd y bydd gorvoledd vy eneit: yr ei gostyngedic ei clyw, ac y lawenánt.

3Mawrygwch yr Arglwydd gyd a mi, a’ derchafwn ei Enw y gyd.

4Ceisiais yr Arglwydd, ac im gwrandawodd: ys, ef am gwaredawdd om oll ofn.

5Wy edrychant arnaw, ac eu heglurir: a’ei wynepae ni chywylyddir

6 Y tlawt hwn a lefawdd, a’r Arglwydd clybu, ac oei oll drallote y gwaredawdd.

7Angel yr Arglwydd a gastella o amgych yr ei y ofnant ef, ac eu gwared.

8 Chwaethwch a’ gwelwch, mor dda yw’r Arglwydd: gwyn ei vyd y gwr y ymddiriet iddo.

9Ofnwch yr Arglwydd, y Sainct ef: can nad oes eisiae ar y yr ei y ofnant ef.

10Y mae eisiae a’ newyn ar y llewod, a’r sawl y geisiant yr Arglwydd, ny bydd arnyn eisiae dim daoni.

11Dewch veibion, gwrandewch arnaf: dyscaf ychwy ofn yr Arglwydd.

12 Pwy yw’r gwr a chwenych vyw-yt, ac a gar dyðiae y welet da?

13Cadw dy davot rac drwc, ath wefuse, rac dywedyt dichell

14 Ymwrthot ar drwc a ’gwna dda: ymgais a thangneddyf a’ dilyn ef.

15 Llygait yr Arglwydd ar yr ei cyfion, aei glustiae eu llefain.

16Eythr wynep yr Arglwyð yn erbyn yr ei y wna ddrwc, y dori ei coffa y ar ddaiar.

17Yr ei cyfion a lefant, a’r Arglwydd gwrendy, ac ei gwared oei oll trallotion.

18Agos yw’r Arglwydd at yr ei ys ydd a chalon gystuðedic, a’r ei briwedic o yspryt a gadw.

19Llawer o ddrygeu i’r cyfion, a’r Arglwydd ei gwared ywrthynt oll.

20Ef a gaidw ei oll escyrn: yr vn o hanwynt ny ddryllir.

21Eithr drigioni a ladd yr andewiol: a’r ei y gasánt y cyfion a ddyffeithir.

22Yr Arglwydd y bryn eneidiae ei weision: a’r ei oll a ymddiriedant ynthaw, ny ddyffeithir.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help