1TRugará wrthyf Ddew, yn ol dy drugarogrwydd: yn ol lliaws dy ddosturiae diléa vy amwireddeu.
2Golch vi yn llwyrðwys o ywrth vy oll anwiredd, a’ glanha vi o ddiwrth vy-pechot.
3Can vy-bod yn adnabot vy anwireddeu a’m pechot ys ydd yn wastad gar vy-bron.
4Yn dy erbyn di, yn dy erbyn di yn vnic y pechais, ac a wneuthym ddrygioni yn dy olwc, val ith gyfiawnir pan ðywetych, a’ bod yn bur pan varnych.
5 Nachaf, mewn enwiredd im ganet, ac ym-pechot ir ymdduc vy mam vyfy.
6Wele, ceraist wirionedd o ddy mewn: am hyny y dysceist y mi ddoethinep yn-dirgelwch.
7Carth vi ac yssop, ac im glanheir: golch vi, a’ byddaf wnach na’r eiry.
8 Gwna ymy glywed gorfoledd, a’ llawenydd, val y bo i’r escyrn, a ddrylliaist, lawenychu.
9Cudd dy wyneb o ddiwrth vy pechodeu, a’ diléa vy oll enwireddeu.
10 Crea ynof galon ’lan, â Ddew, ac adnewydda yspryt vnion ynof.
11Na vwrw vi ymaith o ddy ger dy vron, ac na ddwc dy Yspryt glan o ddiarnaf.
12 Dwc drachefyn y my ’orfoledd dy iechydwrieth, ac ath hael yspryt cynnal vi.
13Yno y dyscaf dy ffyrdd ir ei anwir, a’ phechadurieid a ddymchwelant atat.
14Gwared vi rhac gwaed, â Ddew, Dew vy iechydwrieth, am tafod a gān yn llafar oth gyfiawnder.
15Arglwydd, agor vy gwefusae, a’m genau a veneic dy voliant.
16Ca’n na ddeisyfy aberth, pe rhoesym: phoeth aberth ny chery.
17Aberthau Duw yspryt drylliedic: calon ddryllioc gystuddedic, Dew ny thremygi.
18Bydd dda wrth Tsion erwydd dy ewyllysgarwch: adeilad vuriau Caerusalem.
19Yna y bydd cymradwy genyt ebyrth cyfiawnder, poeth offrwm ac offrymiat: yna yr aberthant loie ar dy allor.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.