1OFnwn am hynny, rrac vnrryw amser trwy wrthod addewid entrio yw orphwysfa ef, gael ar neb o honochi foddybygu eu ddiddymmu.
2Can ys y ni pregethwyd yr Evengel mal vddyntwythe: eithr ni thykioð vddynt wy y gair a glowid, am nad oeð wedy eu gydwascu a ffydd yn y rrai ay clywsont.
3Nine yn wir y rrai a gredasom, sy yn entrio ir orphoysfa, megis ac ydyvod ef wrth y llaill, Val hyn y tyngais yn fynniclloni, Os caffāt wy entrio ym gorsswyffa: cyd bayr gwaith wedi y berffeithio o amser gosodiad growndwal y byd.
4Can ys am y saithvet dyð mewn man y dyvawd val hyn, Ac a orffwysawdd Dyw y seithfed tydd oddiwrth eu holl weith.
5Ac yma drachefn, Os cant wy entrio i’m gorphwysfa.
6Or achos hwn gan fod hyn wedi y adael yn ol, vod rrai yn cael entrio y mewn, a’ bod y rrai y pregethwyd yn gynta vddynt, heb entrio herwyð angrrediniaeth,
7Trachefn may yn rracderfynn rryw ðydd, gan ddoydyd trwy ddavydd Heddiw, ar ol cymaint o amser, megis y doytbwyd, Heðiw o gwrandewch y lais ef, na chaledwch ych caloneu.
8Can ys pe Iosua fase wedi y dwyn hwyntw y ’orphoysfa ni sonniasai fe am ddydd arall ar ol hynny.
9Ac am hynny may rryvv ’orphwysfa wedi eu adael yn ol y bobl Ddyw.
10Can ys yr hwn a entrioð yw ’orphwysva, gorffwyso a wnaeth hwnw oddiwrth y weithredoedd eu hun, megis ac y gorphoy savvdd Dyw oddiwrth yr eiddo yntau.
11Rown eyn bryd am hynny ar entrio ir vnrryw orffwysfa, rrac cwympo o neb ar ol yr vn siampl o anefyddtod.
12Can ys bywiol yw gair Dyw, a’ nerthol ei waith, a’ llymach nac vnrryw gleddau‐daufiniog, ac a gyrydd hyd at wahaniad yr enaid, a’r ysbryd, ar cymalau, a’r mer, a’ barnwr yw y meddyliau a’ bwriadau yr galon.
13Ac nid oes vn creadur anamlwg yn y olwc ef: eythr bot pob peth yn noeth ac egored yw lygaid ef, am y rrwn y ddym ni yn son.
14Gan fod am hynny y ni Archeffeiriad mawr, a entriodd ir nefoedd ’sef Iesu mab Dyw, daliwn ein afel ar eyn proffes.
15Can ys nid oes y ni archeffeiriad, rrwn nis dichon gydoddau an gwendid ni, namyn a tentiwyd ym hob peth yr vn moð, eithr yn ðibechawd.
16Am hynny awn yn hyderus at dron y gras, val y dderbyniom trugaredd, ac y gael gras yn gymorth temhoraidd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.