1A Phan ddaethant yn gyfagos y Caerusalem a’i dyuot hwy i Bethphage i vynyth Oliuar, yno yd aduones yr Iesu ddau ddiscipl,
2can ddywedyt wrthynt, Ewch ir pentref y sy gyferbyn a chwi, ac yn y man chwi a gewch asen yn rhwym, ac ebol gyd a hi: gellyngwch wynt a’ dygwch i mi.
3Ac a dywait nep ðim wrthych, dywedwch, vot yn rraid ir Arglwyð wrthynt: yn y man ef y gellwng hwynt.
4A’ hyn ol’ a wnaethpwyt, y gyfloni yr hyn a ðoytpwyt trwy’r Prophwyt, yn doydyd.
5Dywedwch i verch Sion, Nycha, dy Vrenhin yn dyvot atat’ yn war, ac yn eistedd ar asen, ac ebol llwdn asen, weddol.
6Y discipulon a aethant, ac a wnaethant mal y gorchymynawð yr Iesu yðwynt,
7ac a ddugesont yr asen a’r ebol, ac a ddodesont ei dillat arnynt, ac ei gesodesont ef arnwynt.
8A’ thyrva ddirvawr a daneusont ei ddillat ar y ffordd: ereill a doresont gangae o’r gwydd, ac ei tanusont rhyt y ffordd.
9A’r dyrfa a oedd yn mynet o’r blaen, a’r ei oedd yn dyvot ar ol a lefent, can dywedyt Hos‐anna i vap Dauid: bendigedic vo yr hwn ys y yn dywot yn Enw yr Arglwydd, Hos‐anna rhwn wyt yn y nefoedd goruchaf.
10A’ gwedy ei ðy uot i Gaerusalem, y dinas oll a gynnyrfodd, can ddywedyt, Pwy yw hwn?
11A’r tyrvae a ddywedesant. Hwn yw’r Iesu y Prophwyt o Nazaret, yn‐Galilea.
12A’r Iesu a aeth y mewn i templ Dduw, ac ei taflawdd hwynt y gyd allan yr ei oedd yn gwerthy ac yn prynu yn y templ, ac a ddymchlawdd y lawr vyrddae yr newidwyr‐arian, a’ chadeiriae yr ei oedd yn gwerthy colombenot,
13ac a ddyvot wrthwynt, Mae yn escrivennedic, Y tuy meu vi tuy gweddi y gelwir, eithyr chwi ei gwnaethoch yn’ ogof llatron.
14Yno y daeth y daillion a’r cloffion attaw, yn y Templ, ac ef y iachaodd wy.
15A’ phan welawdd yr Archoffeiriait a’r Gwyr‐llen y ryveddodae a wnaethoeðoedd ef, a’r plant yn llefain yn y templ, ac yn dywedyt, Hosanna vap Dauid, y soresont, ac y dywedesont wrthaw,
16A glywy di yr hyn a ddyweit yr ein? A’r Iesu a ddyuot wrthynt, Do: Any ddarllenasech erioed, O enae ’rei‐bychein, a’r ei yn sugno y perffeithieist voliant?
17Yno y gadawodd ef wynt, ac aeth allan o’r dinas i Bethania, ac a letuyodd yno.
18A’r borae ac ef yn ad ymchwelyd ir dinas, ydd oedd arno newyn.
19Ac wrth weled fficuspren ar y ffordd, yd aeth ataw, ac ny chafas ddim arnaw, namin dail yn vnic, ac y dyvot wrthaw, Na bo i ffrwyth dyvu arnat’ byth mwyach. Ac yn ebrwydd y gwywoð y fficuspren.
20A’ phan ei gwelawdd y discipulon, y ryveddesant, gan ddywedyt, Pan’d ebrwydd y gwywodd y fficuspren?
21A’r Iesu a atepawdd ac a ddyvot wrthynt, Yn wir y dywedaf wrthych, pei byddei y chwi ffydd ac eb petrusaw dim, ny wnewch yn vnic yr hyn a’ vvneythym i ir fficuspren, anyd hefyt pe dywedech wrth y mynyth hwn, Cymer dy vn y ffwrdd, a’ bwrw dy vn ir mor, hyny vydd.
22A’ pha beth a archoch yn‐gweddi, a’s credwch, chvvi ei derbyniwch.
23A’ gwedy y ðyvot ef ir Templ, yr Archoffeiriait, a’ Henafieit y popul a ddaethan attaw, val yr oeð ef yn adrodd‐dysc, ac a ddywedesont, Wrth pa awturtot y gwnai di y pethae‐hyn? a’ phwy a roes y ti yr awdurtot hyn?
24Yno ydd atepawdd yr Iesu, ac y dyvot wrthwynt, A’ myvy a ovynaf i chwi, vn‐peth, yr hwn a’s manegwch y‐my, a’ minef a venagaf y chwi wrth pa awturtot y gwnaf i y pethae hyn.
25Betydd Ioan o b’le yð oedd? ai o’r nef, ai o ddynion? Yno y rhysymesont yn ei plith y unain, gan ddywedyt, A’s dywedwn, mai o’r nef: ef a ddyweit wrthym, Paam gan hyny na’s credech yddaw?
26Ac a’s dywedwn mae O ddynion, mae arnam ofyn y popul: can ys bot pavvp oll yn cymeryd Ioan mal Prophwyt.
27Yno ydd atepesont i’r Iesu, gan ddywedyt, Ny wyddam ni. Ac ef a ddyvot wrthwynt, Ac ny’s dyweda vinef y chwi wrth pa awturtot y gwnaf vi hyn.
28And beth dybygwchvii? Ydd oedd i wr ddau vap, ac ef a ddaeth at yr hynaf, ac a ddyvot, Ha vap, does a’ gweithia heddyw yn vy‐gwinllan.
29Ac ef a atebodd ac a ddyvot, Nyd af vi: an’d gwedy edifarhay arno, ydd aeth.
30Yno y daeth ef at yr ail, ac a ddyvot yr vn ffynyt. Ac ef a atepawdd, ac a ddyvot, Mi vvnaf, Arglwydd: ac nyd aeth ef.
31Pa vn o’r ddau a wnaeth ewyllys y tad? Dywedyt o hanynt wrthaw, Y cyntaf. Yr Iesu a ddyvot wrthynt, Yn wir y dywedaf wrthych’, yr aa ’r Publicanot a’r putenieit o’ch blaen chwi i deyrnas Duw.
32Can ys daeth Ioan atoch yn ffordd vniondep, ac ny chredesoch ef: and y Publicanot a’r puteinieit ei credesont ef, a’ chwychwi, er y chvvy weled, ny’s edifarhaech gwedy, yd yn y chredech ef.
33Clywch barabol arall, Ydd oedd ryw berchen tuy yr hwn a blannodd ’winllan, ac y caeawdd hi o yamgylch, ac a wnaeth ynthei winwascpren, ac a adeiladawdd dwr, ac ei llogawdd hi i dirddiwilliawdwyr ac aeth i wlad bell.
34A’ phan nesawdd amser y ffrwythae, e ddanfonawdd ei weision at y tir‐ðiwilliawdrō y dderbyn y ffrwythae hi.
35A’r tir‐ðiwilliawdwyr a ddaliesont y weision ef, ac a vayddesont vn, ac a laddasont arall, ac a lapyddiesont vn arall.
36Trachefyn yd anfonawdd weision ereill, mwy na’r ei cyntaf: ac wy a wnaethant yddwynt yr vn ffynyt.
37Ac yn ddywethaf oll yd anvonawdd ef ei vap y vn, gan ddywedyt, Wy a barchan vy map,
38A’ phan welawdd y tir‐ðiwilliawdwyr y map, y dywedesont yn y plith y vnain, Hwn yw ’r etivedd: dewch, llaðwn ef, a’ chymerwn y etifeddiaeth ef.
39Yno y cymeresont ef, ac ei tavlesont allan o’r winllan, ac ei lladdasont.
40Can hyny pan ddel Arglwydd y winllan, beth a wna ef ir tir‐ðiwilliawdwyr hyny?
41Wy a ddywedesont wrtho. Ef a ddifetha yn graulawn y dynion drwc hyny, ac a lloca ci winllan i dir‐ddiwilliawdwir ereill, yr ei y roðant yðo y ffrwythae yn y hamserae.
42Yr Iesu a ddyvot wrthwynt, Any ðarlleneso‐chwi erioed yn yr Scrythurae, Y maen yr hwn a wrthddodawdd yr adailiadwyr, hwnw a wnaethpwyt yn ben congyl? Hyn oedd weithred yr Arglwydd, a’ rhyvedd yw yn ein llygait ni.
43Am hyny y dywedaf wrthych, y cymerir teyrnas Duw y arnoch, ac y rhoddir i genedl a ddwc y ffrwyth hi.
44A’ phwy pynac a gwympo ar y maen hwn, ef a ddryllir: ac ar pwy pynac y cwymp, y mal ef yn vriwion.
45A’ phan glybu ’r Archoffeirieit a’r Pharisaieit ei barabolae, y gwybuont mai am danynt wy y dywedesei ef.
46Ac wy yn ceisiaw ymavlyt ynðo, a ofnesant rac y bopul, canys yddynt y gymeryd ef val Prophwyt.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.